Datblygu Cymunedol: Cefnogi eich syniad neu brosiect 

Mae'n aml yn ddefnyddiol casglu llythyrau neu negeseuon e-bost o gefnogaeth o wahanol ffynonellau wrth ddatblygu prosiect cymunedol, yn enwedig i gyd-fynd â cheisiadau am gyllid. Bydd hyn yn help i ddarparu tystiolaeth fod y bobl fydd yn elwa o’r prosiect o’r farn ei fod yn syniad da a bod hyder y gall y prosiect gael ei gyflawni’n llwyddiannus gan y grŵp neu’r sefydliad sy’n arwain arno. Gall llythyrau cefnogi hefyd ddarparu sicrwydd fod y prosiect yn cyd-fynd â strategaethau lleol cyfredol, yn cyd-fynd â darpariaethau lleol ac i ddilysu unrhyw ymrwymiadau o ran gweithio mewn partneriaeth.

Gallwch ofyn am lythyr cefnogi gennym ni ar gyfer eich prosiect cymunedol drwy gysylltu â’r Tîm Datblygu Cymunedol gan gynnwys manylion am eich prosiect a'r cais am arian (os yn berthnasol).

Bydd y cynnig prosiect yn cael ei rannu gyda'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth ac yna'n cael ei raeadru i swyddogion perthnasol ar draws holl wasanaethau'r cyngor am sylwadau. Yna bydd rhain yn cael eu casglu i un ymateb a ddarperir ar bapur swyddogol Cyngor Sir Ddinbych.

Wrth adolygu cynigion prosiectau cymunedol bydd ystyriaeth yn cael ei roi i:

  • cyweddu strategaethau'r prosiect
  • a yw'r rhesymau am y prosiect yn gadarn ac yn cynnwys tystiolaeth
  • cyfleoedd i gydweithio
  • a oes dyblygiad/ dirlawnder o'r math hwn o weithgarwch prosiect mewn ardal
  • a oes unrhyw fylchau y gellir eu nodi yn y prosiect
  • hyder o safbwynt cyflawni’r prosiect
  • a yw'r prosiect yn groes i nodau'r Cyngor

Os ydych yn credu y byddai'n ddefnyddiol gwneud cais am lythyr cefnogi gan Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer eich prosiect cymunedol, cysylltwch â'r Tîm Datblygu Cymunedol gyda manylion am eich prosiect a'r cais am gyllid (os yn berthnasol) drwy e-bost datblygucymunedol@sirddinbych.gov.uk.