Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gwneud pob ymdrech i sicrhau cywirdeb a dibynadwyaeth y wefan hon. Fodd bynnag, nid yw'n honni dim am gywirdeb, dibynadwyaeth, cyfanrwydd, neu addasrwydd y wybodaeth, cynhyrchion, gwasanaethau a graffigwaith perthnasol sy'n gynwysiedig yn y wefan hon ar gyfer unrhyw bwrpas.
Ni fydd Cyngor Sir Ddinbych, ei weithwyr cyflog, ei gyflenwyr na chwmnïau eraill sydd â wnelo a chreu a chyflwyno'r wefan hon, yn gyfrifol am unrhyw niwed uniongyrchol, anuniongyrchol, achlysurol, arbennig nac ôl-ddilynol, colled nac anhwylustod achoswir wrth ddibynnu ar gynnwys y wefan hon, neu'n codi o ddefnyddio'r wefan hon.
Mae mynediad i, a defnydd o'r wefan hon, a ddarperir gan Gyngor Sir Ddinbych yn ddarostyngedig i'r amodau a thelerau canlynol:
- Mae eich defnydd o'r wefan hon yn golygu eich bod yn derbyn yr amodau a thelerau hyn, a ddaw i rym o'r dyddiad cyntaf y defnyddiwch y wefan. Mae gan Gyngor Sir Ddinbych yr hawl i newid yr amodau a thelerau hyn ar unrhyw adeg, drwy osod newidiadau arlein. Mae parhau i ddefnyddio'r wefan hon ar ôl i newidiadau gael eu gwneud, yn golygu eich bod yn derbyn yr amodau a thelerau diwygiedig.
- Ar gyfer eich defnydd personol anfasnachol eich hun mae'r wefan hon. Ni chaniateir copïo, atgynhyrchu, ailgyhoeddi, llwytho i lawr, gosod, darlledu na throsglwyddo deunyddiau mewn unrhyw fodd, ac eithrio ar gyfer eich defnydd personol, anfasnachol eich hun gartref. Bydd angen caniatâd ysgrifenedig y Cyngor ymlaen llaw ar gyfer unrhyw ddefnydd arall.
- Rydych yn cytuno i ddefnyddio'r wefan hon ar gyfer dibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn modd nad yw'n tresmasu ar hawliau, neu'n cyfyngu neu'n gwahardd defnydd a mwyniant o'r wefan hon gan drydydd parti, neu'n achosi niwsans, anghyfleustra, neu bryder diangen i drydydd parti.
- Mae'r cyfyngiad neu'r gwaharddiad hwn yn cynnwys (heb derfynau), ymddygiad anghyfreithlon, difenwol, dilornus neu'r gallu i boeni neu achosi gofid, anghyfleustra, niwsans, neu fod yn fygythiad i unrhyw unigolyn, a throsglwyddo cynnwys anweddus, bygythiol, annymunol, neu amharu ar rediad arferol sgyrsiau a fewn y wefan.
- Mae'r wefan hon yn cynnwys linciau i wefannau eraill nad ydynt o reidrwydd yn cael eu rheoli gan y Cyngor. Nid yw'r Cyngor yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau hyn, ac nid yw'n derbyn cyfrifoldeb dros unrhyw beth a allai godi wrth ddefnyddio gwefannau fel hyn.
- Mae'r Cyngor yn ymdrechu i sicrhau bod yr holl wybodaeth a'r deunyddiau ar y wefan hon yn briodol ac yn fanwl gywir, ond nid yw'n derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros wallau neu hepgoriadau ac nid yw'n gwarantu y bydd defnydd o'r wefan yn ddi-dor. Mae'r Cyngor yn darparu deunyddiau a gyhoeddir ar ei wefan ar sail ei fod yn gwadu'r holl warantau ynglyn â deunyddiau felly, p'un ai yr eglurir hynny neu yr awgrymir hynny. Nid yw'r Cyngor, ei weithwyr cyflog, ei gyflenwyr na darparwyr gwreiddiol y deunydd, yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros golled busnes, refeniw, nac elw uniongyrchol, anuniongyrchol, damweiniol, nac ôl-ddilynol, na dros niwed arbennig yn codi o gyhoeddi'r deunydd ar y wefan hon, neu o ddefnyddio'r wefan hon.
- Rydych chi'n cydnabod bod holl hawliau eiddo deallusol, yn cynnwys hawlfraint a hawliau cronfa ddata ar wefan y Cyngor, a'i chynnwys, yn perthyn i, neu wedi cael ei drwyddedu i'r Cyngor, sydd â chaniatâd dan ddeddf berthnasol i'w defnyddio fel arall.
- Mae gan y Cyngor yr hawl i olygu, gwrthod gosod neu ddileu unrhyw ddeunydd a gyflwynir neu a osodir ar y wefan hon. Nid yw'r Cyngor yn gyfrifol am, nac yn derbyn cyfrifoldeb dros unrhyw ddeunydd a osodir ar y wefan ar wahân i ddeunydd y Cyngor. Mae unrhyw farn, cyngor, gosodiad, cynnig neu wybodaeth arall a fynegir neu sydd ar gael gan drydydd parti ar wefan y Cyngor, yn perthyn i'r trydydd parti hwnnw. Nid yw'r Cyngor yn cymeradwyo nac yn gyfrifol am gywirdeb neu atebolrwydd unrhyw ddeunydd trydydd parti tebyg.
- Mae'r amodau a thelerau hyn yn cael eu rheoli gan ddeddfau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod a gwyd o'r amodau a thelerau hyn yn ddarostyngedig i awdurdod Llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.
- Os dewch o hyd i unrhyw beth ar y wefan hon sy'n peri pryder i chi, gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda.
- Os ydych yn anfodlon ag unrhyw ran o'r wefan hon, neu ag unrhyw un o'r amodau a thelerau hyn , rhowch y gorau i ddefnyddio'r wefan hon yn ddiymdroi os gwelwch yn dda.
- Os penderfynir bod unrhyw un o'r amodau a'r telerau hyn yn anghyfreithlon, yn annilys, neu, fel arall, yn anghymelladwy, yna, yn ôl y graddau y bydd yr amodau neu'r telerau'n anghyfreithlon, yn annilys, neu'n anghymelladwy, caiff ei dorri allan a'i ddileu o'r cymal hwn, a bydd yr amodau a thelerau sy'n weddill yn sefyll, yn dal mewn grym ac yn parhau'n orfodol a chymelladwy.