Cronfa Ffyniant Bro: Gwarchodfa Natur Wenffrwd

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Cefndir y prosiect

Cefndir y prosiect

Mae Wenffrwd yn hen safle tir llwyd y daeth Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn gyfrifol amdano yn 2018. Ers hynny, mae Gwasanaethau Cefn Gwlad wedi gweithio i ddatblygu'r safle yn warchodfa natur gan gyflenwi lleoedd parcio ychwanegol hefyd i roi mynediad i gefn gwlad lleol a Safle Treftadaeth y Byd Camlas Llangollen. Mae'r elfennau sy'n cael eu cynnwys yng ngweithgarwch y prosiect hwn yn cefnogi datblygu’r amwynder twristiaeth a lleol hwn ymhellach.

Bydd gweithgarwch y prosiect hwn yn gwella cysylltiadau’r dref i Warchodfa Natur Wenffrwd ac o’r Warchodfa drwy greu llwybrau cerdded / beicio ychwanegol, yn cynnwys llwybr newydd ar hyd yr hen reilffordd rhwng y Warchodfa Natur a Chanolfan Iechyd Llangollen, a chreu llwybr cysylltu â llwybr halio Camlas Llangollen, rhan o Safle Treftadaeth y Byd. Bydd hefyd yn gwneud gwelliannau i'r ardal ddiwydiannol bresennol ar y safle, gan ei droi'n lle cymunedol a gwaith ymarferol.

Pwyntiau allweddol

Pwyntiau allweddol

Mae gweithgarwch y prosiect hwn wedi’i gynnwys yng nghais Cronfa Ffyniant Bro De Clwyd a’r bwriad yw cyflwyno gwelliannau cysylltedd symudiad defnyddwyr / ymwelwyr ar hyd 11 Milltir Camlas Llangollen, Safle Treftadaeth y Byd. Bwriad hyn yn ei dro yw cynyddu’r amser y mae ymwelwyr yn aros yn Llangollen sydd â manteision economaidd a chymdeithasol cysylltiedig i'r ardal leol.

Yn ogystal â hyn, bydd gwelliannau yn Wenffrwd yn cefnogi’r buddion canlynol:

  • Gwella’r hyn sydd ar gael i ymwelwyr.
  • Gwell cysylltiadau, yn cynnwys i Langollen heibio’r Ganolfan Iechyd ac i lwybr halio Camlas Llangollen a Safle Treftadaeth y Byd.
  • Cynnydd yn nifer yr ymwelwyr a thebygolrwydd uwch y byddan nhw’n dychwelyd.
  • Ymwelwyr yn treulio mwy o amser ar y safle.
  • Gwell mynediad i atyniadau allweddol.
  • Manteision cymunedol, yn cynnwys y cyfle ar gyfer gweithgareddau gwirfoddoli a manteision lles.

Bydd y prosiect hwn hefyd yn cyfrannu at y canlyniadau a nodwyd yng nghais Cronfa Ffyniant Bro De Clwyd ar gyfer yr ardal. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Gwella mynediad i Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr Pontcysyllte a Chamlas Llangollen a’r lleoliadau cysylltiedig i ymwelwyr yn Sir Ddinbych, fel Gwarchodfa Natur Wenffrwd.
  • Buddsoddi yn y safleoedd hyn i'w gwneud nhw’n atyniadau i ymwelwyr sy’n flaenllaw, yn addas i deuluoedd ac yn diogelu a gwella eu gwerth amwynder i gymunedau lleol.
  • Rhagor o gyfleoedd i gerdded a beicio.
  • Gwell cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau Natur er budd Iechyd (gwefan allanol).
  • Rhagor o gyfleoedd o ran Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (gwefan allanol).
  • Rhagor o gyfleoedd gwirfoddoli.
  • Darpariaeth beicio diogel.
Y Sefyllfa Bresennol

Y Sefyllfa Bresennol

Hyd yma, mae'r prosiect hwn wedi:

  • Creu llwybr cysylltu rhwng y warchodfa natur a’r ganolfan iechyd. Mae’r llwybr hwn nawr yn cael ei ddefnyddio ar gyfer 'Park Run' yn rheolaidd!
  • Creu llwybr rhwng llwybr y gamlas a’r warchodfa natur i greu mynediad at Raeadr y Bedol a’r Safle Treftadaeth y Byd ehangach.

Camau nesaf:

  • Gwaith gwella i’r ardal gompownd.
  • Cyflwyno mwy o lwybrau beicio sy’n addas i deuluoedd.
Oriel

Oriel

Dolen o'r Warchodfa Natur i'r Ganolfan Iechyd:

Wenffrwd: Dolen o'r Warchodfa Natur i'r Ganolfan Iechyd.

Safle llwybr cysylltu camlas Llangollen:

Wenffrwd: Safle llwybr cysylltu camlas Llangollen.

Wenffrwd: Safle llwybr cysylltu camlas Llangollen.


Cysylltu â ni

Cysylltwch â ffyniantbro@sirddinbych.gov.uk gan nodi pa brosiect y mae gennych ddiddordeb penodol ynddo a byddwn yn anfon y neges at y rheolwr prosiect perthnasol.

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro