Clwb ieuenctid Llanelwy

St Asaph Youth Project

Mynd yn syth i:

Oriau agor

Dydd Llun 6pm i 8pm: i bobl ifanc ym mlwyddyn ysgol 7 ac uwch.

Yn ôl i frig y dudalen.

Gweithgareddau

Ebrill 2025

Ebrill 2025

7 Ebrill: Diffodd technoleg!

Cyfle i bobl ifanc drafod manteision iechyd meddwl a lles o ganlyniad i beidio â defnyddio technoleg a sut i ganfod cydbwysedd newydd.


14 Ebrill: Gwyliau’r Pasg

Ar gau dros y Pasg - ni fydd sesiwn yr wythnos hon.


21 Ebrill: Gwyliau’r Pasg

Ar gau dros y Pasg - ni fydd sesiwn yr wythnos hon.


28 Ebrill: Cymryd gofal o’n hamgylchedd

Bydd pobl ifanc yn edrych ar yr hyn a olygir wrth ostwng, ailddefnyddio ac ailgylchu gyda thrafodaeth, cwis a chrefftau.

Mai 2025

Mai 2025

5 Mai: Gŵyl y Banc

Ni fydd sesiwn yr wythnos hon.


12 Mai: Paned a sgwrs

Cyfle i drafod pynciau’r wythnos a rhannu teimladau a syniadau gyda chyfoedion.


19 Mai: Beth mae teulu yn ei olygu i ni?

Sesiwn grefftau a thrafodaeth i edrych ar beth mae teulu yn ei olygu i ni a phwysigrwydd cyfeillgarwch a chefnogi eraill.


26 Mai: Gŵyl y Banc

Ni fydd sesiwn yr wythnos hon.

Mehefin 2025

Mehefin 2025

2 Mehefin: Paned a sgwrs - mae iechyd meddwl o bwys

Cyfle i edrych ar iechyd meddwl a pham ei bod yn bwysig siarad.


9 Mehefin: Cymwynas annisgwyl

Cyfle i edrych ar beth mae’n ei olygu i fod yn garedig a pham ei fod yn bwysig.


16 Mehefin: Paned a sqwrs

A chat with young people about what they’d like do in the next quarter.


23 Mehefin: Noson gwis

Cwis llawn hwyl gyda phopcorn a siocled poeth.

Os nad ydych chi wedi cofrestru efo ni’n barod, defnyddiwch y ddolen berthnasol ar gyfer eich oedran. Dylai plant a phobl ifanc dan 13 oed ofyn i riant neu ofalwr lenwi’r ffurflen.

Cofrestru gyda Chlwb Ieuenctid Llanelwy (13 oed a hŷn)

Cofrestru gyda Chlwb Ieuenctid Llanelwy (dan 13 oed)

Yn ôl i frig y dudalen.

Cyfleusterau

  • PlayStation 4
  • Gemau bwrdd
  • Deunyddiau celf a chrefft
  • Offer chwaraeon

Yn ôl i frig y dudalen.

Cwrdd â’r tîm

Claire Cunnah ydi’r Gweithiwr Ieuenctid Cymunedol ar gyfer gogledd y sir. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn fe allwch chi siarad efo hi wyneb yn wyneb neu’n defnyddio’r manylion isod.

Yn ôl i frig y dudalen.

Mesurau diogelwch Covid

Rydym yn parhau i ddilyn y cyngor a roddir gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â COVID-19 (gwefan allanol). Peidiwch â dod i mewn i’r ganolfan os ydych chi neu’r bobl rydych chi’n byw gyda nhw yn sâl neu’n dangos symptomau o COVID-19. Tra’r ydych yn y ganolfan, dilynwch unrhyw arwyddion â chyfarwyddiadau diogelwch arnynt ac unrhyw geisiadau gan staff. 

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut i ddod o hyd i ni a chysylltu efo ni

Llyfrgell Llanelwy
Y Roe
Llanelwy
LL17 0LU

Cysylltwch â chlwb ieuenctid Llanelwy arlein

Ffôn: 07500 992443

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut i gyrraedd yma

Cynlluniwch eich taith gyda Traveline Cymru (gwefan allanol)

Maes parcio agosaf y Cyngor ydi:

Llanelwy: Lawnt Fowlio

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.