Cefndir y prosiect
Mae Carchar Rhuthun yn garchar o arddull Pentonville ac yn adeilad rhestredig Gradd 2*, un o’r ychydig rai sydd dal ar agor i ymwelwyr yn y DU a’r unig un sydd ar agor yng Nghymru. Mae’n sbardun gwerthfawr i nifer yr ymwelwyr a gwariant i mewn i’r ardal. Mae prif adeilad Carchar Rhuthun yn cael ei rannu gydag Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, felly mae’r gofod ar gyfer yr amgueddfa/ atyniad i ymwelwyr yn gyfyngedig ac nid oes cyfleusterau penodol y byddai ymwelwyr yn eu disgwyl fel arfer (h.y caffi, gofod addysg, orielau arddangos lleol ayyb).
Er nad yw 46 Stryd Clwyd, sydd yn adeilad ar wahân, a’r unig un sydd yn wynebu’r ffordd ac yn weladwy i gwsmeriaid sydd yn mynd heibio yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd - mae’n rhan allweddol o safle’r Carchar. Dyma lle’r oedd y carchar hynaf yn Rhuthun yn arfer bod. Cafodd yr adeilad newydd ei adeiladu yn ei le yn ddiweddarach, ac adeiladwyd hwn fel cartref a swyddfeydd i Lywodraethwr y Carchar. Hyd at heddiw, mae 46 Stryd Clwyd wedi bod yn wag ers bron i 10 mlynedd.
Bydd y prosiect, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Bro, yn dod â llawr gwaelod 46 Stryd Clwyd yn ôl i ddefnydd drwy ddatblygu mynediad newydd a mwy amlwg i’r Carchar, swyddfa docynnau a derbynfa, caffi, gofodau arddangos a dehongli, ac ystafell addysg a gofodau ymchwil archifol.