Clwb ieuenctid Corwen

Mynd yn syth i:

Clwb ieuenctid Corwen

Oriau agor

Dydd Iau: 6pm i 8pm i bobl ifanc ym mlwyddyn ysgol 7 ac uwch.

Yn ôl i frig y dudalen.

Gweithgareddau

Darganfod beth sy’n digwydd yng Nghorwen.

Hydref 2023

Hydref 2023

3 Hydref: Croeso cynnes a sesiwn chwaraeon

Croesawu aelodau newydd a’r rhai sy'n dychwelyd. Cael trefn ar unrhyw waith papur, cytuno ar safonau ar gyfer y flwyddyn i ddod a dod yn gyfarwydd â'r adeilad.
Chwaraeon ar y cae neu dan do, yn dibynnu ar y tywydd.


10 Hydref: Dathlu Wythnos Adeiladu'r Byd

Creu pontydd sbageti a chystadlu yn yr her gollwng wyau!


17 Hydref: Gwneud tôsti – her melys a sawrus

Gwnewch tostenni yn ddiddorol – pwy all feddwl am gymysgedd melys a sawrus?


24 Hydref: Dathliadau noson Calan Gaeaf

Cystadlaethau parti Calan Gaeaf wedi'u hamseru ar gyfer towcio afalau a lapio mymi! Crefft a cherddoriaeth ar thema Calan Gaeaf.


Wythnos yn dechrau 30 Hydref: hanner tymor

Trip i’r Sinema - dyddiad i’w gadarnhau.

Tachwedd 2023

Tachwedd 2023

Wythnos yn dechrau 30 Hydref: hanner tymor

Trip i’r Sinema - dyddiad i’w gadarnhau.


7 Tachwedd: Noson Tân Gwyllt

Crefftau a pheintio tân gwyllt, cyfle i wneud eich afalau siocled, taffi triog a bysedd siocled sgleiniog eich hun!


14 Tachwedd: Dathlu gwyddoniaeth - arbrofion a bod yn greadigol

Gwneud gwyddoniaeth yn ddiddorol gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau i greu cynhyrchion newydd.


21 Tachwedd: Chwaraeon dan do

Criced a phêl-droed dan do.


28 Tachwedd: Bingo cerddoriaeth

Barod i chwarae bingo, ond ychydig yn wahanol?

Rhagfyr 2023

Rhagfyr 2023

5 Rhagfyr: Crefftau Nadolig

Gwneud cardiau ac addurniadau Nadolig.


12 Rhagfyr: Noson ffilm Nadolig

Pleidlais ffilm Nadolig gan y bobl ifanc, a bwyd parti.

Os nad ydych chi wedi cofrestru efo ni’n barod, defnyddiwch y ddolen berthnasol ar gyfer eich oedran. Dylai plant a phobl ifanc dan 13 oed ofyn i riant neu ofalwr lenwi’r ffurflen.

Cofrestru gyda chlwb ieuenctid Corwen (13 oed a hŷn)

Cofrestru gyda chlwb ieuenctid Corwen (dan 13 oed)

Yn ôl i frig y dudalen.

Cyfleusterau

  • Mynediad i bobl anabl
  • WiFi am ddim
  • Bwrdd pŵl
  • Tennis bwrdd
  • Xbox
  • Deunyddiau celf a chrefft
  • Gemau bwrdd

Yn ôl i frig y dudalen.

Cwrdd â’r tîm

Charlotte Morris ydi Gweithiwr Ieuenctid Cymunedol ardal Dyffryn Dyfrdwy. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn fe allwch chi siarad efo hi wyneb yn wyneb neu’n defnyddio’r manylion isod.

Yn ôl i frig y dudalen.

Mesurau diogelwch Covid


Rydym yn parhau i ddilyn y cyngor a roddir gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â COVID-19 (gwefan allanol). Peidiwch â dod i mewn i’r ganolfan os ydych chi neu’r bobl rydych chi’n byw gyda nhw yn sâl neu’n dangos symptomau o COVID-19. Tra’r ydych yn y ganolfan, dilynwch unrhyw arwyddion â chyfarwyddiadau diogelwch arnynt ac unrhyw geisiadau gan staff. 

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut i ddod o hyd i ni a chysylltu efo ni

Canolfan NI
London Road
Corwen
LL21 0DG

Cysylltwch â chanolfan ieuenctid Corwen arlein

Ffôn: 01490 413429

Rhif ffôn symudol Charlotte Morris: 07880 300420

Sut i gyrraedd yma

Cynlluniwch eich taith gyda Traveline Cymru (gwefan allanol)

Meysydd parcio agosaf y Cyngor ydi:

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.