Yn dilyn argyfwng

Unwaith fod yr argyfwng drosodd, byddwch eisiau dychwelyd i fywyd normal. Byddwn yn gwneud popeth y gallwn i helpu i wella eich sefyllfa cyn gynted ag sy’n bosib, ond mae’n rhaid i rai cyfrifoldebau aros gyda chi fel unigolyn, yn enwedig o ran eich iechyd a’ch eiddo.

Iechyd a diogelwch

  • Byddwch yn ymwybodol o’r peryglon newydd a grëwyd gan y trychineb. Gwyliwch am ffyrdd na ellir eu defnyddio, adeiladau wedi eu halogi, dŵr wedi ei lygru, gollyngiadau nwy, gwydr wedi torri, gwifrau wedi eu difrodi, lloriau llithrig a sefyllfaoedd tebyg.
  • Byddwch yn ymwybodol o orfliner. Peidiwch â cheisio gwneud gormod ar unwaith. Gosodwch flaenoriaethau a pheidiwch â cheisio a gwneud popeth ar unwaith.
  • Yfwch ddigon o ddŵr glân. Bwytwch yn dda gan gymryd digon o seibiant.
  • Gwisgwch esgidiau cryf a menig gwaith wrth weithio gyda malurion. Golchwch eich dwylo yn drwyadl gyda sebon a dŵr glân yn aml, yn enwedig os ydych yn delio â llifddwr.
  • Rhowch wybod inni neu’r gwasanaethau brys o unrhyw beryglon iechyd a diogelwch megis gollyngiadau cemegol, llinellau pŵer wedi dymchwel, ffyrdd na ellir eu defnyddio, deunydd insiwleiddio yn mudlosgi, gollyngiadau nwy neu anifeiliaid marw.

Dychwelyd adref

Gall dychwelyd i gartref sydd wedi ei ddifrodi fod yn heriol yn gorfforol a meddyliol. Yn fwy na dim, byddwch yn wyliadwrus.

  • Cyn mynd i mewn i’ch tŷ, cerddwch yn ofalus o amgylch tu allan yr adeilad gan chwilio am linellau pŵer rhydd, gollyngiadau nwy a difrod strwythurol. Os byddwch yn arogli nwy, peidiwch â dychwelyd i’ch cartref.
  • Os difrodwyd eich cartref gan dân, peidiwch â mynd i mewn nes bod yr awdurdodau yn cyhoeddi ei fod yn ddiogel.
  • Edrychwch am graciau yn y to, waliau a simnai. Os yw’n edrych fel y gall yr adeilad gwympo, gadewch yn syth.
  • Tortsh yw’r golau gorau ar gyfer archwilio difrod i gartref. RHYBUDD: Trowch ef ymlaen y tu allan; gall gynhyrchu gwreichion a all gynnau gollyngiad nwy, os yw’n bresennol. Peidiwch â chynnau tân y tu mewn i’ch tŷ os ydych yn amau fod nwy yn gollwng.
  • Os diffoddwyd eich cyflenwad nwy cyn ichi adael, mae angen i weithiwr proffesiynol ei ailddechrau a phrofi’r system nwy cyn y gallwch ei ddefnyddio’n ddiogel.
  • Os ewch i mewn i dŷ ac arogli nwy neu glywed sŵn hisian, gadewch ar unwaith.
  • Archwiliwch bob cyfarpar trydanol. Os ydynt yn wlyb, mae angen i weithiwr proffesiynol edrych arnynt cyn ichi eu defnyddio.
  • Agorwch ffenestri a drysau er mwyn symud yr aer unwaith eto - yn enwedig os ydych wedi bod yn llochesu yn eich cartref; rydych angen creu drafft er mwyn cael gwared ag unrhyw nwyon a all fod wedi casglu yn eich cartref.
  • Taflwch fwyd, cosmetigau a meddyginiaethau sydd wedi cyffwrdd llifddwr.
  • Peidiwch â gadael i’ch plant chwarae gyda theganau sydd wedi cyffwrdd llifddwr, cyn ichi eu diheintio.
  • Cysylltwch â’ch awdurdod lleol neu Gwmni Cyflenwi Dŵr cyn defnyddio’r dŵr; efallai ei fod wedi ei lygru.

Yswiriant

Galwch eich darparwr yswiriant cyn gynted ag y bo modd. Tynnwch luniau o’r difrod a cadwch gofnodion manwl o unrhyw gostau glanhau a gwaith atgyweirio. Byddwch yn ymwybodol o fasnachwyr ffug sy’n galw ar ôl pob trychineb. Sicrhewch eich bod yn cael dyfynbris ysgrifenedig bob tro; bydd eich yswiriwr agen hwn. Sicrhewch ei fod ar bapur pennawd llythyr gyda rhif ffôn llinell dir a chyfeiriad yr ydych wedi ei wirio. Peidiwch fyth a thalu ymlaen llaw; talwch dim ond wedi i’r gwaith gael ei gwblhau a’ch bod yn fodlon ag o, a cadwch dderbynneb y taliad.

Ymdopi â thrychinebau

Bydd unrhyw drychineb yn eich gadael o dan straen ac wedi’ch effeithio’n feddyliol. Peidiwch â theimlo fod yn rhaid ichi ymdopi heb help. Rhowch ofal arbennig i’ch plant; gallant fod wedi eu heffeithio’n fwy nac sy’n amlwg a gall unrhyw ymateb fod yn araf yn dod i’r wyneb. Byddwch angen bod yn ymwybodol o’r arwyddion fod rhywun, gan gynnwys eich hunan, angen help. Gwyliwch am y canlynol:

  • Anhawster cysgu
  • Anhawster cadw cydbwysedd
  • Anniddig
  • Colli tymer yn hawdd
  • Defnyddio mwy ar alcohol/cyffuriau
  • Trafferth talu sylw
  • Perfformiad gwael yn y gwaith
  • Cur pen/problemau ystumog
  • Gwelediad twnnel / anhawster clywed
  • Symptomau o anwyd neu debyg i’r ffliw
  • Dryswch
  • Anhawster canolbwyntio
  • Amharod i adael gartref
  • Iselder, tristwch
  • Ymdeimlad o anobaith
  • Hwyliau ansad a chrio’n hawdd
  • Amau eu hunain ac euogrwydd llethol
  • Ofn tyrfaoedd, dieithriaid a bod ar eu pen eu hunain

Gall trychinebau adael pobl, yn enwedig plant, yn ofnus, dryslyd ac ansicr. Mae’n bwysig rhoi gwybod i rieni ac athrawon, a’u bod yn barod i helpu pe baent yn dechrau dangos symptomau o fod dan straen. Cofiwch y gall blant gael eu heffeithio wrth weld drama ar y teledu.

  • Gall blant ymateb yn fuan wedi’r digwyddiad, neu fod yn iawn am wythnosau cyn dangos arwyddion o ymddygiad sy’n achosi pryder.
  • Mae cysur yn hollbwysig wrth helpu plant gyda thrawma. Bydd plant ifanc iawn angen llawer o gyffyrddiadau corfforol a chofleidio. Maent hefyd angen cefnogaeth geiriol.
  • Atebwch gwestiynau’n onest, ond peidiwch â phwysleisio’r manylion brawychus na chaniatáu i’r pwnc ddominyddu bywyd y teulu’n barhaol.
  • Anogwch bob plentyn i fynegi emosiynau drwy sgwrsio, dynnu llun neu ganfod ffordd o helpu eraill a effeithiwyd gan yr un trychineb.
  • Cysylltwch â’ch Gwasanaeth Plant neu athrawon eich plant am fyw o gyngor.
  • Cadwch drefn arferol eich cartref.
  • Anogwch blant i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden.
  • Lleihewch eich disgwyliadau dros dro o ran perfformiad yn yr ysgol neu yn y cartref.