Addysg cyfrwng Cymraeg: 3 i 11 mlwydd oed

Beth bynnag yw iaith yr aelwyd, gall addysg cyfrwng Cymraeg gynnig sgiliau ychwanegol i’ch plentyn a rhoi mwy o gyfleoedd iddynt yn y dyfodol.  

Yn Sir Ddinbych, mae addysg cyfrwng Cymraeg ar gael i bob plentyn a pherson ifanc o fewn pellter rhesymol o’u cartrefi.

Byddwn yn darparu cludiant ysgol am ddim i’ch plentyn deithio i’ch ysgol agosaf sy’n cynnig addysg cyfrwng Cymraeg os ydych yn byw dros ddwy filltir i ffwrdd.  

Pam dewis addysg cyfrwng Cymraeg i’ch plentyn?

Mae gan addysg cyfrwng Cymraeg nod syml iawn – galluogi plant i ddod yn gwbl rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae rhan fwyaf o blant ifanc yn dysgu ieithoedd gwahanol yn haws nag oedolion. 

Wrth ddewis addysg cyfrwng Cymraeg, byddwch yn rhoi sgil bywyd ychwanegol i'ch plentyn - y gallu i gyfathrebu mewn dwy iaith.

Mae astudiaethau'n dangos bod pobl ddwyieithog yn ei chael hi'n haws dysgu ieithoedd eraill - mantais amlwg i'ch plentyn yn yr ysgol.

Tystiolaeth: Saesneg yng nghyfnodau allweddol 2 a 3 (gwefan allanol)

Mae’r Gymraeg yn rhoi mynediad i blant i ddiwylliant arall – gan gynnwys llenyddiaeth, cerddoriaeth, cyfryngau digidol, a llu o bethau eraill – na fyddai ar gael iddynt fel arall.

Dengys gwaith ymchwil mai addysg cyfrwng Cymraeg yw’r ffordd orau i gael plant i fod yn ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae’n ddefnyddiol iawn fel sgil yn y gweithle gyda’r gallu i siarad Cymraeg yn sgil hanfodol neu ddymunol ar gyfer nifer cynyddol o swyddi.

Tystiolaeth: Manteision dysgu’n ddwyieithog (gwefan allanol)

Cefnogaeth i newydd-ddyfodiaid

Bydd cefnogaeth ar gael i ddysgwyr (newydd-ddyfodiaid) nad ydynt wedi derbyn addysg cyfrwng Cymraeg o’r blaen ac sydd wedi cofrestru mewn ysgol gynradd i dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg ym Mlwyddyn 3, 4, 5 a 6.

Mae dau aelod o staff (athrawes ac uwch-gymhorthydd) yn darparu cymorth i ddysgwyr sydd wedi'i strwythuro'n ofalus i hyrwyddo rhuglder yn yr iaith lafar (Cymraeg), sy’n galluogi dysgwyr gael eu hintegreiddio'n llawn i fywyd ysgol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dysgwch fwy am y gefnogaeth i ddysgwyr (newydd-ddyfodiaid) ym mlwyddyn 3, 4, 5 a 6 nad ydynt wedi derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn flaenorol.

Ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn Sir Ddinbych

Mae pymtheg o ysgolion cynradd Sir Ddinbych yn cynnig addysg cyfrwng Cymraeg.

Gwneud cais am le mewn ysgol

Ewch i’r tudalennu canlynol i gael gwybodaeth am wneud cais am le mewn ysgol: