Y Gronfa Ffyniant Bro: Sgwâr Sant Pedr 

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Cefndir y Prosiect

Cefndir y Prosiect

Mae’r prosiect hwn yn rhan o’r cyllid Ffyniant Bro i ddarparu prosiectau a fydd yn diogelu lles, cymunedau gwledig a threftadaeth unigryw Rhuthun. Y nod yw gwella cysylltedd cerdded a beicio yn Rhuthun a’r cyffiniau ac ategu buddsoddiad mewn gweithgareddau i roi hwb i’r dreftadaeth a gwerth diwylliannol. Mae’r ymyriadau arfaethedig yn canolbwyntio ar wneud gwelliannau i’r parth cyhoeddus, ehangu’r posibiliadau ar gyfer cynnal digwyddiadau ac adfywio adeiladau a thirnodau hanesyddol i gefnogi hunaniaeth leol, hyrwyddo balchder mewn lle a rhoi hwb i ddelwedd y dref.

Mae’r cynigion ar gyfer Sgwâr Sant Pedr yn cynnwys:

  • Cael gwared â’r gylchfan er mwyn galluogi’r gwaith o ymestyn yr ardal ganolog i greu ardal hyblyg i gerddwyr y gellir ei defnyddio ar gyfer digwyddiadau a/neu ar gyfer seddau caffi ac ati.
  • Gwella’r cynnig teithio llesol rhwng ffordd gyswllt Rhuthun a chanol y dref drwy wneud Stryt y Farchnad yn unffordd i gerbydau, gan gadw llwybrau teithio llesol dwy ffordd.
Pwyntiau Allweddol

Pwyntiau Allweddol

Mae hwn yn brosiect newydd i ddarparu gwelliannau i Sgwâr Sant Pedr

Mae’r prosiect yn ategu adferiad tŵr y cloc yn Rhuthun a’r gwelliannau a fwriedir ar gyfer Parc Cae Ddôl

Mae’r contract adeiladu wedi cael ei ddyfarnu i OBR Construction

Fe fydd gwaith yn dechrau tuag at ddiwedd mis Mawrth 2026

Disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2026.

Y Sefyllfa Bresennol

Y Sefyllfa Bresennol

Yn dilyn tendr llwyddiannus, mae’r contract adeiladu wedi cael ei ddyfarnu i OBR Construction.

Oriel

Oriel

Sgwâr Sant Pedr: Gogledd Dwyrain

Sgwâr Sant Pedr: Gogledd Dwyrain - opsiwn 2

Stryd y Farchnad

Stryd y Farchnad - opsiwn 2

Stryd y Ffynnon

Stryd y Ffynnon - opsiwn 2

Stryd y Ffynnon: y tu ôl i’r Hen Lys

Stryd y Ffynnon: y tu ôl i’r Hen Lys - opsiwn 2

Sgwâr Sant Pedr: Golygfa o’r Stryd y Castell

Sgwâr Sant Pedr: Golygfa o’r Stryd y Castell - opsiwn 2

Ymgynghori

Ymgynghori

Wrth i ni baratoi ar gyfer y gwaith yn yr ardal, rydym yn gofyn i bob busnes a phreswylydd nad ydynt wedi llenwi Arolwg Anghenion Mynediad i wneud hynny. Mae ymatebion yn hanfodol i’n helpu i ddeall pa fynediad fydd ei angen ar fusnesau a phreswylwyr pan fydd y gwaith yn dechrau.

Trwy lenwi’r arolwg, byddwch yn ein helpu i sicrhau bod mynediad yn cael ei gynnal i eiddo a thir, gan ganiatáu i ni gynllunio a chefnogi llwybrau priodol a lleihau amhariad yn ystod y gwaith adeiladu.

Os nad ydych chi wedi llenwi’r arolwg eto neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y cynlluniau cysylltwch â Thîm y Prosiect dros e-bost.

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Pam y cynigir gwneud newidiadau i Sgwâr Sant Pedr a rhai o’r ffyrdd tuag ato?

Mae ‘Gweithgor Dyfodol Rhuthun’ Cyngor Tref Rhuthun wedi datblygu ac ymgynghori ar weledigaeth hirdymor ar gyfer Rhuthun, a defnyddiwyd hyn i ategu’r cais am gyllid o’r Gronfa Ffyniant Bro mewn perthynas â Sgwâr Sant Pedr.

Nodwyd yr amcanion canlynol yn rhan o’r weledigaeth ar gyfer canol y dref:

  • Annog gyrwyr i beidio â defnyddio’r dref fel llwybr trwodd, ac arafu cyflymder y traffig yng nghanol y dref
  • Cynnal mynediad i gerbydau a darpariaeth ar gyfer parcio yng nghanol y dref
  • Gwella mannau llwytho / gollwng / parcio i bobl anabl
  • Darparu mynediad lletach, mwy diogel, ar gyfer cerddwyr a defnyddwyr ar olwynion
  • Creu lle digon mawr i allu cynnal digwyddiadau cymunedol heb orfod cau unrhyw ffyrdd.

Pam ydych wedi cael gwared â’r gylchfan ac addasu cynllun y ffyrdd?

Yr ydym wedi cael gwared â’r gylchfan i wneud lle i gynnal digwyddiadau yng nghanol y dref, ac roedd gofyn ailddylunio llwybr y briffordd drwy ganol y dref i wneud hyn.

Nod cynllun newydd y ffyrdd yw bod o gymorth i’r rheiny sy’n defnyddio’r dref, a cheisio lleihau traffig trwodd.

Mae llwybr teithio llesol wedi ei gynnwys ar ran mwyaf serth Stryt y Farchnad, fel nad yw beicwyr yn teimlo dan bwysau gan gerbydau wrth deithio i fyny’r allt.

Mae Stryd y Ffynnon yn rhy gul ar gyfer traffig dwy ffordd a cherddwyr. Bydd ei gwneud yn stryd unffordd i draffig yn ei gwneud yn fwy diogel ar gyfer cerddwyr a cherbydau, a byddai cerbydau’n gallu parcio arni.

Byddai newidiadau i’r gyffordd ar Stryd Clwyd yn darparu mwy o le i gerbydau danfon nwyddau droi, ac yn darparu palmentydd lletach ar gyfer cerddwyr, a man croesi.

A ellid ystyried strydoedd eraill yn lle’r rheiny a gynigir, neu’n ogystal â hwy?

Mae gan Gyngor Sir Ddinbych swm penodol o gyllid ar gyfer y prosiect ac mae wedi ei gontractio i Lywodraeth y DU i gyflawni allbynnau’r cyllid.

Mae’r cynllun a gynigir wedi ystyried y weledigaeth ar gyfer canol y dref a bydd yn cyflawni allbynnau gofynnol y cyllid, sy’n cynnwys gwell ffyrdd ar gyfer beicio, gwell llwybrau ar gyfer cerddwyr, a bydd y man digwyddiadau’n creu ardal newydd o barth cyhoeddus.

Pam ydych wedi cyflwyno llwybr teithio llesol i Stryt y Farchnad, a pham y mae ar y rhan uchaf yn unig?

Yr uchelgais yn yr hirdymor yw darparu llwybr teithio llesol yr holl ffordd i fyny Stryt y Farchnad – o gylchfan Brieg i sgwâr y dref.

Yr ydym wedi defnyddio Cyllid Ffyniant Bro i gefnogi cynnwys rhan uchaf y llwybr i alluogi gwneud y cysylltiad i’r gwaith a gynigir ar gyfer y sgwâr, er mwyn osgoi tarfu yn y dyfodol.

Bydd y dull dylunio a’r defnydd cyson o ddeunyddiau yn rhan uchaf Stryt y Farchnad o gymorth i ddiffinio’r llwybr i gerddwyr i ganol y dref.

Cynhwysir rhan isaf y llwybr teithio llesol mewn cais yn y dyfodol am arian gan gynllun cyllid grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru maes o law.

Beth yw pwrpas y bwrdd arafu yn y ffordd?

Mae byrddau arafu yn cynorthwyo gyrwyr i wybod eu bod mewn ardal i gerddwyr ac yn eu hannog i arafu a bod yn fwy ymwybodol.

Gyda’r palmant is a ddangosir, mae’n darparu mynediad rhwydd i gerddwyr rhwng y man digwyddiadau ac ardal yr Hen Lys / Stryd y Ffynnon a Stryd y Castell.

A ydych yn cadw’r nifer presennol o ofodau parcio ceir yng nghanol y dref?

Ein bwriad yw cadw cynifer ag sy’n bosibl o’r lleoedd parcio presennol.

Credir bod olion canoloesol yn y dref. Sut fyddwch yn atal unrhyw amhariad neu ddifrod i arteffactau?

Mae Swyddog Cadwraeth Cyngor Sir Ddinbych a hanesydd lleol wedi rhoi gwybod i ni am bresenoldeb olion canoloesol. Adolygir y cynllun arfaethedig mewn perthynas â safleoedd tebygol o ddiddordeb hanesyddol, a chynhelir briff gwylio archaeolegol pan fydd gwaith cloddio’n digwydd yn yr ardaloedd hyn.

A fydd mynediad i ganol y dref yn cael ei gynnal ar gyfer busnesau yn ystod y gwaith?

Mae’n anochel y bydd rhywfaint o darfu yn ystod y cyfnod adeiladu. Yr ydym yn annog pob busnes i rannu eu safbwyntiau ar y cam cynnar hwn, fel bod modd i ni ystyried eu pryderon pan fyddwn yn adolygu’r broses o gyflwyno’r gwaith adeiladu fesul cam. Bydd hyn o gymorth i lywio’r ffordd y dylem gwblhau’r gwaith a’r cyfnodau rhybudd a’r cyfathrebu y mae angen i ni ei wneud â busnesau.

Sut fyddwch yn osgoi colli masnach? Efallai y bydd pobl yn dewis siopa yn rhywle arall os yw’n anodd cael mynediad i’r dref.

Dylunnir y gwaith adeiladu i sicrhau bod rhywfaint o fynediad i ganol y dref bob amser. Mae’n bosibl y bydd oedi o ganlyniad i’r rheolyddion angenrheidiol ar gyfer rheoli traffig, a chydnabyddir y gall hyn atal rhai pobl rhag defnyddio’r dref mor aml.

A fydd y prosiect yn digolledu busnesau am golli enillion?

Na, mae’r cyllid wedi ei sicrhau ar gyfer cyflawni’r prosiect a gynigir, ac nid oes digon o arian i ystyried na gweinyddu unrhyw gynllun digolledu.

Pryd fydd y gwaith yn dechrau ar y prosiect hwn?

Disgwylir y bydd y gwaith yn dechrau ar y safle ym mis Ebrill 2026. I sicrhau y gall pethau ddigwydd yn esmwyth a heb rwystr, mae’r Cyngor yn cynnig bod gwaith ar y ffyrdd ochr o amgylch y Sgwâr yn cael eu cwblhau gyntaf, a threfnwyd i’r prif waith gwella i Sgwâr Sant Pedr ei hun ddechrau ar ôl Gwŷl Rhuthun o Orffennaf 2026 ymlaen.


Cysylltu â ni

Defnyddiwch ein ffurflen ymholiadau cyffredinol a dewiswch ‘Ariannu Ffyniant Bro’ fel y gwasanaeth perthnasol. Yn eich ymholiad, dywedwch wrthym pa brosiect y mae gennych ddiddordeb penodol ynddo a byddwn yn anfon y neges at y rheolwr prosiect perthnasol.