Symud o’ch cartref

Mae gorfod symud o’ch cartref yn fwy cyffredin na rydych yn ei sylweddoli. Gall gollyngiad nwy orfodi’r Gwasanaethau Brys i ofyn i drigolion un stryd symud o’u cartref. Gall gorlifo olygu fod yn rhaid ichi adael eich tŷ neu eich man gweithio. Nid yw pob symudiad yn un tymor hir; weithiau gallwch ddychwelyd ar ôl ychydig o oriau neu efallai fod yn rhaid eich ailgartrefu tra bo gwaith dadlygru yn cael ei gynnal.

Paratoi ar gyfer gorfod symud o’ch tŷ

  • Siaradwch gyda’ch teulu am y posibilrwydd o adael eich tŷ.
  • Cynlluniwch ble y byddech yn mynd pe bai’n rhaid ichi adael eich cartref neu hyd yn oed eich tref a sut y byddech yn cyrraedd yno.
  • Trefnwch le i gwrdd ag aelodau o’ch cartref rhag ofn ichi gael eich gwahanu.
  • Gofynnwch i ffrind sy’n byw y tu allan i’r dref fod yn fan cyswllt fel y gall pawb yn eich teulu alw’r person hwnnw i ddweud eu bod yn ddiogel.
  • Gofynnwch i ble y byddai plant yn cael eu gyrru pe baent yn gorfod gadael yr ysgol. Cofiwch y gall hyn newid yn sydyn os na eillir defnyddio’r man allgau gan ei fod yn anniogel.
  • Casglwch becyn argyfwng sy’n cynnwys yr eitemau y byddech eu hangen mewn Canolfan Loches - meddyginiaeth presgripsiwn, eitemau babi, taclau ymolchi a rhestr rhifau ffôn.
  • Darganfyddwch sut i ddiffodd cyflenwad trydan, nwy a dŵr eich cartref yn y prif switshis a falfiau. Sicrhewch fod y teclynnau y byddech eu hangen i wneud hyn wrth law.

Mewn achos o symud o’ch cartref

Dilynwch gyngor y gwasanaethau brys bob amser ac os yn bosib darllenwch ein gwefan a gwrandewch ar y sianeli radio lleol am ddiweddariadau.

Sianeli radio lleol

  • BBC Radio Wales 657AM, 882AM and 93-104FM
  • Marcher Sound 103.4
  • Marcher Gold 1260 AM
  • Chester Dee 106.3FM
  • BBC Radio Cymru 92.4 – 96.8 and 103.5-104.9mhz FM
  • Radio City 96.7FM
  • BBC Radio Merseyside 95.8FM 1485AM
  • Coast 96.3