Cronfa Ffyniant Bro: Promenâd Canolog y Rhyl

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Cefndir y prosiect

Cefndir y prosiect

Prosiect i wella mynediad a chryfhau’r cysylltiad rhwng y promenâd a chanol y dref, i’w gwneud yn haws ac yn fwy dymunol i bawb fynd o un lle i’r llall.

Pwyntiau allweddol

Pwyntiau allweddol

Gobeithiwn y bydd y prosiect yn:

  1. Hybu cysylltiadau gwell rhwng canol y dref a’r traeth
  2. Darparu llwybr clir, diogel, i’r traeth a’r llwybr beicio arfordirol cenedlaethol
Y sefyllfa bresennol

Y sefyllfa bresennol

  • Mae tîm prosiect bellach wedi ei sefydlu
  • Mae cyllid y prosiect yn ei le i wella’r cysylltiad rhwng y traeth a chanol y dref
  • Yr amserlen amcangyfrifedig ar gyfer cwblhau’r prosiect yw Mawrth 2028
  • Mae’r dyluniadau arfaethedig yn cael eu datblygu a byddant ar gael i’w gweld, drwy ymgynghoriad cyhoeddus, yn hydref 2025
Oriel

Oriel

Bydd y wybodaeth hon ar gael cyn hir..

Ymgynghoriad

Ymgynghoriad

Bydd y wybodaeth hon ar gael cyn hir.

Cwestiynau cyffredin

Cwestiynau cyffredin

Faint o arian mae’r Rhyl wedi ei dderbyn gan Lywodraeth y DU ar gyfer y prosiect hwn?

Dyfarnwyd ychydig dros £5.6 miliwn i’r prosiect hwn i wella’r cysylltiad rhwng y traeth a chanol y dref. Fodd bynnag, mae’n rhaid i holl gostau’r prosiect gael eu talu o’r swm hwn, ac nid y gwaith adeiladu’n unig.

A ellir defnyddio’r arian hwn ar gyfer rhywbeth arall?

Pennodd Llywodraeth y DU feini prawf penodol ar gyfer y mathau o brosiectau y byddai’n eu hariannu drwy’r Gronfa Ffyniant Bro.

Dim ond ar brosiectau a gymeradwywyd y gellir gwario’r arian.

Gellir gweld rhagor o fanylion ar wefan GOV.UK (gwefan allanol)..

Ar gyfer beth y dyfarnwyd y cyllid?

I ddarparu 0.4km o ffordd feicio well a gwella 0.4km o lwybrau i gerddwyr, a chynyddu nifer yr ymwelwyr ar droed yng nghanol y dref ac ar y promenâd.

A oes unrhyw ddyluniadau eto?

Nac oes, ddim eto. Rhennir dyluniadau arfaethedig drwy ymgynghoriad cyhoeddus yn hydref 2025.

Sut fyddwch yn rhoi gwybodaeth i bobl?

Bydd gwybodaeth am y prosiect wrth iddo esblygu ar gael ar wefan y Cyngor yn ogystal â thrwy’r dulliau canlynol:

  • Gwybodaeth yn y wasg leol.
  • Bydd sianeli cyfryngau cymdeithasol Sir Ddinbych eu diweddaru’n rheolaidd - dilynwch ein tudalennau Facebook (gwefan allanol) a X (Twitter gynt) (gwefan allanol).
  • Drwy ein rhestr bostio Balchder a'r Amgylchedd Naturiol: Y Rhyl, Prestatyn a Dinbych - i'w hychwanegu at y rhestr bostio os gwelwch yn dda, cofrestrwch ar ein gwefan.
  • Posteri mewn lleoliadau cymunedol allweddol i hyrwyddo ymgynghori lleol gan ein bod yn cydnabod nad yw pawb ar-lein.
  • Hyrwyddo drwy rwydweithiau cyfathrebu lleol ein partneriaid.

A fydd y gwaith a gynlluniwyd yn garbon niwtral neu hyd yn oed yn garbon bositif?

Gan nad ydym wedi dylunio’r prosiect eto, nid ydym yn gwybod beth fydd yr effaith carbon. Fodd bynnag, yn 2019, bu i’r Cyngor ddatgan Argyfwng Hinsawdd ac mae wedi gosod targedau uchelgeisiol i fod yn Ddi-Garbon erbyn 2030, mae mwy o wybodaeth ar ein gwefan. Felly bydd yr effaith carbon yn ystyriaeth allweddol wrth ddylunio a chyflawni’r prosiect.

Cysylltu â ni

Defnyddiwch ein ffurflen ymholiadau cyffredinol a dewiswch ‘Ariannu Ffyniant Bro’ fel y gwasanaeth perthnasol. Yn eich ymholiad, dywedwch wrthym pa brosiect y mae gennych ddiddordeb penodol ynddo a byddwn yn anfon y neges at y rheolwr prosiect perthnasol.