Cwestiynau cyffredin
Faint o arian mae Prestatyn wedi ei gael gan Lywodraeth y DU ar gyfer y prosiect hwn?
Mae ychydig dros £3 miliwn wedi ei roi i'r prosiect hwn i wella Stryd Fawr Prestatyn. Fodd bynnag, rhaid i'r swm hwn dalu holl gostau'r prosiect ac nid adeiladu yn unig.
Ar gyfer beth y rhoddwyd yr arian?
Ar gyfer gwelliannau parth cyhoeddus 960 metr Sgwâr ar Stryd Fawr Prestatyn.
A oes unrhyw ddyluniadau eto?
Mae'r dyluniad manwl bellach wedi'i rannu ac mae Tîm y Prosiect yn edrych ymlaen at glywed barn pobl. Bydd yr adborth a dderbynnir yn helpu i lywio'r dyluniad terfynol a fydd yn mynd allan i Dendr i'r Contractwr.
Rwyf wedi clywed eich bod ond yn siarad gyda grwpiau bychain o bobl; sut wyf yn ychwanegu fy safbwyntiau?
Cyfeiriwch at yr adran uchod i gael y wybodaeth ddiweddaraf..
Pan fydd dyluniadau yn barod ar gyfer y prosiect newydd hwn, a fydd ymgynghori pellach ar y cynigion?
Bydd ymatebion a dderbynnir i'n harolwg casglu gwybodaeth yn helpu i lywio dyluniadau cychwynnol. Edrychwn ymlaen at glywed safbwyntiau pobl. Mae’n bwysig i ni eich bod yn parhau i gymryd rhan drwy gydol y prosiect, felly byddwn yn gofyn am fwy o adborth ar unrhyw ddyluniadau eraill y byddwn yn eu datblygu.
Sut fyddwch yn rhoi gwybodaeth i bobl?
Bydd gwybodaeth am y prosiect wrth iddo esblygu ar gael ar wefan y Cyngor yn ogystal â thrwy’r dulliau canlynol:
- Gwybodaeth yn y wasg leol.
- Bydd sianeli cyfryngau cymdeithasol Sir Ddinbych eu diweddaru’n rheolaidd - dilynwch ein tudalennau Facebook (gwefan allanol) a X (Twitter gynt) (gwefan allanol).
- Drwy ein rhestr bostio Balchder a'r Amgylchedd Naturiol: Y Rhyl, Prestatyn a Dinbych - i'w hychwanegu at y rhestr bostio os gwelwch yn dda, cofrestrwch ar ein gwefan.
- Posteri mewn lleoliadau cymunedol allweddol i hyrwyddo ymgynghori lleol gan ein bod yn cydnabod nad yw pawb ar-lein.
- Hyrwyddo drwy rwydweithiau cyfathrebu lleol ein partneriaid.
A fyddaf yn cael gweld beth mae pobl wedi ei ddweud?
Nid yw hon yn broses ymgynghori statudol felly nid oes yna ofyniad i’r Cyngor gyhoeddi ymatebion unigol. Fodd bynnag, bydd y Cyngor yn llunio adroddiadau ar ganfyddiadau ein hymgynghoriadau. Bydd y rhain ar gael yn gyhoeddus pan fyddant yn barod.
A fydd y gwaith a gynlluniwyd yn garbon niwtral neu hyd yn oed yn garbon bositif?
Gan nad ydym wedi dylunio’r prosiect eto, nid ydym yn gwybod beth fydd yr effaith carbon. Fodd bynnag, yn 2019, bu i’r Cyngor ddatgan Argyfwng Hinsawdd ac mae wedi gosod targedau uchelgeisiol i fod yn Ddi-Garbon erbyn 2030, mae mwy o wybodaeth ar ein gwefan. Felly bydd yr effaith carbon yn ystyriaeth allweddol wrth ddylunio a chyflawni’r prosiect.
Beth yw amcanion y cynllun?
Mae tri amcan allweddol i'r cynllun, sef; Lle i bobl, Cysylltedd gwell â'i amgylchoedd a Deunyddiau symlach o ansawdd uchel.
Ydych chi'n mynd i bedestreiddio'r Stryd Fawr gyfan neu ran ohoni?
Ar ôl clywed yr adborth o'r ymgynghoriadau a gynhaliwyd hyd yn hyn, gan gynnwys gydag Aelodau Etholedig, nid oes unrhyw gynigion i bedestreiddio'r Stryd Fawr gyfan neu ran ohoni.
A fydd colli parcio ar y stryd ar y Stryd Fawr?
Ar ôl clywed yr adborth o'r ymgynghoriadau a gynhaliwyd hyd yn hyn, gan gynnwys gydag Aelodau Etholedig, nid oes unrhyw gynigion i golli unrhyw barcio ar y stryd ar y Stryd Fawr.
A yw'r dyluniadau wedi'u cwblhau?
Nid yw'r dyluniadau wedi'u cwblhau. Mae'r prosiect yn dal i fod yng nghyfnod cynnar iawn ei ddatblygiad. Y digwyddiad cyhoeddus hwn yw'r cyfle cyntaf i ddangos beth yw'r syniadau cyfredol, gan ganiatáu inni gael barn y cyhoedd. Bydd yr adborth a dderbyniwn yn cael ei adolygu a'i ystyried yng ngham nesaf y dyluniad.
A fydd Ffordd y Bont yn mynd yn ôl i ffordd ddwyffordd ac a fydd y gwaith adeiladu allan yn Tu Mundo / Ffordd Penisadre yn cael ei symud?
Mae Ffordd y Bont yn cael ei threialu ar hyn o bryd fel ffordd ddwyffordd i weld a yw hyn yn helpu gyda'r tagfeydd traffig ar waelod y Stryd Fawr. Bydd y ffordd adeiladu allan yn Tu Mundo / Ffordd Penisardre yn parhau ar ôl i'r cynllun gael ei gwblhau.
A ydy'r llwybr presennol yn cael ei wella?
Ydw. Mae'r cynllun gwella parth cyhoeddus arfaethedig yn cynnwys uwchraddio'r palmant presennol, gan sicrhau mathau a phatrymau palmant cyson ar hyd y Stryd Fawr.
Nid yw'r cynllun traffig presennol yn gweithio ar waelod y Stryd Fawr. A allwch chi wella hyn fel rhan o'r cynllun?
Rydym wedi nodi'r pryderon a godwyd gan y gymuned ynghylch y traffig presennol ar waelod y Stryd Fawr. Rydym yn asesu i weld a allwn leihau'r tagfeydd fel rhan o'r cynllun hwn. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cefnogi gan fodelu traffig cysylltiedig a fydd yn cael ei lywio gan yr arolygon traffig treial a'r cyfrifiadau traffig a gwblhawyd yn ddiweddar.
A yw ailgyfeirio llif y traffig drwy'r Stryd Fawr wedi cael ei ystyried yn ein cynigion?
Penderfynwyd ar gyfeiriad llif y traffig ar gyfer y Stryd Fawr fel rhan o'r system unffordd sy'n cael ei chyflwyno. Nid ydym yn cynnig newid symudiad traffig ar hyd cyfan y Stryd Fawr a'r ffyrdd cyfagos.
A fydd y sioe geir flynyddol, y digwyddiadau a'r marchnadoedd yn bosibl yn y Stryd Fawr o dan eich dyluniad chi?
Bydd y cynllun arfaethedig ar waelod y Stryd Fawr yn benodol yn creu ardaloedd y gellir eu defnyddio ar gyfer bwyta a seddi yn yr awyr agored a gellir eu defnyddio hefyd ar gyfer marchnadoedd a digwyddiadau'r Stryd Fawr. Bydd yr ardal yn cael ei dylunio mewn ffordd y gellir cau / gwneud ardaloedd yn rhai i gerddwyr dros dro ar gyfer digwyddiadau a marchnadoedd os oes angen.
A fydd cerbydau dosbarthu yn gallu parcio ar y Stryd Fawr?
Bydd y gwelliannau arfaethedig yn darparu mannau parcio llwytho a dadlwytho ffurfiol ar hyd y Stryd Fawr a bydd y defnydd o'r ardaloedd draenio gwyrdd a pholion posibl yn cael eu defnyddio i annog/atal parcio y tu allan i'r ardaloedd dynodedig hyn.
A fydd busnesau y mae’r gwaith yn effeithio arnynt yn gymwys i gael iawndal?
Yn anffodus, fel sy’n wir ar gyfer pob math o waith dros dro, nid oes cynllun iawndal pwrpasol ar gael gan yr awdurdod lleol i fusnesau allai gael eu heffeithio yn ystod cam adeiladu’r prosiect. Fodd bynnag, os yw perchennog busnes yn teimlo y gallai’r gwaith effeithio ar eu busnes, mae’n bosibl y byddant yn gymwys i gael gostyngiad dros dro ar eu hardrethi busnes trwy gysylltu â’r Swyddfa Brisio.
Pe baent am gael rhagor o wybodaeth am hyn, byddai angen iddynt gysylltu â’r Swyddfa Brisio yn uniongyrchol a llenwi ffurflen apelio ar sail ‘newidiadau i amgylchiadau materol’ ar gyfer cyfnod yr amhariad lleol. Mae’r ffurflen apelio ar gael yma (gwefan allanol)
Hefyd, efallai yr hoffai perchnogion busnes ymgynghori â’u darparwr yswiriant i weld a yw eu polisi yn cynnwys hawl i gyflwyno hawliad am amhariad i’w busnes.
Mae gwasanaethau Busnes Cymru yn darparu cyngor a chanllawiau arbenigol i gefnogi pobl sy’n dechrau, yn rhedeg neu’n datblygu eu busnesau. Er nad oes cyllid iawndal ar gael efallai, mae’n bosibl y gallant roi cyngor busnes drwy hyfforddiant a marchnata. Eu rhif ffôn yw 0300 060 3000.
Os ddim, pa gefnogaeth sydd ar gael i helpu busnesau i reoli unrhyw amhariad yn ystod y cyfnod adeiladu?
Bydd gwasanaeth cludiant pwrpasol ar gael trwy gydol y cyfnod adeiladu i helpu busnesau i barhau i weithredu ac i gynorthwyo â symud nwyddau a derbyn danfoniadau pan fo’r gwaith yn effeithio ar fynediad. Bwriad y gwasanaeth yw lleihau amhariad, cynnal mynediad i gwsmeriaid a chyflenwyr a chefnogi busnesau tra bydd gwelliannau’r Stryd Fawr yn cael eu gwneud.
Darperir rhagor o fanylion i fusnesau am sut i ddefnyddio’r gwasanaeth cludiant a’r gefnogaeth sydd ar gael yn ystod pob cam o’r gwaith.