Awgrymiadau ar gyfer gyrru yn y gaeaf

Dylech bob amser yrru yn ddiogel yn unol ag amodau'r tywydd, os yw’r ffordd wedi cael ei graeanu ai peidio.

Paratoi eich cerbyd

  • Cliriwch y ffenestr flaen a’r holl ffenestri o rew ac iâ.
  • Peidiwch â chychwyn nes bo’r gwresogydd wedi clirio’r holl wydr tu mewn.
  • Cariwch chwistrell toddi rhew yn y cerbyd. Stopiwch (mewn man diogel) a'i ddefnyddio os oes angen.
  • Ychwanegu olch sgrîn tymheredd isel i'r botel ddŵr.
  • Gwiriwch bod yr holl oleuadau a’r dangosyddion yn gweithio ac yn lân.
  • Gwiriwch bod yr holl deiars â thrwch gwadn da (yr isafswm cyfreithiol yw 1.6mm) a’u bod â’r pwysedd aer cywir. Peidiwch ag anghofio gwirio’r teiar sbâr.
  • Gwiriwch bod y batri mewn cyflwr da, gan mai rhywbeth trydanol sydd wrth wraidd y rhan fwyaf o geir yn torri yn y gaeaf.

Eich taith

  • Rhowch amser i baratoi eich cerbyd cyn cychwyn.
  • Cychwyn gynharach i ganiatáu ar gyfer mynd yn arafach, oedi posibl o ganlyniad i ddamweiniau a thraffig lôn sengl posibl ar ffyrdd deuol oherwydd eira.
  • Cadwch fwy o fwlch nag arfer rhyngoch â’r cerbyd o'ch blaen, yn enwedig pan fo rhew neu eira ar y ffyrdd.
  • Breciwch a chyflymwch yn fwy tyner ar wynebau gwlyb, ag eira neu rew.
  • Defnyddiwch eich goleuadau wedi'u gostwng yn y niwl, cawod eira neu law trwm.
  • Defnyddiwch eich goleuadau niwl tu ôl mewn niwl, neu gawod eira a’u diffodd cyn gynted bo’r amodau'n caniatáu. Ni ddylech ddefnyddio eich goleuadau niwl tu ôl mewn glaw.
  • Gall gyrru mewn amodau anffafriol fod yn flinedig iawn, felly byddwch yn barod i gymryd seibiannau ychwanegol yn ystod eich taith.
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych ddillad 'tu allan' gyda chi rhag ofn bydd rhaid i chi fynd allan o'ch cerbyd.
  • Cadwch lygad am ddefnyddwyr ffordd diamddiffyn - rydych yn rhannu’r cyfrifoldeb am eu diogelwch.