Canolfan ieuenctid Prestatyn

Mynd yn syth i:

Prestatyn youth centre

Oriau agor

  • Dydd Mawrth 6pm i 8pm: sesiwn iau i bobl ifanc 11 oed neu hŷn ac ym mlynyddoedd 7 ac 8.
  • Dydd Mercher 6pm i 8pm: sesiwn hŷn i bobl ifanc ym mlwyddyn ysgol 9 ac uwch hyd at 17 oed.

Yn ôl i frig y dudalen.

Gweithgareddau

Sesiwn iau

Gorffennaf 2026

Gorffennaf 2026

7 Gorffennaf: Gemau awyr agored

Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gemau awyr agored megis rownderi, tynnu rhaff neu bêl-droed.

14 Gorffennaf: Helfa sborionwyr

Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn helfa sborionwyr, ble bydd rhaid iddynt weithio mewn timau a rasio i ddod o hyd i bopeth ar y rhestr yn gyntaf. Pwyntiau bonws i’r gorau o bob tîm hefyd.

22 Gorffennaf: Wythnos 1 gwyliau’r haf - Miri Mawr yr Haf, Prestatyn

Gall pobl ifanc ddod at ei gilydd am hwyl, gemau a bwyd gyda’r Tîm Ieuenctid, y Tîm Gwydnwch Cymunedol, Hamdden Sir Ddinbych Cyf ac eraill.

28 i 30 Gorffennaf: Wythnos 2 gwyliau’r haf - Gwersyll Haf Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych

Yn y pedwerydd gwersyll haf blynyddol a gynhelir o 28 i 30 Gorffennaf, gall pobl ifanc o bob un o'n clybiau ieuenctid ddod at ei gilydd am brofiad gwersylla awyr agored dwy noson.

Awst 2026

Awst 2026

6 Awst: Wythnos 3 gwyliau’r haf - Miri Mawr yr Haf, Prestatyn

11 Awst: Wythnos 4 gwyliau’r haf

Dim gweithgareddau yr wythnos hon.

19 Awst: Wythnos 5 gwyliau’r haf - Miri Mawr yr Haf, Prestatyn

Gall pobl ifanc ddod at ei gilydd am hwyl, gemau a bwyd gyda’r Tîm Ieuenctid, y Tîm Gwydnwch Cymunedol, Hamdden Sir Ddinbych Cyf ac eraill.

26 Awst: Wythnos 6 gwyliau’r haf - Miri Mawr olaf yr Haf, y Rhyl

Siaradwch â’r Tîm Ieuenctid am fwy o wybodaeth.

Medi 2026

Medi 2026

1 Medi: Canolfan gymunedol ar gau ar gyfer hyfforddiant staff

Dim gweithgareddau yr wythnos hon.

8 Medi: Croeso’n ôl a chwis

Caiff pobl ifanc eu croesawu’n ôl i’r clwb gyda noson o ddal i fyny a chwis rhyngweithiol.

15 Medi: Sgiliau gwaith coed gyda Gerry - rhan 1

Bydd pobl ifanc yn cael cyfle i ddylunio a chreu eu blwch adar eu hunain.

22 Medi: Sgiliau gwaith coed gyda Gerry - rhan 1

Bydd pobl ifanc yn cael cyfle i ddylunio a chreu eu blwch adar eu hunain.

29 Medi: Cynllunio ar gyfer ein mannau awyr agored

Bydd pobl ifanc yn edrych ar ddyluniadau i wella man awyr agored y ganolfan ieuenctid a phrosiectau eraill yn Sir Ddinbych.

Sesiwn hŷn

Gorffennaf 2026

Gorffennaf 2026

8 Gorffennaf: Gemau awyr agored

Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gemau awyr agored megis rownderi, tynnu rhaff neu bêl-droed.

15 Gorffennaf: Helfa sborionwyr

Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn helfa sborionwyr, ble bydd rhaid iddynt weithio mewn timau a rasio i ddod o hyd i bopeth ar y rhestr yn gyntaf. Pwyntiau bonws i’r gorau o bob tîm hefyd.

22 Gorffennaf: Wythnos 1 gwyliau’r haf - Miri Mawr yr Haf, Prestatyn

Gall pobl ifanc ddod at ei gilydd am hwyl, gemau a bwyd gyda’r Tîm Ieuenctid, y Tîm Gwydnwch Cymunedol, Hamdden Sir Ddinbych Cyf ac eraill.

28 i 30 Gorffennaf: Wythnos 2 gwyliau’r haf - Gwersyll Haf Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych

Yn y pedwerydd gwersyll haf blynyddol a gynhelir o 28 i 30 Gorffennaf, gall pobl ifanc o bob un o'n clybiau ieuenctid ddod at ei gilydd am brofiad gwersylla awyr agored dwy noson.

