Llinell Amser LHDTC+ Sir Ddinbych

Y Ddraig Goch gydag adenydd amryliw

Yn 2021, comisiynodd Llywodraeth Cymru hyfforddiant Iaith a Hanes LHDTC+ ar gyfer amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau lleol i annog dathlu storïau lleol o gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd.

Mae hyn yn rhan o’r gwaith a wneir ar gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o boblogaeth amrywiol Cymru, ac mae’n ategu Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru, sydd â’r nod o:

  • fynd i’r afael ag anghydraddoldebau ymhlith cymunedau LHDTC+
  • herio unrhyw wahaniaethu yn erbyn pobl
  • creu cymdeithas lle mae pobl LHDTC+ yn ddiogel i fyw a charu mewn ffordd onest, agored a rhydd yn unol â phwy ydyn nhw

Yr oedd yr hyfforddiant yn darparu pwyntiau dysgu effeithiol ac adnoddau ymarferol i alluogi staff a gwirfoddolwyr i symud ymlaen gyda rhaglen hollol gynhwysol, gan arwain at ehangu y tu hwnt i’r sefydliad i’r cyhoedd, er enghraifft haneswyr teulu, haneswyr lleol a grwpiau cymunedol. Bydd hyn yn fodd o allu hyrwyddo deunydd hanesyddol mewn ffyrdd na wnaed o’r blaen ac ehangu gwaith gyda sefydliadau partner, nid yn unig i wneud deunydd LHDTC+ ar gael i’r cyhoedd, ond hefyd wrth gasglu a diogelu’r dreftadaeth hon.

Un canlyniad i’r hyfforddiant Iaith a Hanes LHDTC+ yw llunio llinellau amser ar gyfer pob un o 22 sir Cymru. Mae hyn yn rhoi modd i allu dathlu pobl leol, cyfeillion a digwyddiadau, yn hytrach na chopïo naratifau prif ffrwd ac enwogion.

Lluniwyd llinell sylfaen yn cynnwys adegau amlwg mewn hanes gan Norena Shopland o’i chasgliad o ddeunyddiau hanesyddol Cymreig yn ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd. Cyfrannodd hynny tuag at sefydlu Hanes LHDT+ Cymru / LGBTQ+ Research Group Wales i annog a hyrwyddo ymchwil i hanes LHDTC+ Cymru. Mae eu gwefan, LGBTQ Cymru (gwefan allanol), wedi ei hariannu gan Brifysgol Abertawe i gofnodi cymaint ag sy’n bosibl o wybodaeth ynglŷn â’r hanes hwn.

Mae gwesteiwr penodol ar gyfer llinell amser pob sir, a fydd yn annog dathlu pobl leol, cyfeillion a digwyddiadau yn ystod cyfnodau dathlu drwy gydol y flwyddyn. Anogir pobl i ychwanegu at y llinellau amser, a pharhau i’w hehangu, er mwyn eu gwneud mor gynhwysfawr â phosibl.

Llinell amser Sir Ddinbych

Mae’r holl ddelweddau ar gael i’r cyhoedd o Wikimedia Commons, oni nodir yn wahanol.

1600au

1699

1699

Maen HuailCarreg fawr yw Maen Huail sydd yn Sgwâr Sant Pedr yng nghanol Rhuthun. Ceir plac wrth ei ymyl sy’n nodi mai yno, yn ôl traddodiad, y torrodd y Brenin Arthur ben Huail, brawd Gildas yr hanesydd. Mae cofnod o’r 1699 yn dweud bod y garreg yng nghanol y ffordd, ac mae bellach yn gorffwys ar blinth concrid yn erbyn wal fframiau pren adeilad banc Barclays. Ysgrifennwyd fersiwn o stori Arthur yn dienyddio Huail, a’r rheswm dros hynny, gan Elis Gruffydd (1490-1552), y croniclydd, trawsgrifydd a chyfieithydd Cymreig.

Gwisgodd Arthur ddillad merch er mwyn ymweld â merch yn Rhuthun. Roedd Huail yno, ac fe adnabu Arthur wrth iddo ddawnsio gyda’r merched, gan ei fod yn gloff. Dyma a ddywedodd: "Da iawn yw downshio velly oni bai’r glun." Clywodd Arthur y geiriau, ac roedd yn gwybod pwy oedd wedi eu dweud nhw. Dychwelodd i’w lys, galwodd Huail i ddod ato a rhoddodd gerydd cas iddo am ei anffyddlondeb. Aethpwyd â Huail i Ruthun, lle torrodd Arthur ei ben ar garreg yn y farchnad. Gelwir y garreg hyd heddiw yn Faen Huail.

Ffynhonnell: Wicipedia

1700au

1778

1778

Eleanor Butler (1739 i 1829) a Sarah Ponsonby (1755 i 1831)Mary Caryll. Mae’r tair wedi eu claddu yn Eglwys Sant Collen. Am fwy o wybodaeth am Ladis Llangollen, gweler Wikipedia, ond anwybyddwch y llinell ynglŷn â chael eu gorfodi i briodi yn erbyn eu hewyllys – rhedodd y ddwy i ffwrdd gyda’i gilydd am eu bod eisiau bod gyda’i gilydd, nid unrhyw reswm arall.

1782

1782

Cyhuddwyd y Parch. Hugh Davies, clerigwr o Lanelwy, o ymosodiad ar yr erlynydd – darpar weithiwr iddo – gyda’r bwriad o gyflawni sodomiaeth. Tystiodd gweithwyr eraill bod ymosodiadau eraill tebyg wedi bod. Canfuwyd nad oedd gwir achos i’w ateb, a gwrthodwyd yr achos.

Ffynhonnell: Cronfa Ddata Trosedd a Chosb, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

1800au

1802

1802

Castell y WaunYn nyddiaduron Ladis Llangollen, 1802: Ymweliad â Chastell y Waun. Roeddynt yn ymweld â Chastell y Waun yn aml. Roeddynt yn edmygu’r lle ac yn adnabod teulu Myddleton, a oedd piau’r castell. Roeddynt yn prynu caws gan y staff yno ac yn cyfnewid planhigion a garddwyr – John Jones.

1813

1813

Ddydd Llun diwethaf, listiodd merch mewn dillad dyn fel milwr yn y 63ain catrawd, a oedd yn lluestu yn yr Amwythig. Yn fuan wedyn, cyfaddefodd mai merch oedd hi, a dywedodd mai ei bwriad oedd cael ei listio ar gyfer y 43ain catrawd, oherwydd roedd ei chariad, a oedd bellach ar ddyletswydd dramor, yn y corfflu hwnnw. Roedd wedi creu’r cynllun hwn am ei bod yn dymuno ei ddilyn. Roedd yn gwisgo siaced las a throwsus. Roedd ei thad yn ffermwr parchus yn ardal Llanelwy, Sir Ddinbych. (Cyfieithiad.)

Ffynhonnell: Liverpool Mercury, 22 Ionawr 1813

1819

1819

Mary Charlotte Lloyd (1819-1896)Roedd Mary Charlotte Lloyd (1819-1896) yn dod o deulu Cymreig hynafol a oedd yn byw ym Mhlas Rhagatt, Corwen, pan gafodd ei geni. Roedd yn gerflunydd, a bu’n astudio gyda John Gibson yn Rhufain. Bu’n byw am ddegawdau gyda’r athronydd a’r ffeminist a oedd yn dadlau dros les anifeiliaid, Frances Power Cobbe. Mae gan Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru lun cerdyn post o’r tŷ, cyfeirnod: PPD/108/70.

1822

1822

Anne Lister, better known as Gentleman JackBu Anne Lister, a elwid yn Gentleman Jack, yn ymweld â Phlas Newydd, cartref Ladis Llangollen. Fodd bynnag, nid oedd Eleanor Butler yn dda, ac roedd Sarah Ponsonby wedi dychryn ac nid oedd yn dda ei hun. Dywedodd Mrs Davis, a fu’n delio ag Anne, ei bod wedi adnabod y Ladis ers 13-14 blynedd, a’i bod bob amser yn eu gweld:

mor hoff o’i gilydd, a charedig – nid oedd dau unigolyn erioed wedi byw gyda’i gilydd mor hapus – mae gan bawb feddwl y byd ohonynt a’r bobl sydd o’u cwmpas, ac maent yn gwneud llawer o ddaioni – yr oedd y Fonesig Eleanor wedi bod yn ddynes brydferth – yr oedd Miss Ponsonby yn ddynes hardd iawn – mae’r Fonesig Eleanor Butler tua 80 mlwydd oed – mae Miss Ponsonby rhyw 10 i 12 mlynedd yn iau – mae’r cofnod gwael yma amdanynt yn fy ngwneud yn ddi-hwyl – mae gennyf ddiddordeb mawr yn y ddwy wraig yma, mae yna rywbeth yn eu hanes a phopeth yr wyf wedi ei glywed amdanynt yn creu argraff fawr. (Cyfieithiad.)

Cytunodd Sarah i weld Anne y noson honno, a dychwelodd am 8pm:

aethpwyd â fi i’r ystafell gerllaw’r llyfrgell (yr ystafell frecwast), bûm yn disgwyl munud neu ddau, ac wedyn daeth Miss Ponsonby – dynes fawr, a gerddodd i mewn o glun i glun, ond nid oedd yn dalach na mi – yr oedd yn gwisgo gwisg frethyn fyrwasg las, y siaced heb ei chau yn dangos crys ffriliog cyfrodedd plaen o danodd – cadach gwddf gwyn trwchus, wedi ei roi amdani’n eithaf rhydd – ei gwallt wedi ei bowdro, gyda rhesen i lawr y canol yn y tu blaen, wedi ei dorri i hyd canolig o’i gwmpas ac yn hongian yn syth, ac yn drwchus – wyneb a oedd yn arfer bod yn hardd iawn – hosanau cotwm gwyn bras – esgidiau sliper i ferched gyda thoriad isel, a’i thraed yn hongian drostynt fymryn – ffigwr od iawn ar y cyfan – ond, eto, pan ddechreuodd sgwrsio, anghofiais hyn i gyd, ac yr oedd fy sylw i gyd ar ei hymarweddiad a’i sgwrs. (Cyfieithiad.)

Roedd Anne yn eiddigeddus o’u cartref a’u hapusrwydd, ac wrth iddi adael, ysgwydodd Sarah Ponsonby ei llaw a rhoi rhosyn iddi. Dywedodd Anne y byddai’n ei gadw er cof am y man lle cafodd ei dyfu.

Pan ddangoswyd y gyfres deledu Gentleman Jack ar y teledu gyntaf yn 2019, roedd gwisg Suranne Jones wedi ei seilio ar y gwisgoedd marchogaeth a wisgwyd gan y Ladis.

1826

1826

Ar 1 Mai 1826, cyhuddwyd Philip Chambres, Clerigwr o Henllan, o geisio cyflawni sodomiaeth, ond fe’i cafwyd yn ddieuog.

Ffynhonnell: Cronfa Ddata Trosedd a Chosb, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

1861 – Diddymwyd y gosb eithaf am sodomiaeth pan ddisodlwyd Deddf Troseddau yn erbyn y Person 1828 â Deddf Troseddau yn erbyn y Person 1861. Cafodd cyfanswm o 8921 o ddynion eu herlyn ers 1806 am sodomiaeth, cafodd 404 ohonynt eu dedfrydu i farwolaeth, a dienyddwyd 56. Parhaodd cyfunrywioldeb i fod yn anghyfreithlon tan 1967 yng Nghymru a Lloegr, a 1980 yn yr Alban.

1865

1865

NEWYDDION LLEOL. Sodomiaeth – Daethpwyd â Thomas Williams, brodor o Ddinbych, gerbron mainc y fwrdeistref ddydd Iau, wedi iddo gyflawni trosedd annaturiol ar ddyn o’r enw Edward Williams mewn llety yn y dref. Fe’i neilltuwyd i gael ei dreial yn y brawdlys.

Ffynhonnell: Wrexham Advertiser, 15 Gorffennaf 1865

1870au

1870au

Câi Abel Jones, ‘yr olaf o'r baledwyr mawr’, ei adnabod yn aml wrth ei enw barddol Bardd Crwst – ar ôl man ei eni, Llanrwst. Rywdro yn y 1870au ysgrifennodd faled am ferched yn gwisgo fel dynion er mwyn cael rhyw gyda merched ym Mhlas Uchaf (sydd 1.5 milltir (2.4km) o Gorwen), ac yn ‘Plas Glyn’ (sef Plas Glynllifon, o bosibl, sydd 56 milltir (90km) o Gorwen).

Mae’r ddelwedd ganlynol yn cynnwys testun sydd efallai ddim yn hygyrch i rai pobl. Mae’r testun yn y ddelwedd yn Gymraeg:

Detholiad o faled Abel Jones o Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Am fwy o wybodaeth am y stori hon, gweler Baled Cwiyr AnweddusChân Cwiyr Gymraeg (gwefan allanol)

Delwedd drwy Lyfrgell Genedlaethol Cymru

1874

1874

Gerard Manley Hopkins (1844 i 1889)Roedd Gerard Manley Hopkins (1844-1889) yn fardd Seisnig ac offeiriad Jeswit, a ddaeth yn enwog ar ôl ei farwolaeth fel bardd blaenllaw Fictoraidd. Ym 1874 yr oedd yn byw yn Llanelwy, ac ystyrir ei dair blynedd yno fel rhai mwyaf dylanwadol a hapus ei fywyd. Dadleuwyd bod rhai o gerddi Hopkins yn cynnwys themâu homoerotig.

1884

1884

“I BA BETH Y MAE’R BYD YN DOD (cyfieithiad o ‘WHAT IS THE WORLD COMING TO’): Wrth i ddynion ifanc fynd yn fwy merchetaidd – mae hynny yn sicr yn wir am y rheiny a elwir yn "masiars" – mae merched hefyd yn mynd yn fwy gwrywaidd. Mae masiars gwrywaidd bellach yn rhy ddi-werth i fodoli, bron. Byddai sôn am ewyn y môr yn peri iddynt lewygu, a byddai dim ond gweld Havannah, hyd yn oed, yn difetha eu harchwaeth bwyd i’r fath raddau fel y byddai cyrri berdys yn fwy na phryd iddynt. Ond, ynglŷn â’n testun. Ni all masiar (hynny yw masiar gwrywaidd) fynd y tu hwnt i "a little beauty" neu "Richmond Gem", ond, wel, am y ferch gyfatebol! Mae’r ysmygwr benywaidd yn ysmygu sigârs mwy a chryfach, gyda mwy o awch – neu felly yr ymddengys o berfformiad tair merch ifanc a oedd yn mwynhau eu sigârs nos Lun ar Bromenâd y Rhyl. Ceid tri golau coch eu Havannahs fel signalau perygl wrth gyffordd rheilffordd, ac yr oedd y mwg glas yn cyrlio i fyny mewn cymylau a oedd yn awgrymu’r syniad bod tri phlanhigfäwr o Virginia wedi cyfarfod i drafod sigârs. Yr oedd yr ysmygwyr teg yn amlwg yn hen lawiau ar y gêm.”

Ffynhonnell: Rhyl Advertiser, 25 Hydref 1884

1885

1885 – Cyhoeddodd Senedd Prydain Ddeddf Diwygio Cyfraith Trosedd 1885. Yr oedd Adran 11 y Ddeddf honno, a elwid yn Ddiwygiad Labouchere, yn gwahardd anwedduster dybryd rhwng dynion. Daeth, felly, yn bosibl erlyn pobl gyfunrywiol am gymryd rhan mewn gweithredoedd rhywiol os na ellid profi bod sodomiaeth neu ymgais i gyflawni sodomiaeth wedi digwydd.

1891

1891

‘FFUGIO MEWN DILLAD MERCH (cyfieithiad o ‘MASQUERADING IN WOMAN’S CLOTHES’): Carcharwyd Thomas Owen – gŵr tua 25 mlwydd oed, heb alwedigaeth benodol, a oedd yn dod o Ruthun – gan y Cwnstabl Josiah Barker, wedi ei gyhuddo o fod yn ddyn gwallgof yn crwydro. Ar y noson dan sylw, hysbyswyd y cwnstabl gan Mr Tilston, gof, bod dyn mewn dillad merch yn crwydro o gwmpas Rhydygoleu. Cychwynnodd y Cwnstabl Barker i’r cyfeiriad hwnnw, a thua 11:15 canfu Owen yn crwydro ym mhen uchaf y Stryd Fawr, i ba le y daeth o Rydygoleu. Arestiwyd y dyn anffodus gan y cwnstabl, ac aeth ag ef yn gyflym i swyddfa’r heddlu, wedi gofyn iddo yn gyntaf pam yr oedd mewn dillad merch. A barnu yn ôl ei ymddangosiad a’i ymarweddiad wrth siarad, yr oedd yn wallgofddyn ar grwydr. Ymddengys fod Owen wedi bod mewn gwallgofdy am ddwy flynedd, ond daeth oddi yno fis Hydref diwethaf. Honnir hefyd ei fod wedi cael y dillad yr oedd yn eu gwisgo pan ddaliwyd ef o dŷ ei fam, y dywedir ei bod yn byw yn "Rhos-road", Rhuthun. Gwelodd Mri P. B. Davies Cooke a Tatton Davies Cooke y dyn fore dydd Llun, a Dr E. Williams o’r Wyddgrug, a ddyfarnodd ynglŷn â’i gyflwr meddyliol, a gwnaeth yr ynadon y gorchymyn arferol i Owen gael ei gadw gan yr awdurdodau priodol.’

Ffynhonnell: Llangollen Advertiser, 31 Mawrth 1891

1894

1894

Mrs Bandmann Palmer

‘Hamlet Heno (cyfieithiad o ‘To-night’s Hamlet’): Nos Wener yma, bydd Mrs Bandmann Palmer yn portreadu Hamlet yn yr Operetta House. Ni fu merch ar ein llwyfan – nac ar unrhyw lwyfan arall – ers yr amser pan fu’r actores wych o America, Charlotte Cushman, yn gwneud argraff ar fynychwyr theatr Lloegr, sydd wedi meddu ar y grym dramatig nerthol sydd ei angen i bortreadu cymeriadau gwrywaidd fel sydd gan Mrs Bandmann Palmer. Ers cyfnod Charlotte Cushman, ni chafwyd unrhyw un a allai gystadlu â Mrs Bandmann Palmer i fod y Cushman Seisnig. Ni all unrhyw un byw gystadlu â rhagoriaeth ddramatig y grym arbennig sydd ganddi wrth bortreadu Hamlet, Tywysog Denmarc.’

Ffynhonnell: Rhyl Journal, 1 Medi 1894

1895

1895

1895 – Cafodd Oscar Wilde ei ddedfrydu i ddwy flynedd yn y carchar gyda llafur caled ar ôl cael ei roi ar brawf am anwedduster dybryd o ganlyniad i’w berthynas â’r Arglwydd Alfred Douglas.

Cafodd Robert Garrett Roe, gŵr oedrannus a fu’n ysgolfeistr yn Swydd Northampton, ei gyhuddo o ymddygiad anweddus dybryd. Anfonwyd Roe i Wrecsam gan y Ffederasiwn Rhyddfrydol Cenedlaethol i drefnu Bwrdeistrefi Dinbych ar gyfer yr ymgeisydd Rhyddfrydol yn yr etholiad diweddar, ac arhosodd yn y Maelor Temperance Hotel lle digwyddodd y troseddau, sef ymosod yn anghyfreithlon ac anweddus ar Arthur Henry Guntrip a William Williams. Gwadodd Roe ei fod wedi bwriadu cyflawni’r drosedd ddifrifol y cyhuddwyd ef ohoni, ac apeliodd am drugaredd. Anfonodd y fainc ef i sefyll ei brawf am ymosodiad anweddus, ond oherwydd y gwrthodwyd mechnïaeth iddo fe’i symudwyd o Wrecsam i Garchar Rhuthun. Fe’i cafwyd yn ddieuog.

Ffynhonnell: Wrexham Advertiser, 2 Tachwedd 1895

1900au

1914

1914

Vesta Tilley (1864 to 1952)Ymddangosodd Vesta Tilley (1864-1952) – perfformwraig yn theatrau cerdd Lloegr a oedd yn adnabyddus am bortreadu dynion – yn y Pafiliwn yn y Rhyl ar 2 Medi.

1914 – Dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf ym mis Awst 1914. Ysgrifennodd yr hanesydd A. D. Harvey fod tua 230 o filwyr wedi cael eu rhoi ar brawf yn y llysoedd marsial, eu dyfarnu’n euog a’u dedfrydu i gyfnodau yn y carchar am droseddau cyfunrywiol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

1916

1916

(Cyfieithiad) Yn Llangwm ger Corwen ddydd Sadwrn cynhaliwyd angladd Mrs Janet Pugh, tenant fferm Bwlch Carneddog, ac yr oedd llawer iawn o bobl yn bresennol. Yr oedd Mrs Pugh, a oedd yn ei 76ain blwyddyn, yn gymeriad nodedig yn ystod Rhyfel y Degwm chwarter canrif yn ôl, ac yr oedd yn flaenllaw ymysg yr ymladdwyr yn y terfysg hanesyddol yn Llangwm, lle cafodd 38 eu harestio. Yr oedd yr hen wraig yn ymddangos yn gyhoeddus yn gyson yn gwisgo dillad dyn, ac yr oedd yn beth cyfarwydd ei gweld mewn het gron galed a throwsus melfaréd mewn Mawrthnadoedd a ffeiriau yn y cyffiniau. Yr oedd yn ddisgybl a ffrind agos i’r Prifathro Michael Jones o’r Bala.

Ffynhonnell: Llangollen Advertiser, 8 Rhagfyr 1916

1921

1921

1921 – Diwygiwyd Deddf Diwygio Cyfraith Trosedd yn Nhŷ’r Cyffredin i gynnwys adran yn gwneud gweithredoedd rhywiol o anwedduster dybryd rhwng merched yn anghyfreithlon. Pasiwyd y Ddeddf gan Dŷ’r Cyffredin, ond fe’i rhwystrwyd gan Dŷ’r Arglwyddi.

Billie Manders (chwith) gyda Bertram Jones

Cyrhaeddodd Billie Manders (1887-1950) yn y Rhyl ym 1921, a chymryd yr Amphitheatre ar brydles, ac agor yno ar 11 Gorffennaf. Yr oedd saith yn y cwmni gwreiddiol – pob un yn ddyn – a daeth yn llwyddiant yn syth. Yr oedd Mr Manders bob tro’n ymddangos fel merch. Cynhaliwyd y sioeau am 44 tymor yn olynol tan 1964. Byddent yn aml yn teithio o gwmpas y wlad fel Billie Manders a’r Quaintesques. Ym 1934 daethant yn gyntaf mewn cystadleuaeth gan y Sunday Despatch am yr adloniant gwyliau mwyaf poblogaidd yn Ynysoedd Prydain, yn ôl barn y darllenwyr.

Ffynhonnell: “Billie Manders and the Quaintesques“, gwefan Rhyl History Club; Bill Ellis, Entertainment in Rhyl and North Wales, pennod 2 (The Chalford Publishing Company, Chalford). ISBN  0 7524 0728 7

1924

1924

Roedd Edward Prosser Rhys (4 Mawrth 1901 – 6 Chwefror 1945) yn newyddiadurwr, bardd a chyhoeddwr. Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl ym 1924 am ei gerdd “Atgof“, er ei bod yn gerdd ddadleuol oherwydd ei chynnwys cyfunrywiol. Mae’r gerdd yn sôn yn helaeth am ryw – rhyw heterorywiol, yn bennaf – ond y mae adran fer yn sôn am brofiad hoyw. Cafwyd damcaniaethau ei bod yn cyfeirio at Morris T. Williams, ffrind i Prosser Rhys a oedd, ar y pryd, yn briod â Kate Roberts.

Ffynhonnell: Wikipedia

1935

1935

JDaeth John Cowper Powys (1872-1963), athronydd, darlithydd, nofelydd, adolygydd a bardd o Loegr, i fyw i Gorwen ym 1935, lle y lleolir dwy nofel ganddo. Symudodd i Flaenau Ffestiniog ym 1955, ac yno y bu farw ym 1963. Ysgrifennodd A sailor and a homosexual: Essays on Joseph Conrad and Oscar Wilde (1923).

Kate RobertsCyfarfu Kate Roberts â Morris T. Williams mewn cyfarfodydd Plaid Cymru, a phriododd ef ym 1928. Roedd Williams yn argraffydd, ac ymhen amser prynodd Wasg Gee, Dinbych, a mynd i fyw yn y dref ym 1935. Roedd y wasg yn cyhoeddi llyfrau, pamffledi a’r wythnosolyn, Y Faner, yr oedd Kate Roberts yn ysgrifennu ar ei gyfer yn rheolaidd. Wedi marwolaeth ei gŵr ym 1946, bu’n rhedeg y wasg am ddeng mlynedd arall. Credir bod Kate a Morris wedi cael perthnasoedd o’r un rhyw. Mae papurau Morris T. Williams, Gwasg Gee, Dinbych, 1900-1945, yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, DD/DM/128.

1942

1942

John Menlove Edwards (1910-1958), seiciatrydd o Loegr a dringwr mynyddoedd – yn dringo mynyddoedd Cymru’n arbennig. Ym 1942 ymddeolodd i Hafod Owen, uwch ben Nant Gwynant yn Eryri, ond derbyniodd therapi electrogynhyrfol a phigiadau inswlin dwfn yn Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych, am ansadrwydd meddyliol, o bosibl o ganlyniad i geisio cuddio’i gyfunrywioldeb. Cyflawnodd hunanladdiad, ac mae ei lwch wedi ei wasgaru yn Hafod Owen.

1945 – Yr Ail Ryfel Byd yn dod i ben. Newidiodd agweddau moesol tuag at gyfunrywioldeb yn dilyn y Rhyfel.

1946 – Derbyniodd Michael Dillon un o’r llawdriniaethau ailbennu rhyw cyntaf o fod yn fenyw i fod yn wryw.

1949

1949

Cosb gan Lanc Ifanc am Ymgais Lwgrwobrwyo (cyfieithiad o ‘Punished by Youth for Bribery Bid’)

“Roeddech yn ei haeddu,” meddai’r Barnwr.

