Gwneud cais arlein am Grant Hanfodion Ysgol ar gyfer plentyn sy'n derbyn gofal

Beth sy'n digwydd i fy ngwybodaeth?

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn casglu eich gwybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaethau sydd yn berthnasol i’ch cais.

Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd arlein i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut rydym ni’n trin eich gwybodaeth bersonol.

  • Cyn i chi ddechrau

    Gallwch ond llenwi’r ffurflen hon os ydych yn gwneud cais am Grant Hanfodion Ysgol ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal. Bydd ceisiadau ar gyfer disgyblion nad ydynt yn derbyn gofal yn cael eu diystyru.

    Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i wneud cais am Grant Hanfodion Ysgol un plentyn sy’n derbyn gofal ar y tro. Os hoffech wneud cais am grant ar gyfer mwy o blant, llenwch y ffurflen cynifer o weithiau ag sydd angen.

    Mae’n rhaid bod gennych gyfrif banc i dderbyn grant gwisg ysgol a’r grant offer ysgol.


  • Plentyn sy’n derbyn gofal

    Rhaid i’r plentyn sy’n derbyn gofal, sef y disgybl rydych yn gwneud cais amdano fod yng ngofal Cyngor Sir Ddinbych neu awdurdod lleol arall, ac unai:

    • yn byw gyda rhieni maeth
    • yn byw mewn cartref plant preswyl
    • yn byw mewn lleoliadau preswyl eraill fel ysgolion neu unedau diogel
    • yn byw gyda rhiant, perthynas arall neu unigolyn cysylltiedig ac yn destun gorchymyn gofal
  • Ydych chi’n gwneud cais am Grant Hanfodion Ysgol ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal?