Cronfa Ffyniant Bro: Loggerheads

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Cefndir y prosiect

Cefndir y prosiect

Mae'r prosiect hwn yn ceisio gwella a chyfoethogi Parc Gwledig Loggerheads, porth i AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac un o’r safleoedd ymwelwyr prysuraf a reolir gan Gyngor Sir Ddinbych, trwy uwchraddio’r prif adeiladau ymwelwyr, creu canopi allanol gyda seddi ychwanegol a gwell mynediad i ymwelwyr, ochr yn ochr â gwaith lliniaru llifogydd y mae mawr ei angen.

Prif nod y gwelliannau hyn fydd cynorthwyo i reoli'r pwysau sy'n gysylltiedig â chynnydd yn nifer yr ymwelwyr ac ymateb i ddisgwyliadau cynyddol ymwelwyr.

Pwyntiau allweddol

Pwyntiau allweddol

  • Mae hwn yn brosiect newydd i gyflwyno gwelliannau i atyniad i dwristiaid mewn Tirwedd Cenedlaethol poblogaidd.
  • Mae’r prosiect yn cyd-fynd â’r gwelliannau a drefnwyd hefyd ar gyfer Moel Famau.
  • Mae’r contract dylunio wedi’i ddyfarnu i ymgynghorwyr lleol, TACP a Waterco.
  • Mae’r contract adeiladu wedi’i ddyfarnu i ParkCity Multitrade Ltd.
  • Dechreuodd y gwaith ym mis Awst 2025 a bwriedir ei gwblhau erbyn mis Ebrill 2026.
Y Sefyllfa Bresennol

Y Sefyllfa Bresennol

  • Mae Cam 1 y gwaith lliniaru llifogydd wedi’i gwblhau yn safle Loggerheads. Penodwyd contractwyr lleol, MWT Ltd, i gyflawni’r cynllun.
  • Mae caniatâd cynllunio wedi’i roi ar gyfer gwelliannau i ganolfan ymwelwyr a chaffi Loggerheads.
  • Mae gwaith caffael contractwr i gwblhau’r gwaith gwella wedi’i wneud, ac mae’r contract wedi’i ddyfarnu i ParkCity Multitrade Ltd, o Lanelwy.
  • Dechreuodd y gwaith ym mis Awst 2025 a bwriedir ei gwblhau erbyn mis Ebrill 2026.
  • Cwblhawyd cam cyntaf y gwaith ar y bloc toiledau ac maent bellach ar agor i’r cyhoedd. Mae gwaith yn mynd yn ei flaen i wella’r ganolfan ymwelwyr, yr ystafell gyfarfodydd a’r caffi. Dechreuodd y gwaith tirlunio allanol ac fe’i gwneir gam wrth gam i beidio ag amharu cymaint ar ymwelwyr.
  • Mae’r ganolfan ymwelwyr a’r caffi wedi symud i’r hen felin yn y pen isaf a bellach ar agor. Ceir arwyddion ychwanegol ar y safle i roi gwybod i bobl am wyriadau.
Oriel

Oriel

Loggerheads


Loggerheads


Loggerheads


Loggerheads

Ymgynghori

Ymgynghori

  • Rhoddwyd caniatâd cynllunio ym mis Tachwedd 2024.
  • Gellir gweld y cais cynllunio ar-lein.
  • Darluniau cysyniad o’r gwelliannau a gynlluniwyd i’w gweld ar-lein ac yng Nghanolfan Ymwelwyr Loggerheads.
Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Sut caiff y gwelliannau yn Loggerheads eu hariannu?

Ariannwyd y gwelliannau ym Mharc Gwledig Loggerheads drwy gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.

Mae’r cyllid Ffyniant Bro a ddyrannwyd i Sir Ddinbych yn gyfwerth â £10.95 miliwn a bydd Rhuthun a’r cymunedau gwledig, gan gynnwys Loggerheads a Moel Famau, yn elwa o’r cyllid hwn.

Mae Loggerheads wedi derbyn £1.4 miliwn o’r gronfa hon.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Ffyniant Bro yn Sir Ddinbych ar wefan y Cyngor.

Pam nad yw’r arian yn cael ei wario ar bethau eraill, megis tyllau yn y ffordd?

Dyrannir y cyllid gan Lywodraeth y DU yn benodol ar gyfer gwella isadeiledd a chyfleusterau ym Mharc Gwledig Loggerheads.

A yw’r prosiect yn gysylltiedig â chyflawni statws Parc Cenedlaethol ar gyfer yr ardal?

Nid yw’r prosiect yn Loggerheads yn gysylltiedig â’r cynnig i gyflawni statws Parc Cenedlaethol. Mae’r Parc Cenedlaethol yn fenter arbennig a arweinir gan Lywodraeth Cymru ac nid oes penderfyniad wedi cael ei wneud mewn perthynas â hyn eto.

Pam ein bod yn gwneud y gwelliannau hyn?

Prif nod y gwelliannau hyn yw helpu i reoli’r heriau sydd ynghlwm â nifer cynyddol o ymwelwyr (dros 200,000 o ymwelwyr y flwyddyn) a bodloni’r disgwyliadau cynyddol.

A fydd y parc yn parhau i fod ar agor dros gyfnod y gwaith?

Bydd Parc Gwledig Loggerheads yn parhau i weithredu dros gyfnod y gwaith adeiladu. Sefydlwyd canolfan ymwelwyr dros dro yn adeilad yr Oriel a chaffi’r drws nesaf. Mae’r toiledau cyhoeddus newydd ar agor. Bydd unrhyw ddiweddariadau am amhariadau’n cael eu rhannu ar wefan CSDd, y cyfryngau cymdeithasol, a’r wasg leol.

Ymdrechir i sicrhau cyn lleied o anghyfleustra â phosibl dros gyfnod y gwaith adeiladu.

Sut wnewch chi roi gwybod i bobl beth sy’n digwydd?

Bydd modd cael manylion am gynnydd y prosiect ar dudalennau’r Gronfa Ffyniant Bro arbennig ar wefan CSDd, yn ogystal ag ar y sianeli canlynol:

  • Gwybodaeth yn y wasg leol.
  • Bydd sianeli cyfryngau cymdeithasol Sir Ddinbych a’r AHNE hefyd yn cael eu diweddaru’n rheolaidd - dilynwch ein tudalennau Facebook (gwefan allanol) a Twitter (gwefan allanol).
  • Erthyglau yn y cylchgrawn ar-lein Llais y Sir - i gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio, cofrestrwch ar ein gwefan.
  • Posteri mewn lleoliadau cymunedol allweddol (Canolfan Ymwelwyr, Loggerheads a’r Cwt Bugail, Moel Famau) i hyrwyddo ymgynghoriad lleol gan ein bod yn cydnabod nad yw pawb ar-lein.
  • Hyrwyddo drwy rwydweithiau cyfathrebu lleol ein partneriaid.
  • Cyfarfodydd a newyddlenni Cynghorau Cymuned.

Pa bryd fydd y gwaith gwella’n dod i ben yn Loggerheads?

Cwblhawyd gwaith i liniaru ar lifogydd yn y parc gwledig yn hydref 2024 a disgwylir i waith gwella adeiladau ddechrau erbyn mis Ebrill 2026.

A oes cynlluniau i wneud y safle’n fwy cynaliadwy ac ynni effeithlon?

Fel rhan o’r gwelliannau, rydym yn cydweithio â Thîm Ynni Sir Ddinbych er mwyn gwella cynaliadwyedd ac ynni effeithlonrwydd y safle. Mae paneli solar wedi’u gosod ar do y caffi fel rhan o’r gwaith. Yn ogystal â hynny, mae’r prosiect yn anelu at ddiogelu’r safle rhag llifogydd a gwella gwytnwch adeiladau i’r newid yn yr hinsawdd.

Sut fydd y gwelliannau yn Loggerheads yn cael effaith ar yr amgylchedd?

Fel rhan o’r cynllun, cynhaliwyd arolwg coed a gwerthusiad ecolegol rhagarweiniol ar safle Loggerheads. Bydd pob gweithgarwch yn blaenoriaethu ystyriaethau amgylcheddol ac yn anelu at sicrhau cyn lleied â phosibl o amhariad amgylcheddol, gan weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr. Fel rhan o’r gwaith llifogydd, mae’n bosibl y bydd angen gwaredu rhai coed er mwyn gwella’r arglawdd.

Manylion Cyswllt

Manylion Cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, sylwadau neu bryderon, cysylltwch â’r tîm AHNE ym Mharc Gwledig Loggerheads:


Cysylltu â ni

Defnyddiwch ein ffurflen ymholiadau cyffredinol a dewiswch ‘Ariannu Ffyniant Bro’ fel y gwasanaeth perthnasol. Yn eich ymholiad, dywedwch wrthym pa brosiect y mae gennych ddiddordeb penodol ynddo a byddwn yn anfon y neges at y rheolwr prosiect perthnasol.