Cynllun Datblygu Lleol Newydd: Safleoedd ymgeisiol ychwanegol

Mae’r cyfle i gyflwyno safleoedd ymgeisiol i’w hystyried yn lle’r Cynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych (CDLl) 2018 - 2033  bellach wedi cau. Bydd unrhyw un sy’n dymuno i’w safle i gael ei ystyried ac sydd heb gael ei gyflwyno eto, angen cyflwyno cynrychiolaeth mewn da bryd i’r cyfnod ymgynghori Dogfen I'w Harchwilio Gan Y Cyhoedd. Bydd hynny’n debygol o gymryd lle ddiwedd 2022.

Rydym wedi derbyn 36 safle ymgeisiol newydd mewn ymateb i’r ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Newydd 2018 tan 2033 (CDLl).

Nid yw cyflwyno safle ymgeisiol ar gyfer y CDLl yr un fath â chyflwyno cais cynllunio i’r Awdurdod Cynllunio Lleol. Nid yw cyflwyno safle ymgeisiol yn golygu y bydd y safle yn cael ei gymeradwyo yn awtomatig fel tir i’w ddatblygu yn y CDLl nesaf. Nid yw’r safleoedd hyn yn safleoedd a ffafrir ar gyfer eu datblygu ar hyn o bryd yn y broses o lunio’r Cynllun.

Gellir cael rhagor o wybodaeth o’r dogfennau canlynol;

Mapiau safleoedd ymgeisiol ychwanegol

Mae'r dogfennau canlynol yn dangos manylion yn cynnwys lleoliad pob anheddiad ar gyfer pob anheddiad a dderbyniwyd (os nad oes anheddiad wedi'i restru, mae hynny'n golygu na wnaethom dderbyn unrhyw gynnig o'r ardal benodol honno);

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd pob safle sydd wedi’u cyflwyno i gael eu hystyried yn y CDLl nesaf yn cael eu hasesu’n llawn. Bydd eich sylwadau yn ein helpu i benderfynu ynghylch symud ymlaen â’r safle i’r cam nesaf yn y broses o lunio’r Cynllun.

Bydd fersiwn ddrafft y CDLl i'w harchwilio gan y cyhoedd yn cynnwys y safleoedd ymgeisiol y mae’r Cyngor yn debygol o’u cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd 2018-2033.

Caiff y safleoedd a ffafrir ar gyfer y CDLl nesaf eu cyhoeddi yn y Cynllun i’w Archwilio Gan y Cyhoedd. 

Darganfod mwy am y camau nesaf o gynhyrchu’r CDLl Newydd.