Cronfa Ffyniant Bro: Moel Famau

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Cefndir y prosiect

Cefndir y prosiect

Mae'r prosiect hwn yn ceisio gwella Moel Famau, un o’r safleoedd prysuraf yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, trwy ddatblygu canolfan ymwelwyr steil 'Nordig', a fydd yn cynnwys cyfleusterau lluniaeth cyfleus a thoiledau, yn ardal maes parcio uchaf Bwlch Pen Barras, ynghyd â gwelliannau i lwybrau beicio yn yr ardal.

Prif nod y gwelliannau hyn fydd sefydlu presenoldeb staff mwy parhaol ar y safle, a fydd yn helpu i reoli'r pwysau sy'n gysylltiedig â chynnydd yn nifer yr ymwelwyr. Bydd yr adeilad yn darparu gwybodaeth a chyngor i ymwelwyr, ynghyd â chyfleusterau lluniaeth cyfleus a thoiledau.

Pwyntiau allweddol

Pwyntiau allweddol

  • Mae hwn yn brosiect newydd i gyflwyno gwelliannau i leoliad twristiaid poblogaidd.
  • Mae’r prosiect yn cyd-fynd â’r gwelliannau a drefnwyd hefyd ar gyfer Loggerheads.
  • Mae’r contract dylunio wedi’i ddyfarnu i ymgynghorwyr TACP, sydd yn lleol ir ardal
  • Disgwylir i’r contract adeiladu gael ei dendro’n fuan.
  • Disgwylir i’r gwaith ddechrau yn Ionawr 2025.
  • Disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau erbyn mis Medi 2025.
Y Sefyllfa Bresennol

Y Sefyllfa Bresennol

Mae cynlluniau drafft wedi'u datblygu ac mae ymarfer ymgysylltu â'r cyhoedd bellach ar y gweill.

Oriel

Oriel

Moel Famau


Moel Famau


Moel Famau


Moel Famau

Ymgynghori

Ymgynghori

Bydd ymgysylltu â’r cyhoedd yn digwydd drwy gydol Ebrill-Mai 2024.

Gellir gweld manylion pellach y prosiect a lluniadau ar-lein, yng Nghwt y Bugail Bwlch Penbarras ac yng Nghanolfan Ymwelwyr Loggerheads.

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Sut caiff yr adeilad ymwelwyr newydd ei ariannu?

Ariannwyd y gwelliannau ar gyfer prosiect Loggerheads drwy gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.

Mae’r cyllid Ffyniant Bro a ddyrannwyd i Sir Ddinbych yn gyfwerth â £10.95 miliwn a bydd Rhuthun a’r cymunedau gwledig, gan gynnwys Loggerheads a Moel Famau, yn elwa o’r cyllid hwn.

Mae Moel Famau wedi derbyn £1.3 miliwn o’r gronfa hon.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Ffyniant Bro yn Sir Ddinbych ar wefan y Cyngor.

Pam eich bod yn gwneud y gwelliannau hyn?

Prif nod y gwelliannau ym Moel Famau yw mynd i’r afael â’r heriau sydd ynghlwm â nifer cynyddol o ymwelwyr (dros 300,000 bob blwyddyn bellach) a bodloni disgwyliadau cynyddol ymwelwyr.

Ar y dyddiau lle mae’r Cwt Bugail yn bresennol, mae cyfle i rannu gwybodaeth gydag ymwelwyr, sy’n arwain at ostyngiad amlwg mewn achosion megis ymosodiadau ar ddefaid a thaflu sbwriel. Credwn y byddai presenoldeb parhaol yn cael dylanwad cadarnhaol ar yr ardal. Bydd yr adeilad yn gweithredu fel canolfan ar gyfer Ceidwaid a Cheidwaid Gwirfoddol sy’n rheoli’r ardal.

Pam nad yw’r arian yn cael ei wario ar bethau eraill?

Dyrannir y cyllid gan Lywodraeth y DU yn benodol ar gyfer gwella isadeiledd a chyfleusterau ym Mharc Gwledig Moel Famau.

A yw’r cynlluniau’n gysylltiedig â chyflawni statws Parc Cenedlaethol?

Nid yw’r prosiect ym Moel Famau’n gysylltiedig â’r cynnig i gyflawni statws Parc Cenedlaethol. Mae’r Parc Cenedlaethol yn fenter arbennig a arweinir gan Lywodraeth Cymru ac nid oes penderfyniad wedi cael ei wneud mewn perthynas â hyn eto.

Ai’r opsiwn a gynigir yw’r lleoliad orau ar gyfer adeilad - pa opsiynau eraill a ystyriwyd?

Gwerthuswyd tri safle posibl ym Mwlch Penbarras ar gyfer lleoliad y ganolfan ymwelwyr. Yn ystod y broses ddethol, ystyriwyd effeithiau gweledol ac amgylcheddol, yn ogystal â hygyrchedd. Mae’r safle a ddewiswyd yn agos at leoliad presennol y Cwt Bugail ac yn agos iawn at Lwybr Clawdd Offa.

A fydd adeilad parhaol yn denu rhagor o ymwelwyr i’r ardal?

Mae’r adeilad wedi cael ei gynllunio’n drylwyr i gynnig canolfan i reoli ac arwain pobl sy’n ymweld â’r ardal, yn hytrach na fel atyniad. Bydd yn darparu lluniaeth a bwyd i fynd wedi’u cynhyrchu’n lleol, toiledau, ac yn gweithredu fel canolfan i’r Tîm Ceidwaid i ddarparu cyngor a mynd i’r afael ag unrhyw broblemau sy’n codi.

