Cronfa Ffyniant Bro: Plas Newydd

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Cefndir y prosiect

Cefndir y prosiect

Mae Plas Newydd yn dŷ hanesyddol yn Llangollen a fu unwaith yn gartref i Ferched Llangollen, y Foneddiges Eleanor Butler a Sarah Ponsonby, am bron i 50 mlynedd. Heddiw, amgueddfa ydyw. Gwnaeth y merched ehangu a gwella’r gerddi hefyd, gan ychwanegu llawer o nodweddion Gothig yn y Glyn, ardal gysgodol o dan y tŷ sy’n rhedeg ar hyd nant. Yr ardal ddiarffordd hon oedd hoff lecyn y merched, ac roedd gweithgarwch y prosiect yn canolbwyntio ar wella mynediad iddi, yn ogystal â chreu’r posibilrwydd ar gyfer mynediad cyhoeddus yn y dyfodol i adeilad hanesyddol arall, sef ‘Weaver’s Cottage’.

Roedd y prosiect hwn yn creu mynediad o lwybr presennol ym Mhlas Newydd i Weaver’s Cottage, yn gosod rheiliau newydd yn lle’r rhai sydd wedi’u difrodi i’r fynedfa ogleddol ar lethr i’r Glyn (bydd y rhain wedi’u mewnlenwi mewn gwahanol fannau er diogelwch) ac yn creu llwyfan gwylio ar ochr dde i fynedfa ogleddol y Glyn ar gyfer pobl llai abl nad ydyn nhw efallai’n gallu mynd i lawr i’r Glyn ei hun. Roedd y prosiect hefyd yn gwella nifer o’r llwybrau o amgylch y safle.

Y Sefyllfa Bresennol

Mae’r prosiect bellach wedi’i gwblhau.

Oriel

Oriel

Gwelliannau i lwybr y Glyn a chanllaw newydd:

Plas Newydd: Gwelliannau i lwybr y Glyn a chanllaw newydd.

Plas Newydd: Gwelliannau i lwybr y Glyn a chanllaw newydd.

Plas Newydd: Gwelliannau i lwybr y Glyn a chanllaw newydd.


Cysylltu â ni

Defnyddiwch ein ffurflen ymholiadau cyffredinol a dewiswch ‘Ariannu Ffyniant Bro’ fel y gwasanaeth perthnasol. Yn eich ymholiad, dywedwch wrthym pa brosiect y mae gennych ddiddordeb penodol ynddo a byddwn yn anfon y neges at y rheolwr prosiect perthnasol.