“Mae’n amlwg bod y llanc ifanc a dargedwyd wedi gadael olion haeddiannol iawn ar y dyn yma a geisiodd ei lwgrwobrwyo,” meddai Mr Ustus Hallett ym Mrawdlys Rhuthun pan rwymodd Henry Douglas Williams, 35 mlwydd oed, o Stryd Clwyd, Rhuthun, i gadw’r heddwch am dair blynedd. . Yn ogystal, gorchmynnwyd Williams gan y barnwr i dalu costau heb fod yn uwch na £50. Plediodd Williams, casglwr trethi a oedd yn cael ei gyflogi gan gyngor y fwrdeistref, yn euog i gyhuddiad o ymosodiad anweddus. Honnwyd ei fod wedi gwneud awgrymiadau i lanc ifanc 17 mlwydd oed, ac yn ddiweddarach canfu’r heddlu ef yn golchi ei wyneb. “Ia,” meddai Mr Ustus Hallett, “dechreuodd y gŵr ifanc hwn ei daro, ac aeth at y fforman.” Gan siarad â Williams, a ddywedodd ei fod yn barod i’w roi ei hun dan oruchwyliaeth y Swyddog Prawf, dywedodd y barnwr: “Mae’r ffaith eich bod wedi honni mai’r llanc a wnaeth yr awgrym yn eich gwneud yn berson drygionus.”(Cyfieithiad.)

Ffynhonnell: News of the World, 30 Hydref 1949

1951 – Daeth Roberta Cowell, cyn-beilot Spitfire yn ystod yr Ail Ryfel Byd, y ddynes drawsryweddol gyntaf i dderbyn llawdriniaeth gadarnhad gwryw i fenyw.

1954 – Cyflawnodd Alan Turing hunanladdiad. Roedd yn fathemategydd, rhesymegydd, cêl-ddadansoddwr a chyfrifiadurwr a fu’n ddylanwadol yn natblygiad cyfrifiadureg. Roedd wedi derbyn cwrs o hormonau benywaidd (ysbaddiad cemegol) gan feddygon yn hytrach na mynd i garchar ar ôl cael ei erlyn gan yr heddlu oherwydd ei gyfunrywioldeb.

Ffurfiwyd Pwyllgor Wolfenden. Pan ddaeth i gasgliad ym 1957, argymhellodd ddad-droseddoli cyfunrywioldeb rhwng dynion yn rhannol. Pan na ddilynwyd yr argymhellion hyn gan y llywodraeth, ffurfiwyd Cymdeithas Diwygio Cyfreithiau Cyfunrywiol (Homosexual Law Reform Society) i ymgyrchu dros ddeddfu’r argymhellion.

1960au

1960au

April Ashley (1935 to 2021)Roedd April Ashley (1935-2021), model a menyw draws adnabyddus o Loegr, yn un o’r bobl gynharaf ym Mhrydain y gwyddys ei bod wedi cael llawdriniaeth ailbennu rhyw. Yn ei bywgraffiad, ysgrifennodd (cyfieithiad):

‘Cyfarfûm ag un o gyfarwyddwyr bragdy lleol, a gynigiodd i mi fynd ar gwrs arlwyo. Roedd fy lleoliad cyntaf gyda Mr a Mrs Leadbetter yng Nghaer, yn nhafarn y Commercial yn St Peter’s Graveyard. Ond wrth i mi ddechrau denu cwsmeriaid allblyg cefais draed oer a gofynnais am gael fy adleoli. Cefais fy adleoli i Westy’r Westminster, y Rhyl, i ddysgu sut i weithio mewn ystafelloedd bwyta a cheginau. Yr oedd yr adeg dawel o’r flwyddyn ac yn hollol farwaidd (sglefrio ar olwynion oedd y pleser mwyaf i’w gael yn y dref), felly ar ôl ychydig fisoedd gofynnais am gael fy adleoli eto. Deuthum i Lanelwy. Nid oeddwn yn gallu cyd-dynnu â’r teulu a oedd yn rhedeg y gwesty. Aeth pethau’n ormod pan ruthrodd ceffyl a’m llusgo i ar fy nghefn drwy’r strydoedd siopau un prynhawn Sadwrn prysur. Beth bynnag, dim ond hyn a hyn allwch chi ddysgu am ystafelloedd bwyta. Doedd gen’ i ddim mwy o syniadau; roedd rhaid i rywbeth arall ddigwydd..’

Y gwesty yn Llanelwy oedd y Talardy (sy’n dal i fod yno gerllaw gwibffordd yr A55).

Roeddwn i’n gweithio yno gyda hogyn tenau a oedd ddwy neu dair blynedd yn iau na fi. Fyddech chi ddim wedi ei adnabod o fel darpar ddirprwy Prif Weinidog Prydain. Roedd John Prescott wedi gadael cartref i weithio fel dirprwy gogydd yn y gwesty. Roedd yn weithiwr caled. Roedd y ddau ohonom yn rhannu ystafell gyda bachgen arall. Rwy’n credu fy mod braidd yn ecsotig iddo ar y pryd oherwydd fy edrychiad androgynaidd; fodd bynnag, buom yn siarad llawer. Cafodd lety arall yn fuan. Roeddwn yn ei hoffi o, diolch byth, oherwydd mi fyddai o gymorth mawr i mi yn y dyfodol. Gol. gyda chael ei Thystysgrif Cydnabod Rhywedd.) Ond doeddwn i ddim yn gallu cyd-dynnu â’r teulu.

Ymddeolodd April am rai blynyddoedd i’r Gelli Gandryll cyn symud i Lundain.

Ffynhonnell: Duncan Fallowell & April Ashley, April Ashley’s Odyssey (Jonathan Cape, London, 1982); April Ashley with Douglas Thompson, The First Lady (John Blake, London, 2006).


Yn y 1960au, er gwaethaf yr elyniaeth tuag at groeswisgo o fewn gwasanaethau iechyd meddwl, bob wythnos yng ngwersylloedd gwyliau poblogaidd y DU, gan gynnwys Prestatyn, y Rhyl, ac ati, roedd y noson wyneb i waered (‘topsy-turvy night’) yn annog dynion a merched i wisgo dillad ei gilydd o leiaf unwaith yn ystod eu harhosiad.

1967 – Ddeng mlynedd wedi Adroddiad Wolfenden, cyflwynodd Leo Abse, yr AS o Gaerdydd, Fil Troseddau Rhywiol 1967 a gefnogwyd gan AS Llafur Roy Jenkins, Ysgrifennydd Cartref Llafur ar y pryd.

1968

1968

Mae cofnodion cyfarfodydd wythnosol swyddogion meddygol yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (Rhuthun). Maent yn cynnwys nodyn yn dweud bod trafodaeth wedi codi ynglŷn â phroblem claf a oedd yn ymwneud â gweithgareddau cyfunrywiol. Cafodd y claf ei drin yn ddiweddarach gyda phigiadau Stilboestrol. [Nid oes unrhyw wybodaeth bersonol am y claf.]

Ffynhonnell: Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, HD/1/523, Mawrth 1968

1970 Sefydlwyd y Ffrynt Rhyddhad Hoyw (Gay Liberation Front).

1972

1972

Mae cofnodion cyfarfodydd wythnosol swyddogion meddygol yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (Rhuthun). Maent yn cynnwys manylion achosion cleifion. Ceir ynddynt nodyn byr yn dweud bod claf trawsrywiol yn gofyn am lawdriniaeth i gael gwared â’i bidyn. [Nid oes unrhyw wybodaeth bersonol am y claf.]

Ffynhonnell: Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, HD/1/523, October 1972

1974 – Daeth AS Llafur Maureen Colquhoun allan fel yr AS lesbiaidd cyntaf.

1977

1977

Dyfarnwyd cyn-Faer Dinbych ac aelod o’r cyngor tref yn euog yn Llys y Goron, Manceinion, o gyflawni gweithred o anwedduster dybryd mewn toiledau cyhoeddus. Roedd Raymond Fox-Byrne, 34 mlwydd oed, o Accar-y-Forwyn, Dinbych, wedi pledio’n ddieuog i gyflawni’r drosedd gyda dyn arall y mis Gorffennaf cynt. Wrth roi rhyddhad amodol iddo am 12 mis dywedodd y Barnwr John da Cunha (cyfieithiad): ‘Rwy’n gobeithio na fydd yr euogfarn hon yn effeithio mewn unrhyw ffordd ar eich gyrfa fel swyddog llys nac ar eich bywyd cyhoeddus.’ Wrth roi tystiolaeth, gwadodd Fox-Byrne, clerc yn Llys y Goron, Caer, mai ef oedd yr unigolyn a welwyd gan yr heddlu. Honnodd ei fod wedi mynd i mewn i’r ciwbicl wrth i ddyn arall ddod allan.

