Diolch i chi am eich diddordeb mewn ymuno â ni yma yng Nghyngor Sir Ddinbych.
Mae Sir Ddinbych nid yn unig yn lle arbennig i weithio, mae o hefyd yn lle bendigedig i fyw. O drefi glan y môr y Rhyl a Phrestatyn i drefi hanesyddol Llanelwy, Dinbych a Rhuthun, o odidowgrwydd Bryniau Clwyd i harddwch Dyffryn Dyfrdwy a threfi Llangollen a Chorwen, mae gan Sir Ddinbych rywbeth i'w gynnig i bawb.
Rwyf wedi bod yn gweithio i Gyngor Sir Ddinbych ers pan gafodd ei ffurfio yn 1996 ac wedi gweithio fy ffordd i fyny drwy nifer o wahanol swyddi. Rwyf wedi bod yn Brif Weithredwr am 18 mis ac rwy’n falch iawn o arwain ac o fod yn rhan o’r Cyngor uchel ei berfformiad hwn sy’n gweithio gyda thrigolion, busnesau a sefydliadau eraill a’i gymunedau i ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl gyda’r adnoddau sydd ar gael.
Fel rhan o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, disgwylir i chi roi cyfeiriad strategol i’ch portffolio o feysydd gwasanaeth gan weithio’n gydweithredol i helpu i lywio moderneiddio’r Cyngor a hybu newid a gwelliannau ar draws ei holl wasanaethau a swyddogaethau er mwyn cyflawni ein blaenoriaethau corfforaethol newydd.
Yn y cyfnod ôl-bandemig hwn mae’r galw am wasanaethau’n parhau i dyfu, sy’n golygu ein bod yn chwilio am arweinwyr uchelgeisiol a thrawsnewidiol a fydd yn gallu darparu arweinyddiaeth strategol, meddwl arloesol ac arbenigedd ar gyfer ein Haelodau Etholedig ac wrth weithredu polisïau, egwyddorion a gwerthoedd y Cyngor.
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i arwain newid trawsnewidiol a chadarnhaol mewn Cyngor uchel ei berfformiad, yna edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais.
Yn ddiffuant,
Graham H Boase
Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych