Nodweddion hygyrchedd

Mewn Saesneg Clir

Rydym yn ceisio ysgrifennu mewn Saesneg clir ac osgoi jargon lle bynnag bosibl. Os nad ydych yn deall rhywbeth, rhowch wybod i ni.

Gwrandewch ar ein gwefan

Gallwch ddefnyddio ReachDeck (gwefan allanol) i wrando ar ein gwefan drwy glicio ar y ddolen ReachDeck sy’n ymddangos ar waelod ein tudalennau gwe:

ReachDeck

Mae ReachDeck yn ddefnyddiol os:

  • Oes gennych chi ddyslecsia
  • Oes gennych chi anawsterau dysgu
  • Oes gennych chi nam ar eich golwg
  • Ydych yn defnyddio Saesneg fel ail iaith

Strwythurau penawdau

Rydym yn defnyddio strwythurau penawdau syml ar ein gwefan sy'n gwneud ein tudalennau yn haws i'w llywio, yn arbennig ar gyfer pobl gyda darllenwyr sgriniau.

Safonau gwe

Mae mwyafrif o'n tudalennau gwe yn cydymffurfio â safonau HTML a nodir gan y Consortiwm Gwe Fyd-Eang (W3C) (gwefan allanol).

Rydym yn defnyddio nifer o adnoddau profi wrth gyhoeddi tudalennau gwe er mwyn sicrhau bod ein gwefan mor hygyrch â phosibl. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr adnoddau a ddefnyddiwn i brofi ein gwefan yn ein datganiad hygyrchedd.

Dolenni cyswllt

Er mwyn hysbysu defnyddwyr darllenwyr sgrin, rydym yn cynnwys cyfeiriadau (gwefan allanol) yn ein holl ddolenni i wefannau allanol. Ar gyfer dolenni i ddogfennau, rydym yn anelu i ddarparu gwybodaeth maint a fformat dogfen ym mwyafrif o'n dolenni.

Allweddi mynediad

Gellir defnyddio’r allweddi mynediad canlynol ar ein gwefan i lywio yn uniongyrchol i nodweddion gwefan neu dudalennau a restrir isod:

S - Osgoi'r Gwe-lywio

1 - Hafan

3 - Map safle

4 - Chwilio

8 - Telerau ac amodau

9 - Ffurflen Adborth (tudalen Cysylltu â ni)

Map safle

Mae cyfeiriadur o’n holl wasanaethau a gwybodaeth arlein ar gael ar ein tudalen map safle.

Ffurflenni

Rydym yn defnyddio nifer o ffurflenni ar-lein ar y wefan hon, a ddarperir gan systemau amrywiol. Nid yw ein gwefan yn gwbl hygyrch i ddarllenwyr sgrin ac rydym yn gweithio gyda'n darparwyr i ddatrys hyn.

Dogfennau

Rydym yn ymdrechu i wneud ein dogfennau mor hygyrch â phosibl i gynifer o bobl â phosibl. Gweler ein polisi dogfennau hygyrch i gael rhagor o wybodaeth am ein dogfennau ar-lein a’r hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd.

Nodweddion tudalen newidiol

Maint testun

Os ydych yn gweld maint testun y safle yn rhy fach neu fawr, gallwch ei newid gyda nodwedd maint testun yn eich porwr (zoom).

Er mwyn newid maint testun ein gwefan gan ddefnyddio eich porwr:

  • Defnyddiwch y ddewislen 'view' ac yna dewiswch 'text size', yn Windows Internet Explorer (gan gynnwys Pocket IE)
  • Defnyddiwch y ddewislen ‘view’ ac yna dewiswch 'text size', ar gyfer porwyr Firefox a Mozilla.
  • Defnyddiwch 'View' ac yna 'make text bigger' yn Safari
  • Defnyddiwch 'View' a 'style' ac yna 'user mode', yn Opera
  • Defnyddiwch 'View' ac yna 'text zoom', yn Macintosh Internet Explorer a Netscape 6 a 7
  • Gyda llygoden olwyn, gallwch newid maint y testun drwy bwyso'r allwedd Control neu Command a throi'r olwyn. Mewn rhai porwyr, gallwch newid maint y testun drwy ddefnyddio Control neu Command a'r botymau + neu -.

Arddull a lliw testun

Gallwch hefyd nodi arddull a lliw y testun, yn ogystal â lliwiau blaendir a chefndir. Mae'r ffordd i wneud hyn yn amrywio o borwr i borwr, a byddwch angen:

  • Defnyddio 'Tools' yn 'Internet Options', gyda Windows Internet Explorer (gan gynnwys Pocket IE).
  • Defnyddio 'Tools' yn 'Options' o dan 'Content', yn Firefox a Mozilla.
  • Defnyddio 'View' ac yna 'make text bigger' yn Safari.
  • Defnyddio 'View' ac yna 'Zoom', yn Opera.
  • Defnyddio 'View' ac yna ‘text zoom’, yn Macintosh Internet Explorer a Netscape 6 a 7.