Ffynhonnell: Manchester Evening News, 2 Chwefror 1977

1980

1980

Gwrthododd Cyngor Sir Clwyd gais gan undeb i gynnwys cymal ynglŷn â pheidio â gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol yn eu telerau ac amodau cyflogaeth.

Mae’r ddelwedd ganlynol yn cynnwys testun sydd efallai ddim yn hygyrch i rai pobl. Mae’r testun yn y ddelwedd yn Saesneg. Gweld y testun mewn fformat mwy hygyrch..

Detholiad o ddogfen cofnodion Is-bwyllgor Personél Cyngor Sir Clwyd 10 Mehefin 1980

Ffynhonnell: Cofnodion, Is-bwyllgor Personél Cyngor Sir Clwyd, 10 Mehefin 1980

1982

1982

Roedd llythyr gan Jane Roberts i’r Caernarvon and Denbigh Herald ynglŷn ag obsesiwn y cyfnod gyda brwydo ac ymgyrchu dros achos teilwng neu leiafrif ethnig, yn cynnwys y paragraff hwn (cyfieithiad):

Canfu pobl gyfunrywiol neu drawswisgwyr ffordd o fynegi eu teimladau mewn drama a phantomeim, ac ati. Heddiw, anaml y bydd pobl gyffredin yn cael cyfleoedd o’r fath. Dyna pam mae gan bobl gymaint o obsesiwn gydag ymgyrchu ar ran grwpiau ymylol. Mae’n rhaid cadw cymunedau bach yn fyw er lles ein callineb yn ogystal â’n hunaniaeth.

Ffynhonnell: Caernarvon and Denbigh Herald, 27 Awst 1982

1982 – Bu farw’r Cymro Terry Higgins o AIDS yn Ysbyty St Thomas, Llundain. Sefydlodd ei bartner Rupert Whitaker a’i ffrind Martyn Butler Ymddiriedolaeth Terry Higgins (a ddaeth wedyn yn Ymddiriedolaeth Terrence Higgins), elusen AIDS gyntaf y DU.

1984 – Etholwyd yr AS Chris Smith, gan ei wneud y gwleidydd cyntaf yn senedd y DU i fod yn agored ynglŷn â bod yn gyfunrywiol.

Lansiwyd Lesbiaid a Hoywon yn Cefnogi’r Glowyr – ymgyrch o gefnogaeth gan bobl LHDT+ i weithwyr a oedd ar streic yn ystod Streic y Glowyr ym 1984 a 1985. Mae’r ffilm Pride yn ymdrin â’r stori.

1984

1984

Daeth Christine Evans (1943-) yr wrolegydd nodedig, i’r Rhyl a chynnal llawer o lawdriniaethau newid rhyw (llawdriniaethau ailbennu rhywedd) yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, Sir Ddinbych. Parhaodd Miss Evans i wneud y llawdriniaethau hyn tan 2004 pan ymddeolodd, ac arweiniodd hynny hefyd at gwymp gwasanaeth Hunaniaeth Rhywedd gogledd Cymru a oedd wedi ei leoli yn Ysbyty Bangor (Dr Kenny Midence, seiciatrydd), Ysbyty Brenhinol Alexandra, y Rhyl (Dr Stephen Wong, endocrinolegydd), ac Ysbyty Maelor Wrecsam (Martin Riley, rhywolegydd). Ni fu gwasanaeth cyflawn yng ngogledd Cymru wedyn tan 2022, pan ailsefydlodd Gwasanaeth Rhywedd Cymru Glinig Rhywedd ategol yng ngogledd Cymru yn Ysbyty Cymuned Treffynnon.

1988 – Deddfwyd Adran 28 Deddf Llywodraeth Leol 1988 fel gwelliant i Ddeddf Llywodraeth Leol 1986 y Deyrnas Unedig ar 24 Mai 1988, yn datgan na ddylai awdurdod lleol “yn fwriadol hyrwyddo cyfunrywioldeb na chyhoeddi deunydd gyda’r bwriad o hyrwyddo cyfunrywioldeb” na “hyrwyddo addysgu mewn unrhyw ysgol a gynhelir fod cyfunrywioldeb yn dderbyniol fel perthynas deuluol honedig”.

Ni chafwyd unrhyw erlyniad dan Adran 28 oherwydd nid oedd unrhyw un yn gwybod beth oedd ‘hyrwyddo’ yn ei olygu na beth oedd ‘perthynas deuluol honedig’.

1994

1994

Mae’r ddelwedd ganlynol yn cynnwys testun sydd efallai ddim yn hygyrch i rai pobl. Mae’r testun yn y ddelwedd yn Saesneg. Gweld y testun mewn fformat mwy hygyrch..

Hysbyseb Gwesty'r Hand

Ffynhonnell: Gay Times, Ebrill 1994

1995

1995

Trywanwyd Edward Carthy, 28 mlwydd oed, i farwolaeth yng Nghoedwig Clocaenog ym mis Hydref gan lofrudd lleol a gyfarfu mewn bar hoyw.

1997

1997

Yn y Rhyl ym 1997 – yr un flwyddyn â datganoli Cymru – sefydlodd Prosiect Pobl Ifanc Gorllewin y Rhyl, a sefydlwyd i gefnogi pobl ifanc hoyw a lesbiaidd yn eu harddegau, grŵp cefnogi LHDT o’r enw Deuce (a ailenwyd yn ddiweddarach yn VIVA). Mae’n dal i fodoli heddiw ac yn parhau i fod wedi ei ganoli yn y Rhyl. Maent bellach yn cynnal cyfarfodydd yng Nghyffordd Llandudno, y Rhyl, Wrecsam a’r Wyddgrug, a grŵp ar y cyd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy. Maent hefyd yn rhedeg cynllun tai gyda Chymdeithas Tai Clwyd Alyn ar gyfer pobl ifanc LHDTRhC+ hyd at 28 mlwydd oed. (Gweler 2021 “Ty Pride”).

Gwasanaethau Arbenigol Viva LHDT a chefnogaeth uniongyrchol ar gyfer pobl ifanc LHDTC+ (14-25 mlwydd oed) a’r rheiny sy’n cwestiynu eu cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhywedd a’u teuluoedd / gofalwyr, wedi eu lleoli yn y Rhyl ac yn cwmpasu gogledd Cymru gyfan.

1999

1999

Mae’r ddelwedd ganlynol yn cynnwys testun sydd efallai ddim yn hygyrch i rai pobl. Mae’r testun yn y ddelwedd yn Saesneg. Gweld y testun mewn fformat mwy hygyrch..

Hysbyseb Gwesty Talardy Park

Ffynhonnell: Gay Times, Awst 1999

2000au

2000

2000

2000 – TRhoddodd Llywodraeth Lafur y DU ddiwedd ar yr arfer o wahardd pobl gyfunrywiol o’r lluoedd arfog ar ôl i Lys Hawliau Dynol Ewrop ei wneud yn anghyfreithlon.

Cyflwynwyd deddfwriaeth hefyd gan y llywodraeth i ddiddymu Adran 28 yng Nghymru a Lloegr – gwrthwynebwyd y cam gan y Ceidwadwyr. Trechwyd y bil gan esgobion a Cheidwadwyr yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Diddymwyd Cymal 2a (Adran 28) Deddf Llywodraeth Leol yn yr Alban ym mis Hydref, ond parhaodd i fodoli yng Nghymru a Lloegr.

Rhestrwyd y canlynol yn adrannau hysbysebu’r Gay Times fesul sir (cyfieithiad):

Parcio. Gwesty Talardy Park, Llanelwy, ger yr A55. 01745-584-957. Sa. Ffoniwch am ddyddiadau 9-2. Dim Tmrs.

Grŵp Ieuenctid LHD Dan 26. Y Rhyl, Isabel: 351 293

Switsfwrdd LHDT ddydd Gwener 7-9pm. 337070

Ffynhonnell: Gay Times, Chwefror 2000)


Y 15/20 Club, a fu ym mherchnogaeth Albert Dyson, brodor o’r Rhyl, rhwng tua 1960 a 1980. Cafodd ei ddisgrifio gan sawl tyst fel clwb hoyw, a dywedodd Dyson ei hun wrth y Tribiwnlys ei fod yn lleoliad ar gyfer pobl hoyw ar nosweithiau Sadwrn, a drefnid gan grŵp o’r Rhyl, yn ystod 18 mis i ddwy flynedd olaf ei fodolaeth.

Ffynhonnell: Ar Goll Mewn Gofal: Adroddiad y Tribiwnlys Ymchwilio i Gam-drin Plant Mewn Gofal yn Hen Ardaloedd Cyngor Sir Gwynedd a Clwyd er 1974 (Yr Adran Iechyd, 2000)

2002

2002

Logo Unique Transgender Network Sefydlwyd Rhwydwaith Trawsryweddol Unique yn yr Wyddgrug ym mis Chwefror 2002, ond mae wedi ei leoli yn y Rhyl, Sir Ddinbych, ers 2005. Mae Unique, y grŵp cefnogi Traws* mwyaf yng ngogledd Cymru, yn grŵp hunangymorth a chymdeithasol gwirfoddol sy’n cefnogi pobl Draws (trawsryweddol) / amrywiol o ran rhywedd ledled gogledd Cymru. Mae Unique yn cael ei redeg gan bobl Draws, ac mae aelodaeth y grŵp yn adlewyrchu’r holl sbectrwm Traws / rhywedd anghydffurfiol. Mae’n darparu gwybodaeth gyfredol i gynorthwyo pobl wrth wneud penderfyniadau a gwrthsefyll yr anwybodaeth a’r rhagfarn a brofir o hyd. Mae Unique hefyd yn rheoli tŷ’r Gymuned Draws, lle gall pobl fynegi eu hunaniaeth rhywedd a magu hyder i fod "allan" fel nhw eu hunain. Mae’n lle tawel i gyplau drafod a chael gwybodaeth ynglŷn â materion hunaniaeth rhywedd, ac mae’n lloches ar gyfer pobl draws sydd wedi cael eu gwneud yn ddigartref yn sydyn. Mae hefyd yn darparu llety ar gyfer troseddwyr traws sydd newydd eu rhyddhau neu rhai sydd ar absenoldeb awdurdodedig. Yn ogystal, mae’n cefnogi pobl Draws, nad oes ganddynt gefnogaeth gartref, ar ôl llawdriniaeth cadarnhau rhywedd. Fe’i defnyddir ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau, grwpiau ffocws, ac ati, a chan grwpiau LHDT+ lleol eraill, ac mae’n gartref gwyliau ar gyfer aelodau’r gymuned LHDT+ am hyd at 3 wythnos o wyliau.

Prif bwrpas Unique yw cynorthwyo pobl Draws i dderbyn eu hunain a chael eu derbyn gan eraill. Rydym yn hyrwyddo’r sgiliau mae pobl draws eu hangen i ryngweithio’n gymdeithasol yn eu rhywedd priodol, a rhoi cipolwg i bobl yn gyffredinol i’r enfys o amrywiaeth sydd yna o ran rhywedd. Cyflawnir hyn drwy gyfoeth y grŵp o brofiad personol a chysylltiadau defnyddiol drwy’r gymuned leol a’r gymuned i gyd ledled Cymru, yn ogystal â phroffesiynau gofalu.

Mae Unique yn cyfarfod chwe gwaith y mis mewn amgylcheddau cyfeillgar a diogel yn y Rhyl, Prestatyn, Bangor a Glannau Dyfrdwy, lle gall pobl amrywiol o ran rhywedd gyfarfod, canfod cefnogaeth a gwneud ffrindiau. Mae Unique yn grŵp cynhwysol sy’n croesawu’r holl bobl Draws o bob amrywiaeth rhywedd, ac mae’n cynnwys partneriaid, ffrindiau ac unrhyw un sy’n dymuno cefnogi a deall y gymuned Drawsryweddol yn well.

Un o brif amcanion Unique yw ymgysylltu â’r gymuned ehangach – y bobl Draws hynny sydd angen cymorth ac anogaeth, ac addysgu’r cyhoedd i hyrwyddo ymwybyddiaeth a chydraddoldeb ar gyfer pobl Draws. Mae Unique yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn ystod eang o weithgareddau i hwyluso gwell dealltwriaeth o faterion Traws a gwella cysylltiadau rhwng y gymuned drawsryweddol a’r gymuned yn ehangach. Mae Unique wedi casglu gwybodaeth helaeth ynglŷn â’r gymuned drawsryweddol, a magu profiad eang o’r gymuned, er mwyn darparu hyfforddiant arbenigol ar ymwybyddiaeth o gydraddoldeb ac amrywiaeth o ran pobl Draws. Hyd yn hyn mae wedi darparu dros 850 o gyrsiau i bron i 180 o wahanol sefydliadau.

Mae Unique yn ymgynghori â nifer o sefydliadau ar y materion hyn, gan gynnwys cynghorau lleol, prifysgolion, Iechyd Cymru, yr Heddlu, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf, a Fforwm Seneddol y DU ar hunaniaeth rhywedd.

Mae’n ysgrifennu ac yn gwirio polisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth a pholisïau trawsnewid ar gyfer ystod eang o sefydliadau.

Mae Unique hefyd yn bartner ym mhrosiect TrAC (Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Bobl Draws Hŷn) gyda Phrifysgol Abertawe. Mae hefyd yn cynnal 10 cyfarfod cymdeithasol ar-lein dros Zoom bob mis i estyn llaw at aelodau ynysig o’r gymuned a’r rheiny na allant fynd i’r cyfarfodydd byw.

Mae *Traws yn derm ymbarél sy’n cynnwys unrhyw rai sy’n teimlo fod y rhyw / rhywedd a bennwyd iddynt pan gawsant ei geni (gwryw neu fenyw) naill ai’n anghywir neu’n ddisgrifiad anghyflawn ohonynt.

2003

2003

2003 – Adran 28, a oedd yn gwahardd cynghorau ac ysgolion rhag hyrwyddo cyfunrywioldeb yn fwriadol, yn cael ei diddymu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Gwnaeth Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth hi’n anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn pobl lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol yn y gwaith.

Unigolyn trawsrywiol yn prynu nifer o westai (aralleiriad o ‘Transsexual buys string of hotels’)

Mae Stephanie Booth, a garcharwyd unwaith am werthu pornograffi, ac sy’n rhedeg gwefan newid rhyw a chroeswisgo a chasgliad o siopau dan yr enw masnachu “Transformation”, wedi prynu pump o westai a thafarndai yn Rhuthun. Ynghyd â’i gŵr, David Booth, prynasant Blas Bodidris, Llandegla (sy’n 600 mlwydd oed); Gwesty’r Plough, Llandegla; Gwesty’r Angor, Rhuthun; Gwesty’r Castell a’r Myddleton Arms yn Sgwâr Sant Pedr, Rhuthun; a bwyty’r Clwyd Gate, rhwng yr Wyddgrug a Rhuthun.

Sefydlodd yr Albany Clinic fel canolfan lle gall pobl drawsrywiol gael cyngor ac arweiniad meddygol arbenigol ar eu cyflwr. Bu’n serennu mewn cyfres deledu realaeth yn ymwneud â’i busnesau ar BBC Wales yn 2008 a 2009 – ‘Hotel Stephanie’. Aeth ei gwestai i ddwylo’r gweinyddwyr yn 2011. Ar 18 Medi 2016, lladdwyd Booth mewn damwain tractor ar ei fferm ar gyrion Corwen, Sir Ddinbych.

Ffynhonnell: Daily Post, 3 Gorffennaf 2003; Wikipedia

Sefydlwyd Grŵp Croeswisgo Odyssey ym Mhrestatyn yn 2003, ac mae’n cyfarfod yn fisol yn Offa’s Tavern i gefnogi pobl sy’n croeswisgo a phobl androgynaidd. Yn 2005, mae’n dod yn rhan o Unique.


Mewn Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, rhoddodd John Sam Jones dystiolaeth, gan ddechrau fel hyn (cyfieithiad):

Fy enw yw John Sam Jones. Rwy’n Gymro Cymraeg o Feirionnydd (yn wreiddiol). Ar hyn o bryd rwy’n gweithio fel Ymgynghorydd ar Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh) yng Ngwasanaeth Addysg Sir Ddinbych. Am y bum mlynedd ddiwethaf rwyf wedi cadeirio Grŵp Cyswllt yr Heddlu a Phobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol (LHD) Gogledd Cymru, ac am y 18 mis diwethaf rwyf wedi bod yn gadeirydd Fforwm LHD Cymru. Ar ddau achlysur yn ystod y pedair blynedd diwethaf rwyf wedi bod yn ymddiriedolwr Prosiect Pobl Ifanc Gorllewin y Rhyl. Fi yw awdur Welsh Boys Too (Parthian, Cardiff, 2000) – casgliad o storïau byrion am fywydau dynion hoyw yng ngogledd Cymru. Enillodd y casgliad hwn o storïau wobr ‘Honour Book’ yng Ngwobrau Llyfrau LHD yr American Library Association yn 2002. Rwy’n 46 mlwydd oed ac wedi bod yn byw’n agored fel dyn hoyw ers oeddwn i’n 18 mlwydd oed.

Gellir gweld adroddiad llawn John ar wefan LGBTQ Cymru (gwefan allanol), yn yr adran Blogs.

2004 – Pasiwyd Deddf Partneriaeth Sifil 2004 gan y Llywodraeth Lafur, gan roi’r un hawliau a chyfrifoldebau â chyplau heterorywiol priod i gyplau o’r un rhyw yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Pasiwyd Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 gan y Llywodraeth Lafur. Mae’r Ddeddf yn rhoi cydnabyddiaeth gyfreithiol i bobl drawsrywiol fel aelodau o’r rhyw sy’n briodol i’w rhywedd (gwryw neu fenyw), gan eu galluogi i gael tystysgrif geni newydd a rhoi cydnabyddiaeth lawn iddynt o’u rhyw newydd yn y gyfraith at bob diben, gan gynnwys priodi.

