Y Gronfa Ffyniant Bro: Canolbwynt Cymunedol Canolfan Iâl

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Cefndir y prosiect

Cefndir y prosiect

Fe gaeodd ysgol y pentref ym Mryneglwys yn 2014 ac mae plant yr ysgol nawr yn mynychu Ysgol Dyffryn Iâl yn Llandegla. Yr Eglwys yng Nghymru oedd wedi bod yn berchen ar yr ysgol ac a fu’n ei chynnal drwy’r holl gyfnod y bu’n ysgol. Wedi ei chau dychwelodd perchnogaeth yr adeilad i Miss Mary Yale ac yn garedig iawn rhoddodd yr ysgol yn ôl i Gyngor Cymuned Bryneglwys. Wrth i’r adeilad ddechrau dirywio penderfynodd y cyngor roi'r gorau i'w trwydded i feddiannu; a oedd yn golygu nad oedd yr adeilad bellach yn 'perthyn' i neb.

Yn Hydref 2019 fe ffurfiodd grŵp o bentrefwyr Gymdeithas Canolfan Iâl, elusen oedd â’r nod o droi’r hen ysgol yn neuadd bentref yr oedd mawr ei hangen. Fe gafodd y sefydliad statws elusen yn Ebrill 2020. Gyda chymorth teulu Yale a’r esgobaeth, fe ddaeth y grŵp yn berchnogion ar yr adeilad a’r tir o amgylch ac fe wnaethant gais am gyllid o gronfa fferm Wynt Clocaenog a’r Gronfa Ffyniant Bro fel rhan o gais mwy Gorllewin Clwyd. Roedd y ddau’n llwyddiannus.

Pwyntiau allweddol

Pwyntiau allweddol

Adeilad Fictoraidd yw hwn wedi ei adeiladu yn 1872 ac mae’n parhau yn gadarn o ran ei strwythur.

Ar hyn o bryd nid oes yna unrhyw leoliadau addas i breswylwyr Bryneglwys gyfarfod a chynnal digwyddiadau cymdeithasol gan fod y dafarn leol wedi ei chau ers nifer o flynyddoedd ac nid oes llawer o siawns y bydd yn ailagor. Nod y prosiect yw adnewyddu Canolfan Iâl i’w gwneud yn addas i’r diben fel canolbwynt cymunedol er mwyn gallu cynnig cyfleoedd ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol.

Gan nad oes gan y pentref unrhyw gludiant cyhoeddus, os nad yw preswylwyr yn gyrru maent i bob pwrpas wedi eu cyfyngu i’r pentref a all fod yn ynysig. Bydd yr ymddiriedolwyr yn cynnal caffi cymunedol i alluogi preswylwyr i gyfarfod mewn amgylchedd braf.

Y sefyllfa bresennol

Y sefyllfa bresennol

Mae rheolwr prosiect wedi ei gyflogi gan yr elusen sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar lunio gwahoddiad i dendro a ddylai fod yn barod i’w gyhoeddi ddiwedd Chwefror 2024.

Mae'r elusen yn cynnal cyfarfodydd misol gyda Chyngor Sir Ddinbych i sicrhau fod y prosiect yn dilyn ei amserlen a bod grant y Gronfa Ffyniant Bro yn cael ei wario yn unol â rheoliadau Llywodraeth y DU.

Oriel

Oriel

Yr ysgol (Bryneglwys, Medi 2023):

Yr ysgol (Bryneglwys, Medi 2023)


Cysylltu â ni

Cysylltwch â ffyniantbro@sirddinbych.gov.uk gan nodi pa brosiect y mae gennych ddiddordeb penodol ynddo a byddwn yn anfon y neges at y rheolwr prosiect perthnasol.

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro