Y Pedair Priffordd Fawr

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Gwelliannau i Bedair Priffordd Fawr Llangollen: Camlas Llangollen, hen Reilffordd Rhiwabon i’r Bermo, yr Afon Dyfrdwy a’r A5 Ffordd Caergybi. Gan gynnwys gwella hygyrchedd, dehongliad ac arwyddion.

Cefndir y prosiect

Cefndir y prosiect

Nod y prosiect newydd hwn yw hyrwyddo a gwella pedair priffordd fawr Llangollen, drwy wneud gwelliannau i’r tirlun a’r beirianneg er mwyn gwella mynediad, bioamrywiaeth, gwelededd a dehongliad Safle Treftadaeth y Byd a Chamlas Llangollen, hen reilffordd Rhiwabon i’r Bermo, yr Afon Dyfrdwy a Ffordd Llundain i Gaergybi hanesyddol Thomas Telford (A5). Y nod yw gwella profiadau preswylwyr ac ymwelwyr ac annog pobl i dreulio mwy o amser yma. I gyflawni hyn, mae pedair prif ardal wedi cael eu nodi:

  1. Y Lanfa
  2. Mannau mynediad i'r Lanfa, y Rheilffordd a Pharc Melin Isaf Dyfrdwy
  3. Parc Melin Isaf Dyfrdwy
  4. Arwyddion a Chyfeirbyst

Mae'r gwaith arfaethedig ym mhob un o'r ardaloedd allweddol hyn yn debygol o gynnwys:

  • Gwneud gwelliannau o amgylch y Lanfa, gan gynnwys gwelliannau i seddi, mynediad ac arwyddion
  • Gwella arwyddion ar gyfer y Rheilffordd
  • Gwella hygyrchedd ac arwyddion i Barc Melin Isaf Dyfrdwy
  • Gwella, atgyweirio ac ail-ddelweddu Parc Melin Isaf Dyfrdwy
  • Gwella arwyddion ymwelwyr ar gyfer lleoliadau allweddol
Pwyntiau allweddol

Pwyntiau allweddol

  • Mae hwn yn brosiect newydd i greu gwelliannau i Bedair Priffordd Fawr Llangollen
  • Nid oes unrhyw gysylltiad rhwng y prosiect hwn a’r prosiect diweddar i ymestyn Heol y Castell na datblygiadau parhaus eraill yn Llangollen. Mae dyluniad a darpariaeth y prosiect hwn yn cael ei ystyried fel un sy’n berthnasol i gynlluniau eraill sy’n cael eu cyflawni yn y dre a’r cyffiniau. Mae’r dref yn seiliedig ar ddyluniad cysyniad dechreuol a gwblhawyd yn 2019. Roedd hwn yn cynnwys llawer o syniadau, rhai sydd eisoes wedi’u cwblhau fel rhan o’r gwaith priffyrdd diweddar. Mae’r prosiect hwn bellach yn canolbwyntio ar y 4 ardal a nodwyd, sef y Lanfa, mannau mynediad i’r Lanfa, y Rheilffordd a Pharc Melin Isaf Dyfrdwy, Parc Melin Isaf Dyfrdwy, ac Arwyddion a Chyfeirbyst.
  • Mae’r contract adeiladu bellach wedi cael ei ddyfarnu i OBR Construction.
  • Disgwylir i’r gwaith ddechrau yn ystod yr wythnos yn dechrau 5 Chwefror.
  • Disgwylir i’r contract gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mehefin 2024, os bydd y tywydd yn caniatáu.
Sefyllfa bresennol

Sefyllfa bresennol

  • Ionawr 2024: Mae’r Tîm Prosiect yn falch o gyhoeddi bod contractwr wedi cael ei benodi i gwblhau gwaith gwelliannau ar y Pedair Priffordd Fawr yn Llangollen. Mae’r contract ar gyfer y gwaith wedi cael ei ddyfarnu i OBR Construction, a gwblhaodd waith yn ddiweddar ar gyfer prosiect arall wedi’i ariannu gan y Gronfa Ffyniant Bro yng Ngwarchodfa Natur Wenffrwd. Disgwylir i’r gwaith ddechrau yn ystod yr wythnos yn dechrau 5 Chwefror 2024, gyda’r nod o’i gwblhau erbyn diwedd mis Mehefin 2024, os bydd y tywydd yn caniatáu, felly sylwer y gall hyn newid.
  • Mae’r dyluniadau ar gyfer y prosiect wedi cael eu haddasu ychydig yn dilyn adborth gan fudd-ddeiliaid a’r cyhoedd, ac i sicrhau y gellir cwblhau’r prosiect o fewn y gyllideb ddynodedig. Gweler yr Oriel ar gyfer darluniau trefniant cyffredinol y cynllun.
  • Newyddion: 20 Ionawr 2024 - Cau maes parcio’n rhannol dros dro yn Llangollen

Cynllun gosodiad y safle Pedair Priffordd Fawr (PDF, 245KB)

Oriel

Oriel

Beth sy'n digwydd?

