Newidiadau'n ymwneud ag ailgylchu a gwastraff: Gwasanaeth casglu tecstilau

O Fehefin 2024, gallwch ailgylchu eich tecstilau nad ydych eu hangen gan ddefnyddio gwasanaeth casgliadau newydd am ddim a ddarperir gan ein partner, Menter Gymdeithasol Co-Options.

Casgliadau Tecstilau


* Yn anffodus, nid yw’r bagiau ar gyfer y gwasanaeth dewisol i gasglu tecstiliau o’r cartref wedi cyrraedd gan y cyflenwyr. O ganlyniad, nid ydynt wedi eu gyrru i chi gyda’ch Trolibocs neu fagiau hesian, ac ni fydd y gwasanaeth casglu tecstiliau’n gallu dechrau o 3 Mehefin 2024.

Pan fydd y bagiau’n cyrraedd fe fyddwch yn gallu eu casglu o'ch llyfrgell neu Siop Un Alwad leol neu galwch y Ganolfan Gyswllt Cwsmer ar 01824 706000 i ni drefnu i yrru un yn y post i chi.


Sach gwyn untro

Sach Gwyn

Casgliadau tecstilau, gan gynnwys:

  • Dillad glân
  • Esgidiau