Wythnos Dysgu yn y Gwaith - Mai 2024
Magu hyder yn y gweithle (ar-lein dros Teams)
Dydd Llun 13 Mai: 9:30am i 11:30am
Mae magu hunan-barch a hunan-hyder yn caniatáu i chi fod y gorau y gallwch fod. Mae’r gweithdy hwn yn cynnig amrywiaeth o sgiliau defnyddiol a fydd yn helpu mewn cyfweliadau am swyddi, cyfarfodydd a chyflwyniadau.
Cyflwynir y sesiwn hon mewn partneriaeth â Phrosiectau Cronfa Ddysgu Undebau Unite a GMB Cymru.
Archebwch eich lle trwy Hunanwasanaeth Gweithwyr iTrent
Sgiliau cyfathrebu (ar-lein dros Teams)
Dydd Llun 13 Mai: 12pm (hanner dydd) to 2pm
Cyfathrebu yw un o’r sgiliau pwysicaf yn y cartref ac yn y gweithle. Byddwn yn trafod sut i gyfleu a rhannu syniadau yn effeithiol gydag amrywiaeth o bobl.
Cyflwynir y sesiwn hon mewn partneriaeth â Phrosiectau Cronfa Ddysgu Undebau Unite a GMB Cymru.
Archebwch eich lle trwy Hunanwasanaeth Gweithwyr iTrent
Aelodau Unsain - Cynrychiolwyr Dysgu Undeb (CDU) (ar-lein dros Teams)
Dydd Mawrth 14 Mai: 10am i 11am
Sesiwn gwybodaeth ar-lein ar fanteision CDU a sut y gallech ddod yn un.
Archebu lle ar y cwrs fanteision CDU (gwefan allanol)
Talk training (ar-lein dros Teams)
- Dydd Mawrth 14 Mai: 11am i 12pm (hanner dydd) - Rhaglenni’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) Lefel 2, 3, 4 a 5
- Dydd Mawrth 14 Mai: 12:30pm i 1pm - Rheoli Prosiect Lefel 4
Sesiynau gwybodaeth ar sut i gael mynediad at ddysgu wedi’i ariannu’n llawn.
Archebu lle ar y cwrs Rhaglenni’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) Lefel 2, 3, 4 a 5 (gwefan allanol)
Archebu lle ar y cwrs Rheoli Prosiect Lefel 4 (gwefan allanol)
Datgloi eich pŵer dysgu gyda meddwl twf (gweminar)
Dydd Mawrth 14 Mai: 11am i 12pm (hanner dydd)
Ymgyrch dysgu.
Archebu lle ar y cwrs datgloi eich pŵer dysgu gyda meddwl twf (gwefan allanol)
Talk training (ar-lein dros Teams)
Dydd Mercher 15 Mai: 11am i 12pm (hanner dydd) - Gwasanaeth i Gwsmeriaid Lefel 2 a 3
Sesiynau gwybodaeth ar sut i gael mynediad at ddysgu wedi’i ariannu’n llawn.
Archebu lle ar y cwrs Gwasanaeth i Gwsmeriaid Lefel 2 a 3 (gwefan allanol)
Grwp Llandrillo Menai (Siambr y Cyngor - Tŷ Russell)
Dydd Mercher 15 Mai: 10am i 12pm (hanner dydd)
Archwiliwch y cyflēoedd dysgu seiliedig ar waith sydd ar gael i chi am ddim.
Sesiwn galw heibio - dim angen archebu
Coleg Cambria (Siambr y Cyngor - Tŷ Russell)
Dydd Mercher 15 Mai: 1pm i 3pm
Archwiliwch y cyflēoedd dysgu seiliedig ar waith sydd ar gael i chi am ddim.
Sesiwn galw heibio - dim angen archebu
Sgiliau dylanwadu (ar-lein dros Teams)
Dydd Iau 16 Mai: 9:30am i 11:30am
Bydd y gweithdy hwn yn trafod sut rydym yn cyfathrebu ag eraill a sut maen nhw’n cyfathrebu â ni, gwrando gweithredol a chydweithio.
Cyflwynir y sesiwn hon mewn partneriaeth â Phrosiectau Cronfa Ddysgu Undebau Unite a GMB Cymru.
Archebwch eich lle trwy Hunanwasanaeth Gweithwyr iTrent
Talk training (ar-lein dros Teams)
Dydd Iau 16 Mai: 11am i 12pm (hanner dydd) - Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad Proffesiynol Lefel 4
Sesiynau gwybodaeth ar sut i gael mynediad at ddysgu wedi’i ariannu’n llawn.
Archebu lle ar y cwrs Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad Proffesiynol Lefel 4 (gwefan allanol)
Aelodau Unsain - Cynrychiolwyr Dysgu Undeb (CDU) (ar-lein dros Teams)
Dydd Iau 16 Mai: 4pm i 5pm
Sesiwn gwybodaeth ar-lein ar fanteision CDU a sut y gallech ddod yn un.
Archebu lle ar y cwrs benefits of ULRs session (gwefan allanol)
Magu hyder yn y gweithle (ar-lein dros Teams)
Dydd Llun 17 Mai: 9:30am i 11:30am
Mae magu hunan-barch a hunan-hyder yn caniatáu i chi fod y gorau y gallwch fod. Mae’r gweithdy hwn yn cynnig amrywiaeth o sgiliau defnyddiol a fydd yn helpu mewn cyfweliadau am swyddi, cyfarfodydd a chyflwyniadau.
Cyflwynir y sesiwn hon mewn partneriaeth â Phrosiectau Cronfa Ddysgu Undebau Unite a GMB Cymru.
Archebwch eich lle trwy Hunanwasanaeth Gweithwyr iTrent
Dysgu rhywbeth newydd
Mynedwch y platfform ēDdysgu ar-lein ar adeg sy'n gyfleus i chi yr wythnos hon ac edrychwch ar rai o'r modiwlau dewisol sydd ar gael neu cymerwch amser i gwblhau unrhyw fodiwlau gorfodol sydd gennych ar ôl - mewngofnodwch i ēDdysgu (gwefan allanol)
Ewch i OpenLearn (gwefan allanol) lle byddwch yn dod o hyd i 1000au o gyrsiau rhād ac am ddim, rhaglenni rhyngweithiol a mwy.
Uno Cynrychiolydd Dysgu Undeb
Mae Cynrychiolydd Dysgu Undeb (CDU) yn aelod o undeb llafur annibynnol, sy’n cael ei gydnabod gan ei gyflogwr a’i ethol gan ei gydweithwyr yn y gweithle.
Sut mae cymryd rhan?
Siaradwch āg un o gynrychiolwyr Unite yn eich gweithle neu cysylltwch â'r Trefnwyr Dysgu Rhanbarthol yn yr adran Gwybodaeth Gyswllt. Mae Unite yn cynnig hyfforddiant llawn yn y rôl hon, byddwch yn cael cymorth i gael eich rhyddhau o'r gwaith â thâl i fynychu cwrs hyfforddi CDU. Byddwch hefyd yn cael eich cefnogi wrth i chi ddatblygu yn y rôl trwy'r Trefnwyr Dysgu Rhanbarthol.
Sut mae'r CDU yn gweithio gyda'r Undeb?
Mae CDUau wedi bod yn allweddol wrth hyrwyddo pwysigrwydd hyfforddiant a datblygiad. Mae CDU yn gweithio’n galed iawn i hybu delwedd a chryfder trefniadaeth eu hundeb yn y gweithle. Gallant helpu i ehangu aelodaeth undeb yn gyffredinol ac mewn grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol megis gweithwyr mudol.
Gwybodaeth cyswllt
Trefnwyr Dysgu Rhanbarthol:
- Sue Da'Casto: 07768 931284
- Richard Jackson: 07764 655762
Swyddfa: 02920 394251
E-bost:: learnwithunite.wulf@unitetheunion.org
Gwe: Unitewulf.cymru
Facebook: @unitewaleslearning
Trydar: @unitewulf