Y Gronfa Ffyniant Bro: Canopi Platfform Rheilffordd (Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen)

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Cefndir y prosiect

Cefndir y prosiect

Mae hwn yn rhan o Brosiect 3 o Brosiect Cronfa Ffyniant Bro Dyffryn Dyfrdwy De Clwyd: Cysylltedd Corwen - Porth y Gorllewin Newydd a Gwell i Ddyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd.

Y nod yn gyffredinol yw i wella rhwydweithiau cysylltedd ymwelwyr, asedau canol y dref a’r parth cyhoeddus rhwng yr orsaf a chanol tref Corwen gan greu pwynt mynediad gwell ac ategol i ymwelwyr i Safle Treftadaeth y Byd.

Bydd y prosiect hwn yn darparu canopi platfform ar gyfer gorsaf reilffordd newydd Corwen ar Reilffordd Llangollen i Gorwen.

Bydd hyn yn cynnwys prynu a gosod y canlynol:

  • Adeiledd trawst cludo
  • Adeiledd cyplog
  • Ffasgia canopi
  • Gosodiadau golau
Pwyntiau allweddol

Pwyntiau allweddol

Ym mis Ionawr 2023 dechreuodd y gwaith o adeiladu 26 o fframiau to canopi 1 tunnell yr orsaf newydd sbon.

Fe ymgymrodd contractwyr Plant & Robinson Construction Limited, sydd wedi eu lleoli ym Malpas, â’r ymarferiad mawr hwn wedi eu cefnogi gan dîm o wirfoddolwyr ymroddedig Corwen, yn ogystal â staff Rheilffordd Llangollen a gwirfoddolwyr. Cyn cael eu codi i’w safleoedd cafodd pob un o’r fframiau eu cydosod o 11 o is-gydrannau gan dîm y contractwyr. Cafodd 6 ffrâm eu cydosod yn llwyddiannus a’u codi a’u weldio i’w lle erbyn diwedd diwrnod 1 ac fe gymrodd y gweddill rai dyddiad i’w cwblhau. Cam nesaf y gwaith oedd i osod y cladin ar y to.

Mae’r canopi wedi ei ariannu gan Grant £191,000 o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, wedi ei drefnu drwy Gyngor Sir Ddinbych.

Dywedodd Tom Taylor, Rheolwr Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen: "Fel Ymddiriedolaeth Elusennol, mae Rheilffordd Llangollen yn bwriadu adeiladu ar ein llwyddiannau yn 2022 a chynyddu’r hyn rydym yn ei gynnig i’r cyhoedd. Mae gallu dychwelyd trenau i Gorwen yn rhan ganolog o’n cynlluniau ac i wneud hynny mae angen i ni gwblhau ein gorsaf newydd wych. Rydym yn hynod ddiolchgar i CSDd am hwyluso dosbarthiad y rhaglen hon a ariennir gan Lywodraeth y DU, sydd wedi galluogi i’r canopi gael ei gynllunio, ei adeiladu a nawr ei osod. Mae’n braf iawn ein bod wedi gallu cefnogi busnesau lleol hefyd, gyda chwmni sydd wedi ei leoli y tu allan i Wrecsam yn cyflenwi’r gwaith dur."

Mae’r orsaf ar lethr ac mae yma olygfeydd trawiadol o’r dref a’r mynyddoedd o gwmpas, sy’n tanlinellu Corwen fel porth i Eryri. Mae’r canopi yn gorchuddio cyfran sylweddol o blatfform yr orsaf ac yn gweithredu fel to ar gyfer adeilad yr orsaf. Gall y lleoliad brofi gwyntoedd cryfion ac mae tîm prosiect Corwen wedi gweithio’n agos iawn gyda chyflenwyr i ddatblygu datrysiad peirianyddol cryf a chadarn a fydd yn sicrhau fod ein canopi yn sefyll yn ddiogel dros yr orsaf am nifer o flynyddoedd, tra hefyd cadw cymeriad ac awgyrgylch hanes balch Rheilffordd Llangollen.

Yn y gwaith maent wedi gallu ailgylchu rhai arteffactau hanesyddol yn ymwneud â’r rheilffordd ochr yn ochr â’r gwaith dur newydd. Mae’r colofnau addurnedig sy’n cefnogi’r canopi o orsaf Blackfriars yn Llundain, a rhoddwyd rhain i ni gan Network Rail. Mae’r thema hon yn ymwneud ag ailgylchu ac adfer yn parhau ar hyd a lled rhannau eraill o’r orsaf, gyda cherrig ymylon platfform o Orsaf Lime Street Lerpwl a Chyffordd Bala a’r caban signalau o Weston Rhyn.

Dywedodd Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Reilffordd, Phil Coles: "Dyma gam pwysig arall o ran ymestyn y lein i Gorwen. Mae wedi bod yn gyfnod hir ac rydym wedi wynebu cynifer o heriau ond rydym yn benderfynol o wireddu gweledigaeth wreiddiol ein sefydlwyr mewn cael y rheilffordd yn ôl i Gorwen yn barhaol. Disgwylir y bydd cyfanswm y gost o ymestyn y lein o’n gorsaf dros dro wreiddiol yn Nwyrain Corwen yn £1.25m. Mae’r hyn a wnaed hyd yma yn gamp ragorol, yn arbennig pan rydych yn ystyried fod rhan helaethaf yr orsaf wedi ei hadeiladu gan ein tîm bach ond ymroddedig o wirfoddolwyr Prosiect Corwen. Mae ganddynt oed cyfartalog o 67, ond mae rhai ohonynt yn eu saithdegau hwyr, ond nid ydynt yn dangos unrhyw arwyddion o golli stêm!"
Y sefyllfa bresennol

Y sefyllfa bresennol

Mae'r canopi nawr wedi ei gwblhau yn llawn ac fe agorodd yr orsaf ar Fehefin 1af 2023 gyda phenwythnos o ddathliadau i nodi ei gwblhau a dod â’r rheilffordd yn ôl i Gorwen yn barhaol.

Oriel

Oriel

Railway Platform Canopy: Frame assembly
Canopi’r Platfform Rheilffordd: Cydosod y ffrâm.

Railway Platform Canopy: Frame assembly
Canopi’r Platfform Rheilffordd: Cydosod y ffrâm.

Corwen Station
Gorsaf Corwen.

Corwen Station: View from embankment
Gorsaf Corwen. Yr olygfa o'r llethr.

Railway Platform Canopy: Above stairs to underpass
Canopi'r Platfform Rheilffordd: Uwchben y grisiau i'r danffordd.

Railway Platform Canopy: Canopy above stairs to underpass
Canopi'r Platfform Rheilffordd: Y danffordd yn edrych i fyny tuag at y platfform.

Carriages at Corwen platform at the official opening
Cerbydau ym mhlatfform Corwen yn yr agoriad swyddogol.

Train at Corwen station
Trên yng ngorsaf Corwen.


Cysylltu â ni

Cysylltwch â ffyniantbro@sirddinbych.gov.uk gan nodi pa brosiect y mae gennych ddiddordeb penodol ynddo a byddwn yn anfon y neges at y rheolwr prosiect perthnasol.

Gwefannau cysylltiedig

Gorsaf Corwen (gwefan allanol).

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro