Cynllun Dechrau Gweithio

Mae ein Cynllun Dechrau Gweithio wedi ymrwymo i gynnig cyfleoedd lleoliadau gwaith o ansawdd uchel cyson sy’n gallu arwain at ganlyniad positif i bawb sy’n cymryd rhan.

Mae lleoliadau gwaith yn gam hanfodol o daith rhywun at waith, yn cynnig cyfle iddynt ddysgu a chael cipolwg ar fywyd gwaith.

Byddwn yn sicrhau bod sgiliau a diddordebau ein cyfranogwyr yn cyd-fynd â’r cyfleoedd rydych yn eu cynnig a byddwn yn eich cefnogi chi a’ch cyfranogwyr ar bob cam.

Rydym yn gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych a busnesau bach a chanolig lleol i gynnig lleoliadau a phrofiadau gwaith gwerthfawr.

Gweld lleoliadau Dechrau Gweithio (gwefan allanol)

Mae dau fath o leoliadau gwaith ar gael dan y Cynllun Dechrau Gweithio:

Lleoliad â Chyflog

Lleoliadau tri mis â chyflog yw'r rhain, a ariennir gan y Cynllun Dechrau Gweithio. Rydym yn talu'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i'r cyfranogwyr yn ystod y lleoliad. Yr oll sydd angen i chi ei wneud fel cyflogwr yw sicrhau bod ganddynt unrhyw offer y mae arnynt ei angen i wneud y gwaith. Mewn rhai achosion, gallwn hyd yn oed dalu costau Cyfarpar Diogelu Personol neu ddillad gwaith.

Lleoliad heb Gyflog

Mae'r rhain yn leoliadau hyblyg heb gyflog sy’n para rhwng 6 a 12 wythnos. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’n tîm Cynllun Dechrau Gweithio workstart@denbighshire.gov.uk.

Cymhwysedd cyflogwr

Os ydych yn fusnes bach neu ganolig yn Sir Ddinbych, yna gallwch ymuno â’n Cynllun Dechrau Gweithio a helpu pobl ar hyd a lled Sir Ddinbych newid eu bywydau er gwell.

Manteision i'ch busnes

  • Ariennir pob lleoliad yn llawn gan y Cynllun Dechrau Gweithio
  • Cryfhau’r gweithlu lleol a dylanwadu ar safon gweithwyr yn y dyfodol
  • Cael mynediad at ystod eang o ddoniau
  • Creu cyfleoedd i ddatblygu
  • Codi eich proffil yn y gymuned
  • Hyfforddi a datblygu eich staff
  • Ennill mwy o gapasiti a chymorth i'ch timau
  • Cefnogaeth barhaus gan ein Cynllun Dechrau Gweithio