Cefndir y prosiect
Prynodd Cadwyn Adfywio (cwmni masnachol cyfyngedig drwy warant / menter gymdeithasol) hen adeilad banc HSBC ym mis Tachwedd 2014 gyda’r nod o ddefnyddio’r adeilad fel ffordd o gyfrannu at adfywiad Corwen a’r ardal. Roedd yr adeilad mewn cyflwr gwael, a chyflwynodd Cadwyn Adfywio gais am gyllid UE i gefnogi dull graddol i ailwampio’r adeilad. Mae agweddau mewnol yr adeilad bellach wedi cael eu hailwampio gan ddefnyddio’r dull graddol hwn, gyda’r llawr cyntaf yn cael ei brydlesu i Gadwyn Clwyd fel y prif denant, a’r ail lawr ar gael i’w brydlesu i fusnesau bychain.
Yn 2016, comisiynwyd Haygarth Berry Associates gan Cadwyn Clwyd / Cadwyn Adfywio i ymgymryd ag ymarfer ymgynghori cymunedol a manyleb prosiect i ystyried yr opsiynau amrywiol ar gyfer sefydlu a chynnal canolbwynt cymunedol aml-ddefnydd dull menter gymunedol yn hen adeilad HSBC.
Mewn lleoliad canolog yn nhref Corwen ac ar gefnffordd hanesyddol yr A5, mae’r eiddo’n adeilad rhestredig tri llawr sylweddol. Bydd y prosiect yn rhyddhau potensial hen adeilad gwag yng nghanol Corwen drwy wneud gwelliannau angenrheidiol a sicrhau fod y cyfleusterau gwell yn ganolbwynt ar gyfer y gymuned a fydd yn hygyrch ac yn berthnasol i bawb.
Roedd cam olaf y prosiect yn cynnwys ailwampio agweddau allanol yr adeilad a gosod gwydr eilaidd.