Clwb ieuenctid Hwb Rhuddlan

Mynd yn syth i:

Hwb Rhuddlan

Oriau agor

Dydd Llun 6pm tan 8pm: sesiwn iau i bobl ifanc ym mlwyddyn ysgol 6, 7 ac 8.

Yn ôl i frig y dudalen.

Gweithgareddau

Darganfod beth sy’n digwydd yn Rhuddlan.

Mehefin 2025

Mehefin 2025

2 Mehefin: Paned a sgwrs - mae iechyd meddwl o bwys

Cyfle i edrych ar iechyd meddwl a pham ei bod yn bwysig siarad.


9 Mehefin: Cymwynas annisgwyl

Cyfle i edrych ar beth mae’n ei olygu i fod yn garedig a pham ei fod yn bwysig.


16 Mehefin: Paned a sqwrs

A chat with young people about what they’d like do in the next quarter.


23 Mehefin: Noson gwis

Cwis llawn hwyl gyda phopcorn a siocled poeth.

Gorffennaf 2025

Gorffennaf 2025

7 Gorffennaf: Mynd am bicnic yn ystod Wythnos Genedlaethol y Picnic

Bydd pobl ifanc yn gwneud eu hoff frechdanau a sgwrsio am bob agwedd ar bicnics, fel y lleoedd gorau i fynd a’r manteision ac anfanteision o fod allan ym myd natur.


14 Gorffennaf: Noson hwyl, gemau a bingo

Yn ein sesiwn olaf cyn gwyliau’r haf, byddwn yn sôn am gynlluniau ar gyfer y gwyliau, rhannu ein teimladau am symud yn ein blaenau a sgwrsio am y gwersyll ieuenctid.

Gweithgareddau Gwyliau’r Haf

Gwyliau haf 2025

12 i 14 Awst: Gwersyll haf 2025

Gwersyll haf Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych.

Medi 2025

Medi 2025

8 Medi: Paned a sgwrs - Croeso’n ôl!

Croesewir aelodau hen a newydd i’r ganolfan ieuenctid i gael sgwrs am y gwyliau a thrafod y pethau da a drwg am ddychwelyd i’r ysgol. Byddwn yn ymchwilio i gyfeillgarwch fel pwnc ac yn nodi Wythnos yr Ambiwlans Awyr drwy ddysgu am waith yr elusen hon a rhai eraill.


15 Medi: Ymwybyddiaeth o gyfryngau cymdeithasol

Byddwn yn cael sgwrs addas i oedran y cyfranogwyr ynglŷn â gwahanol agweddau ar gyfryngau cymdeithasol a’u heffaith ar fywyd go iawn. Pwy allwn ni ymddiried ynddynt ar-lein, mor bwysig i’w bobl o’n cwmpas ni a sut i ddod ymlaen â nhw.


22 Medi: Gwneud pizza iach

Trafod manteision bwyta’n iach a dewis bwyd yn ddoeth.


29 Medi: Diwylliant

Byddwn yn bwrw golwg ar ddiwylliannau o bedwar ban byd ac yn sôn am y pethau sy’n gwneud amryw wledydd yn enwog.

Os nad ydych chi wedi cofrestru efo ni’n barod, defnyddiwch y ddolen berthnasol ar gyfer eich oedran. Dylai plant a phobl ifanc dan 13 oed ofyn i riant neu ofalwr lenwi’r ffurflen.

Cofrestru gyda canolfan ieuenctid Rhuddlan (13 oed a hŷn)

Cofrestru gyda canolfan ieuenctid Rhuddlan (dan 13 oed)

Yn ôl i frig y dudalen.

Cyfleusterau

  • peli pêl-droed, rygbi a phêl-fasged
  • bwrdd pŵl
  • Xbox
  • cae chwaraeon
  • mynediad i’r ardal chwaraeon amlddefnydd (MUGA)
  • byrddau celf a chrefft
  • gemau bwrdd
  • bagiau ffa er mwyn ymlacio

Yn ôl i frig y dudalen.

Cwrdd â’r tîm

Claire Cunnah ydi’r Gweithiwr Ieuenctid Cymunedol ar gyfer gogledd y sir. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn fe allwch chi siarad efo hi wyneb yn wyneb neu’n defnyddio’r manylion isod.

Mesurau Diogelwch Covid

Rydym yn parhau i ddilyn y cyngor a roddir gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â COVID-19 (gwefan allanol). Peidiwch â dod i mewn i’r ganolfan os ydych chi neu’r bobl rydych chi’n byw gyda nhw yn sâl neu’n dangos symptomau o COVID-19. Tra’r ydych yn y ganolfan, dilynwch unrhyw arwyddion â chyfarwyddiadau diogelwch arnynt ac unrhyw geisiadau gan staff. 

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut i ddod o hyd i ni a chysylltu efo ni

Clwb ieuenctid Hwb Rhuddlan
Clos David Owen
Rhuddlan
Sir Ddinbych
LL18 2UJ

Cysylltwch â clwb ieuenctid Rhuddlan arlein

Rhif ffôn symudol Claire Cunnah: 07500 992443

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut i gyrraedd yma

Cynlluniwch eich taith gyda Traveline Cymru (gwefan allanol)

Mae lle i barcio yn Hwb Rhuddlan.

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.