Tai cymdeithasol: Rhenti a thaliadau

Gwybodaeth am renti sylfaenol a thaliadau am dai cymdeithasol.

Rhenti sylfaenol

Mae rhent sylfaenol eiddo cyngor ar gyfer tenantiaethau newydd o 4 Ebrill 2022 fel a ganlyn:

Tai cymdeithasol: Rhenti sylfaenol
Math o eiddoRhent sylfaenol
Fflat un ystafell £76.45 yr wythnos
Fflat / fflat deulawr 1 ystafell wely £86.01 yr wythnos
Fflat / fflat deulawr 2 ystafell wely £95.57 yr wythnos
Fflat / fflat deulawr 3 ystafell wely £105.13 yr wythnos
Tŷ / byngalo 1 ystafell wely £95.07 yr wythnos
Tŷ / byngalo 2 ystafell wely £105.62 yr wythnos
Tŷ / byngalo 3 ystafell wely £116.19 yr wythnos
Tŷ 4 ystafell wely £126.76 yr wythnos
Tŷ 5 ystafell wely £137.31 yr wythnos

Bydd eich rhent yn cynnwys costau gwaith atgyweirio a chynnal a chadw wedi'i gynllunio, yn ogystal â chostau rheoli tenantiaeth.

Rhenti sylfaenol ar gyfer garejys

Rhenti sylfaenol ar gyfer garejys o 5 Ebrill 2022:

Rhenti sylfaenol ar gyfer garejys
Garej (ar gyfer tenantiaid y cyngor) £8.27 yr wythnos
Garej (ar gyfer unigolion nad ydynt yn denantiaid y cyngor) £9.92 yr wythnos

Taliadau gwasanaeth

Efallai y bydd eich eiddo cyngor yn derbyn gwasanaethau sy'n destun tâl. Gelwir y rhain yn daliadau gwasanaeth, a bydd yn rhaid i chi dalu amdanynt yn ychwanegol at eich rhent sylfaenol. Dylech dalu taliadau gwasanaeth fel rhan o'ch taliad rhent.

Gallai taliadau gwasanaeth fod yn un neu fwy o'r canlynol:

  • golau a gwres mewn mannau cymunedol
  • gwelliannau gosodiad a gosod mewn ardaloedd cymunedol
  • cyfleusterau golchi dillad
  • gosod, monitro a gwasanaethu camerâu teledu cylch cyfyng
  • monitro a gwasanaethu system mynediad drysau
  • monitro a gwasanaethu offer diogelwch tân mewn ardaloedd cymunedol
  • glanhau ardaloedd cymunedol a glanhau ffenestri cymunedol
  • cynnal a chadw tir ar eich ystâd, gan gynnwys mannau chwarae, glaswellt, coed, llwyni, gwelyau blodau, wyneb caled a llwybrau, codi sbwriel
  • dŵr a charthffosiaeth ar gyfer ardaloedd cymunedol
  • ffi rheoli ar gyfer gweinyddu taliadau gwasanaeth

O dan reoliadau Budd-dal Tai cyfredol, mae'r holl daliadau gwasanaeth hyn yn gymwys i gael budd-dal tai. Maent hefyd yn gymwys fel rhan or Elfen Costau Tai o Credyd Cynhwysol.

Mae taliadau dŵr, gwres ac carthion  ddim ym gymwys o dan unai Budd-Dal Tai neu'r Credyd Cynhwysol.

Byddwch yn gallu gweld ar eich bil faint rydych yn ei dalu am y gwasanaethau a dderbyniwch. Er enghraifft, byddwch yn gwybod faint o'ch taliad wythnosol sy'n mynd ar lanhau, trydan neu nwy i ardaloedd cymunedol a faint sy'n mynd ar gynnal a chadw tiroedd yn eich gardd gymunedol, neu ar eich ystâd.

A oes rhaid i mi dalu taliadau gwasanaeth?

Os ydych wedi rhannu cyfleusterau neu â chyfleusterau cymunedol, bydd yn rhaid i chi dalu taliadau gwasanaeth. Os ydych yn byw mewn eiddo heb unrhyw wasanaethau a rennir neu wasanaethau ychwanegol, ac nid ydym yn cadw unrhyw diroedd cymunedol y tu allan i'ch eiddo neu ar eich ystâd, ni fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw daliadau gwasanaeth.

Ni allwch ddewis peidio â thalu taliadau gwasanaeth, neu peidio â derbyn gwasanaethau a ddarperir. Mae costau tâl gwasanaeth yn cael eu gosod bob blwyddyn.

Sut ydym yn cyfrifo taliadau gwasanaeth?

Byddwn yn cyfrifo eich taliadau gwasanaeth trwy gymryd i ystyriaeth gostau gwirioneddol darparu'r gwasanaet a thâl gweinyddol o 15%. Bydd y gost o ddarparu gwasanaethau mewn bloc, cyfadeiladau neu ardal ystâd neu gymunedol benodol arall, yn cael ei rhannu yn gyfartal rhwng yr holl drigolion sy'n byw yno.