Canolfan ieuenctid y Rhyl

Mynd yn syth i:

Canolfan ieuenctid y Rhyl

Oriau agor

Dydd Mawrth 6pm tan 8pm: sesiwn iau i bobl ifanc 11 oed neu hŷn ac ym mlynyddoedd 7 ac 8.

Dydd Mercher 6pm tan 8pm: sesiwn hŷn i bobl ifanc ym mlwyddyn ysgol 9 ac uwch hyd at 17 oed.

Yn ôl i frig y dudalen.

Gweithgareddau

Bob wythnos, bydd gennym weithgaredd dan sylw, ynghyd ag amrywiaeth o weithgareddau, gemau a phethau eraill i gymryd rhan ynddynt drwy gydol y sesiwn.

Sesiwn iau

Hydref 2026

Hydref 2026

6 Hydref: Paentio canhwyllau

Bydd pobl ifanc yn addurno canhwyllau i fynd adref gyda nhw.


13 Hydref: Diwrnod Cenedlaethol Addurno Cacennau

I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Addurno Cacennau, bydd pobl ifanc yn defnyddio amrywiaeth o gynhwysion i addurno eu cacennau eu hunain.


20 Hydref: Noson gemau bwrdd / cardiau

Bydd pobl ifanc yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ac aelodau staff mewn noson o gemau bwrdd a chardiau.


27 Hydref: Egwyl hanner tymor

Dim sesiwn yr wythnos yma.

Tachwedd 2026

Tachwedd 2026

3 Tachwedd: Wythnos Gwaith Ieuenctid

Eleni, rydym yn dathlu’r bobl, y llefydd a’r profiadau sy’n helpu pobl ifanc i dyfu, perthyn a ffynnu. O weithwyr ieuenctid cefnogol i fannau diogel, mae gwaith ieuenctid yn chwarae rôl allweddol yn siapio dyfodol pobl ifanc.


10 Tachwedd: Afalau siocled

Gall pobl ifanc wneud eu hafalau siocled eu hunain a dewis eu topins.


17 Tachwedd: Noson ffilm

Bydd y bobl ifanc yn cael gwylio ffilm yn y ganolfan ieuenctid, gyda danteithion blasus a siocled poeth gyda’r holl drimins.


24 Tachwedd: Creu Addurniadau Nadolig

Bydd pobl ifanc yn creu eu haddurniadau Nadolig eu hunain ar gyfer eu canolfan ieuenctid.

Rhagfyr 2026

Rhagfyr 2026

1 Rhagfyr: Addurniadau Nadolig

Bydd pobl ifanc yn addurno eu canolfannau ieuenctid gyda’u creadigaethau Nadoligaidd o’r wythnos gynt.


8 Rhagfyr: Diwrnod siwmper Nadolig a gemau

Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o gemau Nadoligaidd, gyda phwyntiau bonws i’r siwmper Nadolig orau.


15 Rhagfyr: Hyfforddiant staff

Dim sesiwn yr wythnos yma.


22 Rhagfyr: Gwyliau’r Nadolig

Dim sesiwn yr wythnos yma.


29 Rhagfyr: Gwyliau’r Nadolig

Dim sesiwn yr wythnos yma.

Sesiwn hŷn

Hydref 2026

Hydref 2026

7 Hydref: Paentio canhwyllau

Bydd pobl ifanc yn addurno canhwyllau i fynd adref gyda nhw.


14 Hydref: Diwrnod Cenedlaethol Addurno Cacennau

I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Addurno Cacennau, bydd pobl ifanc yn defnyddio amrywiaeth o gynhwysion i addurno eu cacennau eu hunain.


21 Hydref: Noson gemau bwrdd / cardiau

Bydd pobl ifanc yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ac aelodau staff mewn noson o gemau bwrdd a chardiau.


28 Hydref: Egwyl hanner tymor

Dim sesiwn yr wythnos yma.

Tachwedd 2026

Tachwedd 2026

4 Tachwedd: Wythnos Gwaith Ieuenctid

Eleni, rydym yn dathlu’r bobl, y llefydd a’r profiadau sy’n helpu pobl ifanc i dyfu, perthyn a ffynnu. O weithwyr ieuenctid cefnogol i fannau diogel, mae gwaith ieuenctid yn chwarae rôl allweddol yn siapio dyfodol pobl ifanc.


11 Tachwedd: Afalau siocled

Gall pobl ifanc wneud eu hafalau siocled eu hunain a dewis eu topins.


18 Tachwedd: Noson ffilm

Bydd y bobl ifanc yn cael gwylio ffilm yn y ganolfan ieuenctid, gyda danteithion blasus a siocled poeth gyda’r holl drimins.


25 Tachwedd: Creu Addurniadau Nadolig

Bydd pobl ifanc yn creu eu haddurniadau Nadolig eu hunain ar gyfer eu canolfan ieuenctid.

Rhagfyr 2026

Rhagfyr 2026

2 Rhagfyr: Addurniadau Nadolig

Bydd pobl ifanc yn addurno eu canolfannau ieuenctid gyda’u creadigaethau Nadoligaidd o’r wythnos gynt.


9 Rhagfyr: Diwrnod siwmper Nadolig a gemau

Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o gemau Nadoligaidd, gyda phwyntiau bonws i’r siwmper Nadolig orau.


16 Rhagfyr: Hyfforddiant staff

Dim sesiwn yr wythnos yma.


23 Rhagfyr: Gwyliau’r Nadolig

Dim sesiwn yr wythnos yma.


30 Rhagfyr: Gwyliau’r Nadolig

Dim sesiwn yr wythnos yma.

Os nad ydych chi wedi cofrestru efo ni’n barod, mae’n rhaid i chi lenwi’r ffurflen islaw cyn i’ch plentyn allu mynychu ein clybiau ieuenctid. Dylai plant a phobl ifanc dan 13 oed ofyn i riant neu ofalwr lenwi’r ffurflen.

Cofrestru gyda Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych (gwefan allanol)

You can choose to change the language to English or Welsh on the form page.

Ar ôl i chi gwblhau’r ffurflen, nid oes angen i chi aros i glywed gennym ni, gallant ymuno â’r sesiwn nesaf sydd ar gael yn unrhyw un o’n clybiau ieuenctid.

Yn ôl i frig y dudalen.

Cyfleusterau

  • Mae’r ystafell ieuenctid yn cynnwys:
    • bwrdd pŵl
    • tennis bwrdd
    • pêl-fasged
    • bagiau ffa er mwyn ymlacio
    • byrddau celf a chrefft
    • gemau
    • cerddoriaeth
  • Cegin yn cynnwys yr holl gyfarpar ar gyfer meithrin sgiliau byw'n annibynnol ac achrediadau Agored
  • Ystafell un i un ar gyfer trafodaethau unigol
  • Ystafell hyfforddi ar gyfer prosiectau a chyfleoedd dysgu
Delweddau

Delweddau

Cyfleusterau 1

Gweithgareddau 2

Gweithgareddau 3

Gweithgareddau 4

Cyfleusterau 5

Cyfleusterau 6

Gweithgareddau 7

Yn ôl i frig y dudalen.

Cwrdd â’r tîm

Claire Cunnah ydi Gweithiwr Ieuenctid Cymunedol y Rhyl. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn fe allwch chi siarad efo hi wyneb yn wyneb neu’n defnyddio’r manylion isod.

Mesurau Diogelwch Covid

Rydym yn parhau i ddilyn y cyngor a roddir gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â COVID-19 (gwefan allanol). Peidiwch â dod i mewn i’r ganolfan os ydych chi neu’r bobl rydych chi’n byw gyda nhw yn sâl neu’n dangos symptomau o COVID-19. Tra’r ydych yn y ganolfan, dilynwch unrhyw arwyddion â chyfarwyddiadau diogelwch arnynt ac unrhyw geisiadau gan staff. 

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut i ddod o hyd i ni a chysylltu efo ni

Canolfan ieuenctid y Rhyl
East Parade
Y Rhyl
LL18 3AF

Cysylltwch â canolfan ieuenctid y Rhyl arlein

Rhif ffôn symudol Claire Cunnah: 07500 992443

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut i gyrraedd yma

Cynlluniwch eich taith gyda Traveline Cymru (gwefan allanol)

Maes parcio agosaf y Cyngor ydi: maes parcio East Parade (ger y Bar Syrffio Barcud)

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.