Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Llun o Covid

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn rhoi gwybod i fusnesau yn y sir am grantiau sy'n cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru i helpu busnesau i oroesi canlyniadau economaidd y cyfnod clo yng Nghymru o ganlyniad i glefyd Covid-19.

Mae'r Grant Ardrethi Annomestig Cyfyngiadau Symud a’r Grant Dewisol Cyfyngiadau Symud yno i gefnogi busnesau sydd â chymorth llif arian ar unwaith i'w helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfnod clo byr cenedlaethol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cefnogi costau cadw staff lle bo hynny'n briodol. Mae'r grant yn ceisio ategu mesurau ymateb Covid-19 eraill i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru.

Mae'r broses ymgeisio yn cael ei lansio ledled Cymru ddydd Mercher, 28 Hydref. Anogir busnesau yn Sir Ddinbych i ymweld â gwefan y Cyngor: www.sirddinbych.gov.uk/grantiau-busnes  o'r dyddiad hwnnw lle ceir y wybodaeth ddiweddaraf am wneud cais am y grantiau a'r cyllid sydd ar gael.

Bydd y gronfa ymgeisio yn cau am 5pm ar 20 Tachwedd 2020 neu pan fydd y gronfa wedi'i hymrwymo'n llawn.

Dywedodd Arweinydd Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans OBE, sydd hefyd yn Aelod Arweiniol y Cabinet dros yr Economi: "Rydym wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i ddarparu pecyn cymorth ariannol i fusnesau sy'n cael eu heffeithio gan gyfyngiadau parhaus.

"Mae'n taro'r economi genedlaethol yn galed ac nid yw'r sefyllfa'n wahanol yn Sir Ddinbych. Rydym wedi clywed hynny gan y busnesau'n uniongyrchol ac mae llawer yn awyddus iawn i gael rhyw fath o gymorth ariannol a fydd yn helpu i leddfu'r baich ariannol.

"Dyna pam rydym yn annog busnesau i ymweld â gwefan y Cyngor o ddydd Mercher lle bydd manylion am feini prawf cymhwysedd a chyflwyno cais am gymorth ariannol yn ddi-oed, i weld a all y cymorth eu helpu i oroesi a pharhau i weithredu".


Cyhoeddwyd ar: 27 Hydref 2020