Gwneud cais am Swm Cymudol

Beth sy'n digwydd i fy ngwybodaeth?

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn casglu eich gwybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaethau sydd yn berthnasol i’ch cais.

Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd arlein i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut rydym ni’n trin eich gwybodaeth bersonol.

  • Cyn i chi ddechrau eich cais

    Wrth wneud cais am Swm Cymudol, bydd angen i chi:

    • ddarparu gwybodaeth am eich sefydliad, gan gynnwys:
      • y math o sefydliad
      • rhif yr elusen (os yw’n berthnasol)
      • manylion cyswllt
      • Rhif cofrestru TAW (os yw’n berthnasol)
    • darparu gwybodaeth am eich prosiect, gan gynnwys:
      • trosolwg byr o'r prosiect
      • y lleoliad
      • a yw’r lleoliad ar brydles, ac os felly, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth bod y perchennog wedi rhoi caniatâd i barhau â’ch prosiect
      • a oes angen caniatâd cynllunio, ac os felly, bydd angen i chi ddarparu eich cyfeirnod cynllunio.
      • gwybodaeth am ddull rheoli’r prosiect yn y dyfodol
      • gwybodaeth am sut fydd yn effeithio ar yr ardal ac a yw’n cyfrannu at:
    • Dadansoddiad ariannol o beth fyddai’r cyllid yn cael ei wario arno.
    • Rhestr o arian cyfatebol ar gyfer y prosiect (O le mae’r arian cyfatebol yn dod ac a yw wedi’i gymeradwyo eto). Sylwch mai dymunol yw llawer o’r cyllid, nid hanfodol.

    Delweddau a dogfennau

    Bydd dewis i chi lwytho delweddau neu ddogfennau sy’n ymwneud â chynllun safle, darluniau a lleoliad eich prosiect. Mae hyn yn ddewisol, ond mae’n ddefnyddiol pe gallech chi eu darparu os ydynt ar gael.