Grant Hanfodion Ysgol

Os yw eich plentyn yn mynychu ysgol yn Sir Ddinbych a’ch bod yn cael budd-dal cymwys, mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael grant tuag at gost:

  • Gwisg ysgol
  • Dillad chwaraeon ysgol
  • Chwaraeon y tu allan i’r ysgol
  • Gwisg ar gyfer gweithgareddau ehangach e.e. sgowtiaid a geidiau
  • Cyfarpar ar gyfer gweithgareddau i gefnogi’r cwricwlwm e.e. dylunio a thechnoleg
  • Cyfarpar ar gyfer tripiau tu allan i oriau ysgol, gan gynnwys dysgu yn yr awyr agored
  • Dug Caeredin
  • Cyfrifiaduron, gliniaduron a dyfeisiau llechen 

Beth sydd ar gael?

Gall rhieni sy’n cael budd-dal cymwys gael grant o £125 os yw eu plant yn y dosbarth derbyn neu ym mlwyddyn 1 i 11 (ar wahân i flwyddyn 7). 

Blwyddyn 7

Os yw eich plentyn ym mlwyddyn 7 a’ch bod yn cael budd-dal cymwys, mae’n bosibl bod gennych hawl i grant o £200.

Plentyn sy'n derbyn gofal

Gellir hefyd darparu grant i blentyn sy'n derbyn gofal yn unrhyw flwyddyn ysgol os nad ydi’r rhiant, gwarcheidwad neu ofalwr yn cael budd-dal cymhwyso.

Budd-daliadau cymwys

Fe allwch chi hawlio’r Grant Hanfodion Ysgol os ydych chi’n derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol: 

  • Cymhorthdal Incwm,
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Credyd Pensiwn; Credyd Gwarantedig
  • Treth Credyd Plant gydag incwm blynyddol llai na £16,190
  • Cymorth o dan Adran VI o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1999
  • Credyd Cynhwysol a ni ddylai’ch enillion net blynyddol fod dros £7,400.

Ni ellir derbyn y Grant Hanfodion Ysgol os ydych yn derbyn Credyd Treth Gwaith.

Sut i wneud cais am Grant Hanfodion Ysgol

Gallwch ond gwneud cais am Grant Hanfodion Ysgol gan yr awdurdod lleol lle mae’ch plentyn yn mynd i’r ysgol.  

Os yw eich plentyn yn mynd i ysgol yn Sir Ddinbych, gallwch wneud cais ar lein am grant gwisg ysgol ac offer. 

Os ydych yn gymwys ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol, bydd eich plentyn hefyd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Pan fyddwch yn gwneud cais, byddwch yn defnyddio’r un cais i hawlio’r Grant Hanfodion Ysgol a phrydau ysgol am ddim.

Gwneud cais ar-lein

Gwneud cais am Grant Hanfodion Ysgol (i blentyn sy’n mynd i ysgol yn Sir Ddinbych)

Plant sy'n Derbyn Gofal

Gwneud cais ar-lein am Grant Hanfodion Ysgol ar gyfer plentyn sy'n derbyn gofal

Gwybodaeth gan Awdurdodau Lleol eraill

Mwy o wybodaeth

Mae gan rai ysgolion gael polisi i ddarparu cymorth tuag at gostau gwisg ysgol ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 8 ac uwch, cysylltwch ag ysgol eich plentyn i gael gwybod os gallant helpu.