Cynllunio rhag argyfwng

Pan ddigwydd argyfwng, fe wnawn ni’r canlynol:

  • Sefydlu canolfan reoli frys i reoli ein hymateb
  • Penodi swyddogion cyswllt i weithio efo’r gwasanaethau argyfwng ac asiantaethau eraill
  • Darparu cyngor gwyddonol, peirianyddol a thechnegol
  • Trefnu gwasanaethau iechyd amgylcheddol a/neu reoli plâu
  • Gwneud archwiliadau strwythurol
  • Symud gweddillion
  • Darparu cludiant ar gyfer y rheiny fydd wedi eu heffeithio
  • Darparu gofal a chymorth i deuluoedd/unigolion sydd wedi eu heffeithio
  • Sefydlu canolfannau gorffwys ar gyfer faciwîs a llety dros dro tymor hirach fel y bo’r angen
  • Cefnogi darpariaeth gwybodaeth gyhoeddus
  • Sefydlu corffdai dros dro
  • Sefydlu cronfeydd apêl
  • Goruchwylio adferiad ac adsefydliad y gymuned

Ysgrifennu eich cynllun argyfwng eich hun

Ynghyd â’r gwasanaethau brys, mae gennym ni gynlluniau generig ysgrifenedig i ddelio ag argyfyngau a allai ddod i’ch rhan chi. Fe ddylech chi hefyd wneud hynny ar gyfer eich aelwyd eich hun.

Cynllun argyfwng i'r cartref (PDF, 400KB)

Becyn cyflenwadau argyfwng (PDF, 200KB)

Y wybodaeth ddiweddaraf yn ystod argyfwng

Gorsafoedd teledu a radio lleol

Gall gorsafoedd teledu a radio eich darparu â diweddariadau a gwybodaeth yn ystod argyfyngau. Isod mae rhestr o’n gorsafoedd radio lleol:

  • BBC Radio Wales 657AM, 882AM and 93-104FM
  • Heart North West and Wales 103.4, 97.1 and 96.3 FM
  • Chester Dee 106.3FM
  • BBC Radio Cymru 92.4 – 96.8 and 103.5- 104.9mhz FM
  • Radio City 96.7FM
  • BBC Radio Merseyside 95.8FM 1485AM
  • Coast 96.3

Ein gwefan

Os gallwch gysylltu â’r rhyngrwyd, gwiriwch ein diweddariadau newyddion a’r adroddiadau ffocws i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Bydd y rhain yn rhoi’r manylion diweddaraf i chi fel yr ardaloedd fydd wedi eu heffeithio, rhifau cyswllt a chyngor ar beth i’w wneud. Gallwch hefyd ddod o hyd i gyngor ar ddelio â llifogydd, tanau, tywydd eithafol, defnyddiau peryglus ac ymgilio ar ein tudalennau argyfyngau.