Y Cynllun Cymorth Costau Byw

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn cymorth i ddarparu taliad i gartrefi i helpu gyda'r cynnydd mewn costau byw.

Mae ymgeisio am y cynllun hwn bellach ar gau.

Derbyn taliad cymorth

Ym mwyafrif yr achosion, byddwn yn anfon taliad costau byw i’ch cyfrif banc os ydych yn talu eich treth y cyngor drwy Ddebyd Uniongyrchol.

Os byddwch yn gwneud cais am daliad, byddwn yn anelu at brosesu ceisiadau o fewn 28 diwrnod gwaith o dderbyn y cais.

Debyd Uniongyrchol

Gallwch sefydlu Debyd Uniongyrchol ar-lein i dalu eich treth cyngor, ac os ydych yn gymwys, cyn belled â’ch bod wedi gwneud eich taliad Debyd Uniongyrchol cyntaf, gallwn anfon taliad costau byw i’ch cyfrif banc heb i chi orfod gwneud cais.

Sefydlu Debyd Uniongyrchol i dalu eich treth cyngor

Cyfrifon Treth y Cyngor ar y Cyd

Byddem yn gwneud taliad i’r unigolyn arweiniol ar y cyfrif treth y cyngor, neu yn achos talwyr Debyd Uniongyrchol, bydd y taliad yn mynd i’r cyfrif banc a ddefnyddir ar gyfer y Debyd Uniongyrchol.

Ceisiadau aflwyddiannus

Byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod os oedd eich cais yn llwyddiannus neu ddim ac yn cynnig rhesymau dros y penderfyniad hwn. Nid oes proses apelio, ond mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech i ni adolygu ein penderfyniad.

Rhagor o wybodaeth

Dewiswch un o’r canlynol am ragor o wybodaeth:

Eiddo nad ydynt ar y rhestr treth y cyngor

Ni fyddwn yn gallu gwneud taliad am eiddo nes y bydd wedi cael ei ychwanegu at y rhestr Treth y Cyngor gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Tai Amlfeddiannaeth

Caiff Tai Amlfeddiannaeth eu heithrio o’r prif gynllun ond bydd modd eu hystyried yn y cynllun dewisol.

Optio allan o daliad y cynllun costau byw

Os hoffech chi optio allan o dderbyn taliad awtomatig dan y cynllun costau byw, gallwch gysylltu â ni gan ddarparu eich rhif cyfrif treth y cyngor a rhoi gwybod i ni nad oes arnoch chi eisiau’r taliad.