
Hoffech chi gadw'n gynnes y gaeaf hwn a chwrdd â phobl newydd? Oes arnoch chi awydd cael sgwrs, paned o de, cymryd rhan mewn gweithgareddau difyr i'r teulu, neu ddarllen llyfr?
Os felly, mae lleoliadau ar draws Sir Ddinbych sy'n cynnig lle croesawgar, cyfforddus yn ystod y dydd i sgwrsio, cael lluniaeth, gwneud gweithgaredd, cael cyngor neu ymlacio, fel rhan o brosiect 'Croeso Cynnes'.
Mae pob lleoliad yn darparu profiad gwahanol i bawb. Bydd rhai lleoliadau yn cynnig gweithgareddau a gwasanaethau eraill megis Wi-Fi am ddim.
Mae'r prosiect hwn yn rhan o Fudiad 2025, sy'n dod â phartneriaid at ei gilydd trwy fenter Croeso Cynnes i gefnogi hyn.
Croeso i bawb!
Lleoliadau Croeso Cynnes
Lleoliadau Croeso Cynnes (PDF, 512KB)
Cliciwch ar y map isod i ganfod "Croeso Cynnes" sy'n agos atoch chi:
Map o leoliadau Croeso Cynnes (gwefan allanol)
Mae'r map yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd, felly sicrhewch eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r hyn sy'n digwydd yn eich ardal chi.
A ellwch chi gynnig Croeso Cynnes?
Os ydych chi'n sefydliad, canolfan gymunedol neu fusnes lleol sy'n cynnig "Croeso Cynnes", llenwch y ffurflen hon.
Cofrestru eich sefydliad / busnes (gwefan allanol)
Gwneud cais am Grant Prosiect Croeso Cynnes
Oherwydd y nifer uchel o geisiadau a dderbyniwyd, rydym yn gorfod cau’r broses ymgeisio am y tro.
Unwaith y bydd y panel wedi cyfarfod i benderfynu ar y ceisiadau hyd yma, os bydd yna unrhyw arian pellach ar gael, bydd y broses ceisiadau yn ailagor. I gael cyngor a chefnogaeth am gyfleoedd pellach am arian grant, gallwch gysylltu â communitydevelopment@denbighshire.gov.uk
Templed poster
Os ydych chi'n sefydliad sydd wedi cofrestru gyda'r cynllun 'Croeso Cynnes', fe allwch chi lawrlwytho templed poster i helpu i hysbysebu eich digwyddiad:
