Cronfa Ffyniant Bro: Nantclwyd y Dre

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Cefndir y prosiect

Cefndir y prosiect

Mae Nantclwyd Y Dre yn dŷ tref canoloesol rhestredig Gradd 1 o bwysigrwydd cenedlaethol ac yn un o’r tai tref â ffrâm bren hynaf yng Nghymru. Cynhaliwyd prosiect cyfalaf i adfer y safle yn 2006, gan alluogi agor y prif dŷ a’r gerddi i’r cyhoedd. Ond, gadawyd Adain Orllewinol y tŷ mewn cyflwr diogel ond adfeiliedig tra’n aros am gyllid pellach.

Yn 2022, bu i grŵp o wirfoddolwyr, Cyfeillion Nantclwyd Y Dre, dderbyn cyllid grant o £10,000 gan raglen Trawsnewid Treftadaeth y Gronfa Dreftadaeth Bensaernïol. Defnyddiwyd y grant i ariannu cost yr arolygon cychwynnol, astudiaeth ddichonoldeb, a darluniau pensaernïol a oedd yn ffurfio sylfaen y cais am grant i’r Gronfa Adfywio Leol.

Defnyddir y grant o’r Gronfa Adfywio Leol i ddechrau defnyddio’r mannau olaf nad ydynt wedi’u datblygu ar y safle – yr adain orllewinol a strwythur deulawr bach yn yr ardd o’r ddeunawfed ganrif, sef y tŷ haf.

Yn dilyn ymgynghoriad gyda’r budd-ddeiliaid allweddol, penderfynwyd mai’r ymagwedd fwyaf cynaliadwy o ddatblygu’r Adain Orllewinol fyddai creu llety gwyliau ar y llawr uchaf a gwella cyfleusterau arlwyo a gwirfoddoli yn y gofodau ar y llawr gwaelod. Yn ogystal, bydd llawr uchaf y tŷ haf yn cael ei adfer a'i agor i'r cyhoedd, gan alluogi ymwelwyr i fwynhau golygfeydd o'r gerddi a'r dref.

Bydd y datblygiadau hyn yn cynhyrchu incwm a chynorthwyo i gynnal y safle a Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych. Bydd y gofod arlwyo ar y llawr gwaelod hefyd yn helpu i gynnal priodasau a digwyddiadau mwy, tra bydd cyfleusterau gwirfoddoli gwell yn cefnogi carfan gwirfoddolwyr gwerthfawr Nantclwyd.

Pwyntiau Allweddol

Pwyntiau Allweddol

  • Gwneir y gwaith gyda rhan o’r cyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar gyfer hybu Treftadaeth Unigryw a Lles Rhuthun.
  • Bydd y prosiect hwn yn darparu gwelliannau i Nantclwyd y Dre.
  • Mae'r contract dylunio wedi'i ddyfarnu i’r ymgynghorwyr lleol, TACP Architects.
  • Mae'r contract adeiladu wedi'i ddyfarnu i adeiladwyr lleol B&W Builders and Decorators.
  • Disgwylir i'r prosiect gael ei gwblhau erbyn mis Mai 2026.
Y Sefyllfa Bresennol

Y Sefyllfa Bresennol

Mae’r gwaith adeiladu bellach ar waith ar y safle.

Oriel

Oriel

Adain Orllewinol Nantclwyd y Dre

Adain Orllewinol Nantclwyd y Dre

Tŷ Haf Nantclwyd y Dre

Tŷ Haf Nantclwyd y Dre

Nantclwyd y Dre: Cynlluniau llawr arfaethedig (TACP Architects)

Nantclwyd y Dre: Cynlluniau llawr arfaethedig 1 (TACP Architects)

Nantclwyd y Dre: Cynlluniau llawr arfaethedig 2 (TACP Architects)

Lluniau adeiladu

Llun adeiladu 1

Llun adeiladu 2

Llun adeiladu 3

Llun adeiladu 4

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Beth fydd yn cael ei gyflawni?

Yr hyn y disgwylir ei gyflawni yw:

  • Llety gwyliau bach o ansawdd uchel ar lawr cyntaf adain orllewinol Nantclwyd y Dre, sy’n adfeiliedig ar hyn o bryd.
  • Gwell cegin arlwyo / i staff ar y llawr gwaelod, sy'n addas ar gyfer cynnal digwyddiadau.
  • Gwell gofod gwirfoddoli ar y llawr gwaelod.
  • Gofod swyddfa gwell ar y llawr cyntaf i staff.
  • Bragdy hanesyddol newydd ar agor i'r cyhoedd.
  • Adfer y tŷ haf rhestredig gradd 2 allanol a'i wneud yn ddiogel i ymwelwyr.

Beth yw'r buddion disgwyliedig?

Mae'r buddion sylfaenol yn cynnwys:

  • Gwella ased treftadaeth.
  • Diogelu ased treftadaeth.
  • Cynhyrchu mwy o incwm.
  • Ehangu'r cynnig - gwasanaethau a phrofiadau ychwanegol ar gyfer ymwelwyr a thrigolion.
  • Mwy o ymwelwyr (i’r safle a’r dref) oherwydd bod mwy i’w gynnig iddynt.
  • Gwell cynaliadwyedd hir dymor / llai o gost o ran y cyfleuster i Cyngor Sir Ddinbych.
  • Gwell cyfleusterau i wirfoddolwyr.
  • Llety gwyliau’n cynyddu nifer yr ymwelwyr hirdymor i'r dref, gan ddarparu buddion ar gyfer busnesau lleol a gwasanaethau.

A fydd mesurau lliniaru yn cael eu gwneud i gynnwys poblogaeth ystlumod Nantclwyd y Dre?

Bydd, mae ymgynghoriadau ecolegol helaeth wedi eu cynnal i sicrhau nad amharir ar boblogaeth ystlumod Nantclwyd y Dre. Bydd ffactorau fel goleuadau a llwybrau hedfan yn cael eu hystyried drwy gydol y cyfnod dylunio ac adeiladu. Gan y bydd mwy o ymwelwyr yn dod i’r adain orllewinol, ychwanegwyd tŷ ystlumod at yr ardd i greu man angenrheidiol iddynt orffwys a llochesu wrth iddynt hedfan o’u clwydfannau. Mae pob gweithiwr ar y safle hefyd wedi cael hyfforddiant priodol gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Lloches ystlumod newydd

New bat shelter

Sut mae'r cynlluniau dylunio wedi newid dros gyfnod y prosiect?

Oherwydd oedran ac arwyddocâd hanesyddol Nantclwyd y Dre, gwnaed newidiadau i'r dyluniadau gwreiddiol a gynigiwyd wrth wneud darganfyddiadau newydd yn ystod y cam adeiladu. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Bragdy o'r ail ganrif ar bymtheg ar y llawr gwaelod na ŵyr neb amdano o’r blaen. Bydd yr ystafell hon bellach ar agor i'r cyhoedd wedi’i dehongli o’r newydd.

Bragdy

Brewhouse

  • Nifer fawr o farciau apotropäig ar y llawr cyntaf. Bydd y marciau defodol unigryw hyn, gan gynnwys patrymau tebyg i flodau a marciau cyfrif, yn cael eu cadw o dan banel tryloyw ac yn parhau i fod yn weladwy i ymwelwyr yn y llety gwyliau.

Marciau apotropäig

Marciau apotropäig

A fydd modd cael mynediad i adain ddwyreiniol (prif dŷ / amgueddfa) Nantclwyd y Dre ar gael yn ystod y gwaith ar yr adain orllewinol?

Nid ydym yn rhagweld unrhyw amhariad ar fynediad ymwelwyr i brif adeilad Nantclwyd y Dre ar hyn o bryd. Yn ystod y cyfnod adeiladu, dylai gwaith adfer gael ei gynnwys yn bennaf yn yr adain orllewinol, er mae’n bosib y bydd rhywfaint o aflonyddwch neu fynediad cyfyngedig i'r gerddi.

Beth yw’r camau nesaf?

Unwaith y bydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau, bydd y ffocws ar:

  • Osod ffitiadau a dodrefnu'r llety gwyliau. Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud mewn ymgynghoriad â TACP Architects.

Bwrdd hwyliau enghreifftiol

Bwrdd hwyliau enghreifftiol

  • Gosod cyfarpar yn y gegin arlwyo newydd a'r ardal wirfoddoli.
  • Ychwanegu deunydd dehongli newydd at y tŷ haf a'r bragdy.

Cysylltu â ni

Anfonwch e-bost i ni yn amlygu prosiect o ddiddordeb penodol, a byddwn yn anfon hyn ymlaen at y rheolwr prosiect perthnasol.