Medi 2025
11 Medi: Paned a sgwrs - Croeso’n ôl!
Croesewir aelodau hen a newydd i’r ganolfan ieuenctid i gael sgwrs am y gwyliau a thrafod y pethau da a drwg am ddychwelyd i’r ysgol. Byddwn yn ymchwilio i gyfeillgarwch fel pwnc ac yn nodi Wythnos yr Ambiwlans Awyr drwy ddysgu am waith yr elusen hon a rhai eraill.
18 Medi: Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Rhywiol
Byddwn yn cael trafodaeth addas i oedran y cyfranogwyr ynglŷn ag iechyd rhywiol, gan gynnwys perthnasoedd a phwysigrwydd ein cyfoedion, yn ogystal â’r pwysau o dyfu i fyny a ffitio i mewn.
25 Medi: Gwneud pizza iach
Trafod manteision bwyta’n iach a dewis bwyd yn ddoeth.