Awst 2026

Awst 2026

6 Awst: Wythnos 3 gwyliau’r haf - Miri Mawr yr Haf, Prestatyn

Gall pobl ifanc ddod at ei gilydd am hwyl, gemau a bwyd gyda’r Tîm Ieuenctid, y Tîm Gwydnwch Cymunedol, Hamdden Sir Ddinbych Cyf ac eraill.

12 Awst: Wythnos 4 gwyliau’r haf

Dim gweithgareddau yr wythnos hon.

19 Awst: Wythnos 5 gwyliau’r haf - Miri Mawr yr Haf, Prestatyn

Gall pobl ifanc ddod at ei gilydd am hwyl, gemau a bwyd gyda’r Tîm Ieuenctid, y Tîm Gwydnwch Cymunedol, Hamdden Sir Ddinbych Cyf ac eraill.

26 Awst: Wythnos 6 gwyliau’r haf - Miri Mawr olaf yr Haf, y Rhyl

Gall pobl ifanc ddod at ei gilydd am hwyl, gemau a bwyd gyda’r Tîm Ieuenctid, y Tîm Gwydnwch Cymunedol, Hamdden Sir Ddinbych Cyf ac eraill.

Siaradwch â’r Tîm Ieuenctid am fwy o wybodaeth.

Medi 2026

Medi 2026

2 Medi: Canolfan gymunedol ar gau ar gyfer hyfforddiant staff

Dim gweithgareddau yr wythnos hon.

9 Medi: Croeso’n ôl a chwis

Caiff pobl ifanc eu croesawu’n ôl i’r clwb gyda noson o ddal i fyny a chwis rhyngweithiol.

15 Medi: Cystadleuaeth Pŵl

Pobl ifanc i gystadlu mewn gwahanol gystadlaethau pŵl, yn unigol ac mewn timau – gan gynnwys ‘killer pool’, yr enillydd i aros a sgiliau yn erbyn y cloc.

22 Medi: Cynllunio ar gyfer ein mannau awyr agored

Bydd pobl ifanc yn edrych ar ddyluniadau i wella man awyr agored y ganolfan ieuenctid a phrosiectau eraill yn Sir Ddinbych.

29 Medi: Noson Gemau Mawr

Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan ac yn herio'r tîm ieuenctid i gemau fel Kerplunk, Guess Who? a Yahtzee anferth.

Os nad ydych chi wedi cofrestru efo ni’n barod, mae’n rhaid i chi lenwi’r ffurflen islaw cyn i’ch plentyn allu mynychu ein clybiau ieuenctid. Dylai plant a phobl ifanc dan 13 oed ofyn i riant neu ofalwr lenwi’r ffurflen.

Cofrestru gyda Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych (gwefan allanol)

You can choose to change the language to English or Welsh on the form page.

Ar ôl i chi gwblhau’r ffurflen, nid oes angen i chi aros i glywed gennym ni, gallant ymuno â’r sesiwn nesaf sydd ar gael yn unrhyw un o’n clybiau ieuenctid.

Yn ôl i frig y dudalen.

Cyfleusterau

  • Mynediad i bobl anabl
  • WiFi am ddim
  • Bwrdd pŵl
  • Tennis bwrdd
  • Playstation
  • Cegin
  • Neuadd chwaraeon
  • Deunyddiau celf a chrefft
  • Gemau bwrdd

Yn ôl i frig y dudalen.

Cwrdd â’r tîm

Claire Cunnah ydi’r Gweithiwr Ieuenctid Cymunedol ar gyfer gogledd y sir. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn fe allwch chi siarad efo hi wyneb yn wyneb neu’n defnyddio’r manylion isod.

Yn ôl i frig y dudalen.

Mesurau Diogelwch Covid

Rydym yn parhau i ddilyn y cyngor a roddir gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â COVID-19 (gwefan allanol). Peidiwch â dod i mewn i’r ganolfan os ydych chi neu’r bobl rydych chi’n byw gyda nhw yn sâl neu’n dangos symptomau o COVID-19. Tra’r ydych yn y ganolfan, dilynwch unrhyw arwyddion â chyfarwyddiadau diogelwch arnynt ac unrhyw geisiadau gan staff. 

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut i ddod o hyd i ni a chysylltu efo ni

Canolfan Ieuenctid Prestatyn
Dawson Drive
Prestatyn
LL19 8SY

Cysylltwch â chanolfan ieuenctid Prestatyn arlein

Ffôn: 07500 992443

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut i gyrraedd yma

Cynlluniwch eich taith gyda Traveline Cymru (gwefan allanol)

Meysydd parcio agosaf y Cyngor ydi:

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.