Tachwedd 2026
3 Tachwedd: Wythnos Gwaith Ieuenctid
Eleni, rydym yn dathlu’r bobl, y llefydd a’r profiadau sy’n helpu pobl ifanc i dyfu, perthyn a ffynnu. O weithwyr ieuenctid cefnogol i fannau diogel, mae gwaith ieuenctid yn chwarae rôl allweddol yn siapio dyfodol pobl ifanc.
10 Tachwedd: Afalau siocled
Gall pobl ifanc wneud eu hafalau siocled eu hunain a dewis eu topins.
17 Tachwedd: Noson ffilm
Bydd y bobl ifanc yn cael gwylio ffilm yn y ganolfan ieuenctid, gyda danteithion blasus a siocled poeth gyda’r holl drimins.
24 Tachwedd: Creu Addurniadau Nadolig
Bydd pobl ifanc yn creu eu haddurniadau Nadolig eu hunain ar gyfer eu canolfan ieuenctid.