Pwy sy’n berchen ar y tir lle adeiladir y ganolfan?

Cyngor Sir Ddinbych sy’n berchen ar y tir lle cynigir adeiladu’r ganolfan ac yn ei reoli ar hyn o bryd.

Pwy sy’n berchen ar y tir lle mae’r llwybr beics?

Cyngor Sir Ddinbych sy’n berchen ar y tir ac yn ei reoli.

A fydd yr adeilad yn denu ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Mae cynllun yr adeilad yn anelu at atal ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy gynllunio trylwyr. Yn ogystal â hynny, byddwn yn cydweithio gyda Swyddog ‘Cynllunio i Leihau Trosedd’ Heddlu Gogledd Cymru yn ystod y camau dylunio terfynol.

Bydd caeadau’n cael eu defnyddio ar ffenestri’r adeilad pan na fydd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio fel rhan o’r cynlluniau.

Pa ddeunyddiau fydd yn cael eu defnyddio i adeiladu’r adeilad?

Bydd y deunyddiau a ddewisir ar gyfer yr adeilad yn cael eu hystyried yn ofalus i gyd-fynd â’r amgylchiadau lleol. Ni fydd yr adeilad yn sefyll allan, bydd yn cyd-fynd â’r amgylchiadau islaw’r nenlinell, ac wedi’i adeiladu â cherrig tebyg i’r rhai a welir yn y maes parcio. Bydd pob agwedd o’r cynllun yn anelu at wella’r tirlun ac ategu at y strwythurau presennol.

A fydd yr adeilad yn cael effaith negyddol ar statws awyr dywyll yr ardal?

Bydd goleuadau allanol yn cydymffurfio â’r canllawiau awyr dywyll diweddaraf, a bydd goleuadau’r adeilad yn cael eu diffodd pan fydd yr adeilad ar gau.

A fydd llai o lefydd parcio ar gael?

Mae’n bosibl y bydd rhywfaint o amhariad dros dro yn y maes parcio, ac mae’n bosibl y bydd yn rhaid ail-drefnu rhai o’r mannau parcio presennol. Fel rhan o’r gwelliannau, rydym yn gobeithio ychwanegu raciau beics ac ymchwilio i’r posibilrwydd o osod mannau gwefru cerbydau trydan.

A fydd caffi â seddi yno?

Bwriedir i’r caffi gynnig gwasanaeth ‘bwyd i fynd’ cyfleus i gwsmeriaid, gan werthu diodydd poeth ac oer, cacennau, byrbrydau a hufen iâ o safon uchel wedi’u cynhyrchu’n lleol. Bydd rhywfaint o lefydd i eistedd dan do i ddianc rhag tywydd garw, yn ogystal â seddi awyr agored dan do. Ni fydd bwydlen y caffi’n cynnig prydau llawn i’w bwyta wrth y bwrdd.

Pa welliannau fydd yn cael eu gwneud i’r llwybr beics?

Mae cynlluniau ar waith i wella’r llwybrau beics presennol ar hyd ffin ddeheuol y parc gwledig. Bydd yr uwchraddiadau hyn yn cynnig llwybr beics oddi ar y ffordd ar gyfer seiclwyr mwy profiadol. Bydd y gwelliannau’n canolbwyntio ar wella arwynebau, arwyddion a giatiau mynediad.

A fydd Llwybr Clawdd Offa ar gau?

Ni fydd Llwybr Clawdd Offa’n cau o ganlyniad i’r gwaith adeiladu a gwella.

Sut wnewch chi roi gwybod i bobl beth sy’n digwydd?

Bydd gwybodaeth am ddatblygiadau’r prosiect ar gael ar y tudalennau Cronfa Ffyniant Bro arbennig ar wefan CSDd, yn ogystal â thrwy’r dulliau canlynol:

  • Gwybodaeth yn y wasg leol
  • Bydd sianeli cyfryngau cymdeithasol Sir Ddinbych hefyd yn cael eu diweddaru’n rheolaidd - dilynwch ein tudalennau Facebook (gwefan allanol) a Twitter (gwefan allanol).
  • Erthyglau yn y cylchgrawn ar-lein Llais y Sir - i gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio, cofrestrwch ar ein gwefan.
  • Posteri mewn lleoliadau cymunedol allweddol (Canolfan Ymwelwyr, Loggerheads a’r Cwt Bugail, Moel Famau) i hyrwyddo ymgynghoriad lleol gan ein bod yn cydnabod nad yw pawb ar-lein.
  • Hyrwyddo drwy rwydweithiau cyfathrebu lleol ein partneriaid.
  • Cyfarfodydd a newyddlenni Cynghorau Cymuned

Gan fod Cyngor Sir Ddinbych yn anelu at fod yn Ddi-garbon erbyn 2030, mae’n rhaid i ni ystyried sut yr ydym yn ymgysylltu â phawb er mwyn osgoi argraffu gormod o ddogfennau.

Pryd fydd y gwaith adeiladu’n dechrau ym Moel Famau?

Disgwylir i’r gwaith ar y llwybr beics yn y parc gwledig ddechrau yn yr haf 2024, a disgwylir i waith adeiladu ddechrau yn y gaeaf 2024/2025.

Manylion Cyswllt

Manylion Cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, sylwadau neu bryderon, cysylltwch â’r tîm AHNE ym Mharc Gwledig Loggerheads:


Cysylltu â ni

Cysylltwch â ffyniantbro@sirddinbych.gov.uk gan nodi pa brosiect y mae gennych ddiddordeb penodol ynddo a byddwn yn anfon y neges at y rheolwr prosiect perthnasol.

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro