Barod / Project Ready

Mae Project Ready yn brosiect peilot wedi ei gyllido gan Gronfa Adfywio Cymunedol y DU. 

Bydd y prosiect yn sefydlu tîm aml-asiantaeth i uno amrywiaeth o wasanaethau i unigolion sydd rhwng 16+ mlwydd oed, er mwyn delio â’r amryfal rwystrau at waith, i godi dyheadau, i gynyddu cymhelliant ac ymgysylltu gyda’r farchnad lafur neu raglenni cyflogadwyedd prif ffrwd yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Y gweithgareddau a ddarperir trwy Brosiect Parod yw:

Ymgysylltu

Byddwn yn hysbysebu’r prosiect, gweithio gyda phartneriaid i nodi cyfranogwyr posibl ac yna gweithio gyda’r unigolyn i’w hysbrydoli i gymryd rhan yn y prosiect.

Asesu a chynllunio

Byddwn yn gweithio gydag unigolion i nodi eu cryfderau a’u gwendidau presennol a’r rhwystrau y maent yn eu hwynebu. Datblygu’r wybodaeth hon i gydgynhyrchu cynllun newid a gytunwyd. Bydd y broses hon yn defnyddio’r ap Here2There (gwefan allanol) i gysylltu cyfranogwyr a staff yn ddigidol. 

Cymorth un i un

Bydd y prosiect yn cynnig cymorth i feithrin hyder a goresgyn y rhwystrau i ganfod gwaith a chael mynediad at hyfforddiant. Yn cynnwys:

  • gweithgareddau meithrin hyder a chymhelliant
  • cael mynediad at hyfforddiant penodol
  • cymorth TG
  • help i lenwi ffurflenni cais am swyddi neu gyrsiau coleg

Mae cymorth un i un yn rhoi cymhelliant ac ysgogiad i helpu’r unigolyn i gyrraedd ei nodau.

Cyngor a chymorth arbenigol

Bydd y prosiect yn cynnwys cymorth digartrefedd ac atal digartrefedd gan gynghorydd arbenigol yn nhîm Atal Digartrefedd y sir, a chyngor arbenigol am fudd-daliadau a dyledion gan Gyngor ar Bopeth (gwefan allanol)

Lle bo hynny’n briodol byddwn hefyd yn cyfeirio at wasanaethau cwnsela am ddim ac yn comisiynu cwnselwyr arbenigol i gefnogi’r rheiny â rhwystrau iechyd meddwl yn seiliedig ar eu hanghenion unigol.

Addysg sy’n gysylltiedig â gwaith a hyfforddiant sgiliau personol a chymdeithasol

Bydd gwaith yn ymwneud ag addysg a hyfforddiant sgiliau personol a chymdeithasol ar gael ar lefel 1 a lefel 2 y Fframwaith Credydau a Chymwysterau (FfCChC). Caiff hwn ei ddarparu gan y prosiect a’i achredu gan Agored Cymru (gwefan allanol). Bydd yr unedau yn canolbwyntio ar:

  • hyder
  • cymhelliant
  • gwaith tîm
  • CVs
  • technegau cyfweliad

Sgiliau sylfaenol

Darperir sgiliau sylfaenol gan Dysgu Oedolion Cymru (gwefan allanol) a darparwyr eraill gyda chymorth staff y prosiect.

Gweithgareddau grŵp

Caiff gweithgareddau lles a chymhelliant eu comisiynu trwy ddarparwyr lleol neu eu darparu yn uniongyrchol gan staff y prosiect, a bydd y detholiad o weithgareddau a ddarperir yn cael eu haddasu yn unol â dewisiadau a gofynion y cohort. Rydym eisoes wedi ymchwilio i’r posibiliadau gydag amryw ddarparwyr lleol a bydd y dewisiadau yn dod o:

  • Gweithgareddau Ffilm, Cyfryngau Cymdeithasol a dylunio digidol
  • Sgiliau coetir a gweithgareddau awyr agored
  • Bwyta’n iach, meddwl iach a gweithgareddau ffyrdd egnïol o fyw
  • Gweithgareddau chwaraeon