Yn dilyn cais llwyddiannus am arian gan y Gronfa Ffyniant Bro, rydym yn gwella’r mannau cyhoeddus sy’n cysylltu Pedair Priffordd Fawr Llangollen (Camlas Llangollen, hen Reilffordd Rhiwabon i’r Bermo, yr Afon Dyfrdwy a’r A5 Ffordd Caergybi). Rhai o’r prif flaenoriaethau yw gwella hygyrchedd, arwyddion a deunyddiau.

Y Pedair Priffordd Fawr: Cynlluniau Trefniant Cyffredinol Tachwedd 2023 (PDF, 1.71MB)


Glanfa Llangollen

Glanfa Llangollen

Ramp Parc Melin Isaf Dyfrdwy

Ramp Parc Melin Isaf Dyfrdwy

Parc Melin Isaf Dyfrdwy

Parc Melin Isaf Dyfrdwy

Adborth dyluniadau dehongliad a dynodi ffordd

Dehongliad a dynodi ffordd wedi eu Cyfuno: Fersiwn bach a chul

Dyma'r cynlluniau ar gyfer pyst dynodi y ffordd. Defnyddir pyst dynodi ffordd i helpu pobl i lywio o gwmpas ardal.

Mae'r dyluniad hwn yn dangos postyn bach, cul. Gellid gosod y rhain mewn mwy o leoedd nag arwyddion mwy, lletach. Gellid eu defnyddio i ddangos hanes ardal, neu i helpu pobl i ddod o hyd i’w ffordd o gwmpas. Byddem yn sicrhau bod yr arwyddion yn defnyddio lliwiau sy'n cyd fynd â'r ardal y maent yn cael eu gosod ynddi.

* At ddibenion enghreifftiol yn unig.


Dehongliad a dynodi ffordd wedi eu: Cyfuno fersiwn mawr a llydan

Mae'r dyluniad hwn yn dangos postyn mawr, llydan. Gellir eu defnyddio i ddangos hanes ardal, helpu pobl i ddod o hyd i'w ffordd o gwmpas a dangos faint o amser y bydd yn ei gymryd i gerdded i leoliad arall.

Byddem yn sicrhau bod yr arwyddion yn defnyddio lliwiau sy'n cyd fynd â'r ardal y maent yn cael eu gosod ynddi.

* At ddibenion enghreifftiol yn unig.


Dehongliad gydag arwyddbyst sy'n dynodi ffordd

Gallwn hefyd gadw cynnwys y cyfeiriad ar wahân i'r hanes, ond cadw at bostyn sengl fel nad oes gormod o arwyddion yn yr ardal.

Mae'r dyluniad hwn yn dangos yr arwyddbyst i helpu pobl i ddod o hyd i'w ffordd, gyda hanes yr ardal ar waelod y postyn.*

* At ddibenion enghreifftiol yn unig.

Ymgynghoriad

Ymgynghoriad

Mae gwybodaeth a gasglwyd yn ymgynghoriadau mis Ionawr a mis Ebrill wedi’i chrynhoi a’i chyflwyno yn yr Adroddiadau Crynodeb Ymgysylltu â Budd-ddeiliaid a’r Gymuned, sydd i’w gweld isod.

Pedair Priffordd Fawr Adroddiad Cryno ar Ymgysylltu â Budd-ddeiliaid a'r Gymuned.

Mae'r adborth a dderbyniwyd ddiwedd y llynedd ar y dyluniadau canfod ffordd a dehongli bellach wedi'i adolygu gan y Bwrdd Prosiect a chafwyd cyfanswm o 37 o ymatebion. Bydd Tîm y Prosiect nawr yn dechrau ar ddylunio'r arwyddion i'w gosod o fewn y cynllun hwn yn seiliedig ar y safbwyntiau a'r dewisiadau clir a fynegwyd yn yr adborth a gasglwyd.

Pedair Priffordd Fawr dyluniadau o fyrddau dehongli a chyfeirbyst, Chwefror 2024 (PDF, 1.58MB)


Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, sylwadau neu bryderon pellach, cysylltwch â Thîm Prosiect y Pedair Priffordd Fawr yn y cyfeiriad e-bost canlynol: pedairprifforddfawr@sirddinbych.gov.uk.

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro