Cwestiynau cyffredin
Faint o arian mae’r Rhyl wedi ei dderbyn gan Lywodraeth y DU ar gyfer y prosiect hwn?
Dyfarnwyd ychydig dros £5.6 miliwn i’r prosiect hwn i wella Canol Tref y Rhyl. Fodd bynnag, mae’n rhaid i holl gostau’r prosiect gael eu talu o’r swm hwn, ac nid y gwaith adeiladu’n unig.
A ellir defnyddio’r arian hwn ar gyfer rhywbeth arall?
Pennodd Llywodraeth y DU feini prawf penodol ar gyfer y mathau o brosiectau y byddai’n eu hariannu drwy’r Gronfa Ffyniant Bro.
Dim ond ar brosiectau a gymeradwywyd y gellir gwario’r arian.
Gellir gweld rhagor o fanylion ar wefan GOV.UK (gwefan allanol)..
Ar gyfer beth y dyfarnwyd y cyllid?
I wneud gwelliannau i 750m² o’r parth cyhoeddus yng Nghanol Tref y Rhyl (targed ar y cyd â phrosiectau parth cyhoeddus Marchnad y Frenhines a Pharc Poced Parth y Rhyl). Cynyddu nifer yr ymwelwyr ar droed yng nghanol y dref.
A oes unrhyw ddyluniadau eto?
Nac oes, ddim eto. Rhennir dyluniadau arfaethedig drwy ymgynghoriad cyhoeddus yn hydref 2025.
Sut fyddwch yn rhoi gwybodaeth i bobl?
Bydd gwybodaeth am y prosiect wrth iddo esblygu ar gael ar wefan y Cyngor yn ogystal â thrwy’r dulliau canlynol:
- Gwybodaeth yn y wasg leol.
- Bydd sianeli cyfryngau cymdeithasol Sir Ddinbych eu diweddaru’n rheolaidd - dilynwch ein tudalennau Facebook (gwefan allanol) a X (Twitter gynt) (gwefan allanol).
- Drwy ein rhestr bostio Balchder a'r Amgylchedd Naturiol: Y Rhyl, Prestatyn a Dinbych - i'w hychwanegu at y rhestr bostio os gwelwch yn dda, cofrestrwch ar ein gwefan.
- Posteri mewn lleoliadau cymunedol allweddol i hyrwyddo ymgynghori lleol gan ein bod yn cydnabod nad yw pawb ar-lein.
- Hyrwyddo drwy rwydweithiau cyfathrebu lleol ein partneriaid.
A fydd y gwaith a gynlluniwyd yn garbon niwtral neu hyd yn oed yn garbon bositif?
Gan nad ydym wedi dylunio’r prosiect eto, nid ydym yn gwybod beth fydd yr effaith carbon. Fodd bynnag, yn 2019, bu i’r Cyngor ddatgan Argyfwng Hinsawdd ac mae wedi gosod targedau uchelgeisiol i fod yn Ddi-Garbon erbyn 2030, mae mwy o wybodaeth ar ein gwefan. Felly bydd yr effaith carbon yn ystyriaeth allweddol wrth ddylunio a chyflawni’r prosiect.