2004

2004

Mae Sara Sugarman, a anwyd ar 13 Hydref 1962 yn y Rhyl yn actores a gwneuthurwr ffilmiau. Dywedir iddi gyfarwyddo’r ffilm Coming Out, am dîm rygbi o Gymru, gydag Alan Cumming a Catherine Zeta-Jones yn serennu. Wedi ei seilio ar syniad gan frawd Catherine, mae’r ffilm yn adrodd stori tîm rygbi anlwcus o Gymru. Eisoes yng nghanol problemau methdalu, mae’r tîm yn cael anlwc arall pan fo’r hyfforddwr yn marw’n sydyn. Nid oes gan y perchennog newydd, mab yr hyfforddwr, unrhyw brofiad o gwbl o rygbi. Yn hytrach, roedd y cymeriad hwn (a bortreadir gan Cumming) yn arfer gweithio fel actor yn y West End. Ac mae’n ddyn cyfunrywiol lliwgar. Yr hyn sy’n dilyn yw portread doniol o ragfarnau pobl trefi bychain â meddyliau bychain.

Mae’n ymddangos na chafodd y ffilm ei gwneud.

Ffynhonnell: Box Office Prophets, Coming Out, ar gael ar-lein.

2007

2007

Cynhaliwyd digwyddiad ‘Siarad yn Rhwydd’ (‘Speak Easy’) gan Fforwm LHD Gogledd Cymru ddiwedd mis Tachwedd 2007 er mwyn i ddarparwyr gwasanaeth ymgynghori â phobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) lleol. Gweithiodd Stonewall Cymru mewn partneriaeth â Phrosiect Pobl Ifanc Gorllewin y Rhyl i drefnu’r digwyddiad, a ariannwyd fel ffrwyth llafur Prosiect Inside-Out.

Ffynhonnell: Stonewall Cymru, Adroddiad Fforwm Pobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol Gogledd Cymru, 2007

2008 – Daeth Angela Eagle yr AS benywaidd cyntaf i ffurfio partneriaeth sifil (gyda’i phartner Maria Exall).

2009 – Daeth seren rygbi Cymru, Gareth Thomas, yr athletwr proffesiynol lefel uchaf cyntaf y gwyddys amdano mewn chwaraeon tîm i ddod allan tra’r oedd yn dal i gymryd rhan mewn chwaraeon proffesiynol.

2010 – Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwneud gwahaniaethu yn erbyn pobl lesbiaidd a hoyw wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau yn anghyfreithlon.

2010

2010

Ym mis Awst, dechreuodd Unique Arddwestau LHDTRhC+ blynyddol yn y Rhyl.

2013

Cynhaliwyd prosiect gan Dr Paul Willis, Prifysgol Abertawe, ar gyfer darpariaeth gwasanaethau cynhwysol a gwrth-wahaniaethol i bobl hŷn sy’n cyfrif eu hunain yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol (LHD) mewn amgylcheddau gofal preswyl yng Nghymru. Anfonwyd holiaduron i safleoedd yn awdurdodau lleol Caerdydd, Conwy, Sir Ddinbych ac Abertawe, a ddewiswyd ar hap.

Ffynhonnell: Provision of inclusive and anti-discriminatory services to older lesbian, gay, bisexual identifying (LGB) people in residential care environments in Wales, Adroddiad Llawn gan Dr Paul Willis, Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, Prifysgol Abertawe 28/06/2013


Ffurfiwyd Rustic Rainbow, grŵp anffurfiol ar gyfer pobl LHDT sydd wrth eu boddau â harddwch naturiol gogledd Cymru, yn 2013. Mae’n darparu amgylchedd braf er mwyn i bobl LHDT allu gwneud ffrindiau a mwynhau gweithgareddau gyda’i gilydd fel cerdded, mynd i’r sinema a thripiau. Mae Rustic Rainbow yn grŵp cymdeithasol nad yw’n ymwneud â’r ‘sin’. Golyga hyn nad yw’r gweithgareddau fel arfer yn digwydd mewn bariau neu glybiau, fodd bynnag byddant yn bresennol mewn nifer o ddigwyddiadau Balchder lleol, ac mae’r aelodau’n rhydd i gael trefnu digwyddiadau cysylltiedig mewn bariau drwy’r grŵp. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalen Facebook y grŵp.

2014

2014

2014 – Mae priodasau cyplau o’r un rhyw yn dod yn gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr ar 29 Mawrth dan Ddeddf Priodas (Cyplau O’r Un Rhyw) 2013. Yn y flwyddyn hon rhyddhawyd y ffilm ‘Pride’. Roedd yn seiliedig ar stori wir, yn portreadu grŵp o weithredwyr lesbiaidd a hoyw a fu’n codi arian i gynorthwyo teuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan Streic y Glowyr ym 1984, ar ddechrau’r hyn a fyddai’n datblygu i fod yn ymgyrch Lesbiaid a Hoywon yn Cefnogi’r Glowyr. Gethin, rheolwr siop lyfrau ‘Gay’s the Word’, yw’r unig gymeriad hollol ffuglennol yn y stori. Roedd wedi dianc o’r Rhyl un mlynedd ar bymtheg ynghynt a heb fod yn ôl o gwbl, ac wrth iddo fynd ar bererindod gartref i’r Rhyl mae’n gorfod wynebu ei fam anfaddeugar.

2015

2015

Côr LHDT+ Spectrum of Sound – unig gôr LHDT+ gogledd Cymru. Mae’r grŵp yn croesawu pobl sydd â phrofiad blaenorol o ganu, a phobl sydd heb brofiad blaenorol hefyd, ac nid oes clyweliadau. Mae’n dod â chantorion LHDT+ o bob gallu ynghyd mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol, gan rannu eu cerddoriaeth gyda’r gymuned. Fe’i sefydlwyd yn y Rhyl, ac yno maent yn ymarfer. Yn 2020 unwyd y côr â Chôr LHDT+ Proud Marys yng Nghaer. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalen Facebook y côr, neu drwy e-bostio spectrumofsoundchoir@gmail.com


Jenny-Anne Bishop o’r Rhyl, Gweithredydd Traws a Chadeirydd Rhwydwaith Trawsryweddol Unique yn derbyn OBE yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 2015 am wasanaeth i’r Gymuned Draws yng Nghymru. Mae wedi ymddangos ar Restr Binc Cymru sawl gwaith.


Ynghyd â Transforum Manchester, Manchester Concord a Via Bar ym Manceinion, sefydlodd Unique Ardd Goffa Draws gyntaf y byd yn Sackville Gardens, Manceinion, yn 2015, i goffáu’r holl bobl Draws a lofruddiwyd am fod yn bobl Draws, a’r holl bobl Draws a deimlodd dan bwysau i gyflawni hunanladdiad.


Richard Evans (chwith) a Russell HughesCyrhaeddodd perchennog siop trin gwallt Russell Paul ym Mhrestatyn y tudalennau blaen pan roddodd arwydd yn y ffenestr yn datgan: “If you are racist, sexist, homophobic or an a***hole...don’t come in.” Rhoddodd yr arwydd yno wedi i gwsmer wrthod gadael i’r steilydd Richard Evans (uchod, ar y chwith) dorri gwallt ei fab ar ôl sylweddoli ei fod yn hoyw. “Mi ofynnodd a fyddwn i’n gallu’i dorri o” dywedodd Russell (uchod, ar y dde). “Ac mi atebais i ‘Na, achos dw i’n hoyw hefyd’!”

(Delwedd: ©Kelly Williams)

2016

2016

2016 – Daeth Hannah Blythyn, Jeremy Miles ac Adam Price yr aelodau cyntaf o Gynulliad Cymru a oedd yn agored ynglŷn â bod yn hoyw.

Ymunodd saith deg o bobl â’r Gwir Barch. Gregory Cameron am wasanaeth Cymun i nodi’r lansiad ffurfiol yn Eglwys Sant Grwst, Llanrwst, ar 12 Medi 2016. Arweinir y gaplaniaeth gan y Parch. Sarah Hildreth-Osborn, a bydd safle i’r gaplaniaeth yn Eglwys Sant Grwst lle mae Sarah yn ficer. Bydd dwy eglwys arall yn yr esgobaeth – Eglwys San Pedr yn Nhreffynnon ac Eglwys San Silyn yn Wrecsam – hefyd yn cynnal gwasanaethau Cymun ‘Bwrdd Agored’ rheolaidd ar gyfer Cristnogion LHDTCRhA+. Dywedodd yr Esgob Gregory (cyfieithiad): ‘Sefydlwyd y Gaplaniaeth hon oherwydd bod gan y ffydd Gristnogol rywbeth i’w gynnig i bawb, gan gynnwys pobl LHDTCRhA+. Mae’n ymwneud â chreu man diogel, cysegredig, ac ymestyn cyfeillgarwch. Mae’n rhaid i’r Eglwys fod yn feiddgar a chael gwared â’r ymdeimlad o homoffobia, casineb a chondemniad tuag at bobl o wahanol rywioldebau.’

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Mainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru lythyr bugeiliol ar y cyd yn ymrwymo i weithio tuag at gael Eglwys lle mae pobl hoyw a lesbiaidd yn cael eu "cadarnhau’n gyfan gwbl fel disgyblion hafal", ac i weddïo gyda nhw a throstyn nhw. Ymddiheurwyd hefyd i bobl hoyw a lesbiaidd am yr erlid a’r gamdriniaeth maent wedi eu dioddef gan yr Eglwys. Ochr yn ochr â’r llythyr, cyhoeddodd yr Esgobion gyfres o weddïau y gellir eu hadrodd gyda chwpl yn dilyn dathlu partneriaeth sifil neu briodas sifil. Bydd Caplaniaeth LHDTCRhA+ Llanelwy yn cyfarfod yn fisol o fis Ionawr 2017. Mae manylion y cyfarfodydd cyntaf yma (gwefan allanol).

Ffynhonnell: The UK’s first LGBTQIA+ chaplaincy officially launched, Open Table, 13 Medi 2016. Ar gael ar-lein.

2017

2017

Cynhaliwyd Lifted By Beauty: Adventures in Dreaming gan National Theatre Wales yn y Rhyl fel ysbrydoliaeth ar gyfer cyfres o osodweithiau rhyfeddol, swreal a breuddwydiol ar y promenâd. Roedd yn sioe 90 munud yr oeddech yn cerdded drwyddi, roeddech yn cael eich trochi yn synhwyraidd, ond nid oedd yn rhyngweithiol. Wedi i’r gynulleidfa glywed dyn yn cuddio mewn bocs cardfwrdd yn canu yn y Gymraeg iddynt, ac yna wrando ar ddyn sy’n gwisgo fel rhywbeth tebyg i Swyddog Safleoedd Troseddau neu wenynwr yn darllen barddoniaeth, maent yn cael eu hebrwng i faes parcio budr, tywyll, llaith dan ddaear, lle mae ffantasi yn cymryd drosodd oddi wrth fywyd go iawn.

Ffynhonnell: Art Scene in Wales, Mawrth 2017. Ar gael ar-lein.

2018

2018

Mae DJ Stephine, yr Artist Drag, yn ymddangos yn fyw yn Lola Bar, Prestatyn, o 9pm tan 2am ar nos Wener a nos Sadwrn.

2019

2019

Brenhines ddrag yn dod i adrodd storïau yn llyfrgelloedd gogledd Cymru. Cynhaliwyd y digwyddiad hwn yn dilyn taith o gwmpas UDA a Chanada. Yn y sesiynau hyn ar gyfer y teulu roedd Mama G yn darllen storïau i blant am awr, a’r nod oedd ceisio herio stereoteipiau rhywedd. Dywedai’r trefnwyr mai bwriad pob sesiwn oedd addysgu pawb am garedigrwydd, cynhwysiant, goddefgarwch a derbyn, gan hefyd ddathlu amrywiaeth a charu pwy bynnag y dymunech.

Ffynhonnell: Zara Whelan, ‘A drag queen story-telling event is coming to North Wales libraries,’ North Wales Live, 21 Chwefror 2019


Lansiwyd Gwasanaeth Rhywedd Cymru (gwefan allanol) ym mis Medi 2019.

Logo Gwasanaeth Rhywedd Cymru

Lansiwyd cynllun tai ar gyfer aelodau diamddiffyn o’r gymuned LHDTC+ yn Sir Ddinbych cyn Nadolig 2019. Darparodd Cyngor Sir Ddinbych (CSDd) wasanaethau cefnogi preswyl 24 awr ar gyfer pobl 16 i 25 mlwydd oed yn y sir sy’n cyfrif eu hunain yn bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol, cwiar neu hunaniaeth rywiol arall. Mae’r cynllun yn dilyn ymchwil a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a ganfu fod pobl ifanc LHDTC+ bedair gwaith yn fwy tebygol o fod yn ddigartref na’u cyfoedion.

Ffynhonnell: Scott Clarke, ‘Residential support scheme for LGBTQ+ homeless in Denbighshire’, Free Press, 18 Tachwedd 2019. Ar gael ar-lein.

2021

2021

2021 – Daeth Owen J. Hurcum y maer etholedig anneuaidd cyntaf yn y byd a’r ieuengaf erioed yng Nghymru, pan ddaeth yn faer Cyngor Dinas Bangor, Gwynedd.

‘Flwyddyn ar ôl adroddiad Llamau ar bobl ifanc ddigartref LHDTC+, mae prosiect byw â chymorth Tŷ Pride, sydd ar gyfer y gymuned LHDTC+ yn benodol, wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda mwy na deg gwaith yn fwy o atgyfeiriadau yn dod i law na’r nifer y gellir eu cartrefu. Mae hyn yn dangos yn glir yr angen am gymorth pwrpasol ar gyfer pobl ifanc LHDTC+ sy’n wynebu risg o ddigartrefedd. Mae’r ffaith bod cymaint o ddiddordeb ym mhrosiect Tŷ Pride, gan gynnwys oddi wrth awdurdodau lleol sy’n agos at Sir Ddinbych (lle mae Tŷ Pride wedi’i leoli), hefyd yn dangos bod angen gwasanaethau tebyg ledled Cymru. Mae’r prosiect cyntaf o’i fath hwn wedi llwyddo i helpu pobl ifanc LHDTC+ a darparu’r cymorth penodol sydd ei angen arnynt cymaint drwy grŵp cymorth LHDTC+ lleol Viva.’

Ffynhonnell: Stonewall Cymru, Adroddiad i Lywodraeth Cymru yn amlinellu’r argymhellion ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb LHDTC+ yng Nghymru, Mawrth 2021


Cwpl hoyw yn derbyn bendith hanesyddol gan yr Eglwys yng Nghymru. Credir mai’r Tad Lee a’i bartner Fabiano Da Silva Duarte yw’r cwpl cyntaf o’r un rhyw i gael ei fendithio’n swyddogol gan yr Eglwys yng Nghymru. Daw hyn wedi i gorff llywodraethu’r Eglwys gymeradwyo gwasanaeth bendithio newydd ar gyfer cyplau o’r un rhyw ym mis Medi. Fodd bynnag, nid aeth cyn belled â chaniatáu i gyplau o’r un rhyw briodi yn y plwyfi.

Ffynhonnell: Harry Farley, ‘Gay couple receive landmark Church in Wales blessing’, BBC News, 13 Tachwedd 2021


Roedd Esgob Llanelwy ymysg pedwar uwch arweinydd crefyddol a Seneddwyr a gydnabuwyd am eu gwaith arloesol ym maes rhywioldeb, hunaniaeth rhywedd. Derbyniodd y Gwir Barch. Gregory Cameron wobr am ei arweiniad o fewn yr Eglwys yng Nghymru i ddod â hi i’r pwynt o ganiatáu bendithio cyplau o’r un rhyw.

Ffynhonnell: ‘Bishop Gregory Honoured for His "Outstanding Contribution To The Lives Of LGBT+ People Of Faith,’ Esgobaeth Llanelwy. Ar gael ar-lein.

2023

2023

Mae’r ddelwedd ganlynol yn cynnwys testun sydd efallai ddim yn hygyrch i rai pobl. Mae’r testun yn y ddelwedd yn Saesneg. Gweld y testun mewn fformat mwy hygyrch..

Pen blwydd VIVA yn 25 oed

17 Mehefin: "The first Rhyl Pride" yn cael ei gynnal yn y Bodfor, Stryt Bodfor, y Rhyl. Cynhaliwyd y digwyddiad gan y frenhines drag Shagger, gyda pherfformwyr megis Heather Marie (act deyrnged Pink), Dani Elle, Kelly J, Janet Myring a llawer mwy. Roedd yn llwyddiant ysgubol, a chyflwynwyd cynlluniau ar gyfer ail ddigwyddiad yn 2024.

Ffynhonnell: Rhyl Journal, 21 Mehefin 2023


Lansiad Llinell Amser LHDTC+ yn Llyfrgell y Rhyl

28 Mehefin: Lansiad Llinell Amser LGBT yn Llyfrgell y Rhyl. Cafwyd sgyrsiau yn y digwyddiad gan yr hanesydd Noreena Shopwood a Lowri Jones, ac ymddangosodd fel Mary Carryl, morwyn Merched Llangollen. Torrwyd y rhuban i lansio’r llinell amser gan Noreena Shopland gyda chymorth gan Lowri Jones a Jenny-Anne Bishop OBE.