Mae trigolion, busnesau a grwpiau cymunedol y Rhyl wedi uno i lunio strategaeth adfywio newydd 10 mlynedd, gwerth £20 miliwn ar gyfer y dref.
Dros y misoedd diwethaf, mae Bwrdd Ein Rhyl / Our Rhyl wedi gweithio gyda'r cynghorwyr Savills, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych, a phartneriaid lleol i sicrhau bod y cynllun yn adlewyrchu blaenoriaethau pobl leol.
Mae'r gwaith ymgysylltu wedi cynnwys gweithdai, arolygon, digwyddiadau dros dro, cyfryngau cymdeithasol, a sgyrsiau uniongyrchol ar draws y dref glan môr.
Cafwyd dros 550 o ymatebion i’r arolwg dros yr haf a ddosbarthwyd ar-lein ac yn bersonol ar y promenâd, y stryd fawr, Marchnad y Frenhines, y llyfrgell a Chanolfan y Merched.
Roedd bron i bedwar o bob pump o'r ymatebwyr yn byw neu'n gweithio yn y Rhyl, gyda'r gweddill yn ymweld â'r dref. Gwnaeth gweithdy busnes gyrraedd 20 o gyflogwyr lleol, gan ategu mewnbwn cryf gan ieuenctid a'r trydydd sector.
Y prif bryderon a nodwyd oedd dirywiad canol y dref a siopau gwag (93%), tlodi ac anghydraddoldeb (72%), a diogelwch cymunedol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol (68%). Dywedodd trigolion y byddai'r gwelliannau mwyaf yn dod o strydoedd mwy diogel, cyfleusterau ieuenctid a hamdden gwell, a mannau cyhoeddus glanach a gwyrddach.
Dywedodd Craig Sparrow, Cadeirydd Bwrdd Ein Rhyl: “Mae pobl yn poeni'n fawr am ddyfodol y Rhyl, ac mae eu lleisiau'n llunio'r daith o'u blaenau.
“Nid ymarfer o'r brig i lawr yw hwn, ond cynllun a adeiladwyd o'r gwaelod i fyny, gan ddefnyddio gwybodaeth leol, profiad byw ac uchelgais. Mae'r Rhyl yn eiddo i'w phobl – bydd eu blaenoriaethau'n tywys sut rydym yn buddsoddi i adeiladu tref gryfach, mwy diogel a mwy bywiog.”

Craig Sparrow
Mae'r canlyniadau'n adlewyrchu canfyddiadau o arolwg trigolion ar wahân yn 2025 sy'n dangos galw cryf am adnewyddu’r stryd fawr a mwy o weithgareddau i blant. Gyda'i gilydd, maent yn atgyfnerthu'r pedwar mater allweddol a nodwyd yng nghynllun creu lleoedd y Rhyl, sydd eisoes wedi cynnwys dros 2,500 o leisiau lleol.
Mae ymgysylltu ag ieuenctid wedi bod yn ffocws mawr. Cyrhaeddodd Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych dros 300 o bobl ifanc trwy 18 sesiwn ar y stryd, pum grŵp ffocws a chyfres podlediad 10 pennod gyda phartneriaid gan gynnwys Wicked Wales, Brighter Futures, Coleg Llandrillo'r Rhyl, a Heddlu Gogledd Cymru.

Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych
Mae eu prif flaenoriaethau'n cynnwys creu Parth Ieuenctid Pwrpasol, datblygu platfform digidol a rennir i hyrwyddo clybiau, digwyddiadau a chefnogaeth leol, ehangu cyfleoedd gwirfoddoli, a gwella ardaloedd awyr agored a hamdden.
Yn y cyfamser, casglodd Cyngor Sir Dinbych adborth gan fwy na 40 o sefydliadau gwirfoddol a chymunedol. Pwysleisiodd y sector yr angen brys i fynd i'r afael â thlodi, unigedd ac iechyd meddwl gwael, datgloi cyfleoedd i bobl ifanc ac adeiladu balchder lle.
Mae Cyngor Sir Dinbych wedi galw am fuddsoddiad hirdymor, hyblyg a rôl wirioneddol i gymunedau mewn gwneud penderfyniadau, gan sicrhau bod adfywio yn cael ei adeiladu gyda thrigolion, nid yn unig ar eu cyfer nhw.
Dyna fydd yn cael ei wneud gan y Rhaglen Balchder Bro sydd ar y gweill. Gan ganolbwyntio ar leoedd ffyniannus, cymunedau cryfach a rheolaeth leol, bydd yn arwain cynllun buddsoddi cychwynnol y Rhyl a gyflwynir yn ddiweddarach eleni.
Am ragor o wybodaeth am Ein Rhyl/Our Rhyl ewch i sirddinbych.gov.uk/bwrdd-cymdogaeth-y-rhyl (Cymraeg), a dilynwch @einrhyl a @ourrhyl ar Instagram, LinkedIn a TikTok.

Nick Bennett a Emma Leung (Savills)