Cefndir y Prosiect
Nod y prosiect hwn oedd gwella’r cysylltiad rhwng Gorsaf Reilffordd Corwen a’r stryd fawr drwy greu dulliau cyfeirio ac arwyddion gwell. Bwriad y prosiect oedd gwella amser a gwariant ymwelwyr a hefyd darparu cyfleusterau gwell i breswylwyr a busnesau lleol. I gyflawni hyn, roedd y prosiect yn ceisio gwella ymddangosiad cyffredinol y stryd fawr. Yn ogystal â hynny, gofynnwyd am ardal ddynodedig o fewn y Stryd Fawr ar gyfer coeden Nadolig bob blwyddyn.