Cronfa Ffyniant Bro: Maes Parcio Lôn Las

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Cefndir y prosiect

Cefndir y prosiect

Nod y prosiect newydd hwn yw darparu gwelliannau i Faes Parcio Lôn Las ac annog ymwelwyr i’w ddefnyddio. Bwriad y prosiect yw gwella amser a gwariant ymwelwyr a hefyd darparu cyfleusterau gwell i breswylwyr a busnesau lleol.

I gyflawni hyn, bydd y prosiect yn ceisio darparu:

  • Pwyntiau gwefru cerbydau trydan
  • Ailwampio'r bloc toiledau
  • Cilfan bysiau newydd a marciau ffordd cysylltiedig
  • Seddi / Meinciau picnic
  • Arwyddion
Pwyntiau allweddol

Pwyntiau allweddol

Cynhaliwyd digwyddiad gwybodaeth cyhoeddus yn 2023 i rannu’r cynigion.

Bydd y gwaith adeiladu yn digwydd mewn dau gam, bydd Cam 1 yn dechrau ym mis Mehefin / Gorffennaf a Cham 2 ym mis Hydref. Er y bydd y gwaith yn tarfu rhywfaint ar y briffordd a mynediad i’r palmant mewn rhai mannau, ni fydd hyn yn para’n hir ac ni fydd yn digwydd yn ystod gwyliau ysgol.

  • Pwyntiau gwefru cerbydau trydan i wefru 10 car a marciau ffordd cysylltiedig
  • Cilfan bysiau ychwanegol a marciau ffordd cysylltiedig
  • Ailwampio’r bloc toiledau presennol yn cynnwys ciwbicl hygyrch i bobl â dementia, cyflwyno dull talu digyswllt ar gyfer y bloc toiledau
  • Arwyddion
  • Meinciau picnic
Y Sefyllfa Bresennol

Y Sefyllfa Bresennol

Hyd yma, mae’r prosiect hwn wedi:

Gosod 10 man gwefru cerbydau trydan.

Camau nesaf:

  • Gwaith i wella’r gyfnewidfa fws.
  • Adnewyddu’r bloc toiledau.
  • Gosod gwell arwyddion.

Dogfennau cysylltiedig

Oriel

Oriel

Maes Parcio Lôn Las: Pwyntiau gwefru cerbydau trydan

Maes Parcio Lôn Las: Pwyntiau gwefru cerbydau trydan