Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Llun o llyfrau ar silff

Mae gan Lyfrgelloedd Sir Ddinbych y cynhesydd gaeaf perffaith i chi y mis hwn gyda chriw cyffrous o awduron poblogaidd yn ymweld â llyfrgelloedd i siarad â darllenwyr am eu llyfrau mewn Gŵyl Ffuglen.

Os ydych chi’n ffan o nofelau trosedd yn arbennig, neu’n mwynhau cyfarfod i sgwrsio am lyfrau, mae rhywbeth i chi yn y digwyddiadau ar draws y sir. Mae’r holl ddigwyddiadau am ddim, ond cysylltwch â’r llyfrgell berthnasol i archebu eich lle.

Mae’r digwyddiadau’n rhan o ymgyrch Byw’n Dda yng Nghymru, Lleoedd i Gysylltu a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae llyfrgelloedd yng Nghymru yn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau lle gallwch gysylltu â ffrindiau neu gwrdd â phobl newydd, rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol neu ddysgu sgil newydd, a darganfod beth arall sydd ar gael yn eich cymuned. Mae croeso cynnes i bawb o bob oed yn eich llyfrgell leol.

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth, “Rwy mor falch fod ein llyfrgelloedd yn darparu’r rhaglen wych yma o ymweliadau gan awduron mor boblogaidd. Bydd yn gyfle da i ddarllenwyr ac aelodau llyfrgell gyfarfod a sgwrsio hefo’r awduron a’i gilydd. Mae llyfrgelloedd yn cynnig cymaint o gyfleoedd i bobl gysylltu hefo’i gilydd a’u cymuned trwy eu hoffter o lyfrau a darllen ac mae’r Ŵyl Ffuglen yn enghraifft wych o hyn.”

Rhaglen yr Ŵyl Ffuglen

Dydd Mawrth 22 Tachwedd 2pm John Alwyn Griffiths yn Llyfrgell Rhuthun Ffôn: 01824 705274 (digwyddiad Cymraeg)

Yn enedigol o Fangor, roedd John Alwyn Griffiths yn blismon a dreuliodd ei yrfa yn gweithio ledled Gogledd Cymru cyn ymddeol yn 1998. Ers hynny mae wedi mynd ymlaen i ysgrifennu naw nofel yn cynnwys y Ditectif Jeff Evans, a hunangofiant.

Dydd Mawrth 22 Tachwedd 6.30pm Alis Hawkins yn Llyfrgell Llanelwy Ffôn: 01745 582253

Mae Alis Hawkins yn awdur sydd ar restr fer y Gymdeithas Ysgrifenwyr Troseddau am ffuglen drosedd hanesyddol a dirgelion, gan gynnwys cyfres Crwner Dyffryn Teifi sy’n cynnwys y Crwner Harry Probert-Lloyd a’i gynorthwyydd, John Davies yn y 1850au Gorllewin Cymru.

Dydd Llun 28 Tachwedd 2pm Kate Ellis yn Llyfrgell Rhuddlan Ffôn: 01745 590719

Mae Kate Ellis o Swydd Gaer yn awdur dwy gyfres gyffrous o nofelau trosedd, dwy nofel hanesyddol a llawer o straeon byrion. Mae hi wedi ysgrifennu dros 20 o nofelau sy'n cynnwys y Ditectif Ringyll Wesley Peterson, sydd wedi graddio mewn archaeoleg, ac sy'n brwydro yn erbyn trosedd yn "strydoedd tywyll" (neu a ddylai fod yn "lonydd tywyll"?) De Dyfnaint.

Dydd Mercher 30ain Tachwedd 11am Elen Wyn yn Llyfrgell Dinbych Ffôn: 01745 816313 (digwyddiad Cymraeg)

Mae Elen Wyn wedi ei lleoli yn Ninbych ac yn Uwch Ohebydd Newyddion gyda BBC Cymru. Mae hi newydd gyhoeddi ei 3edd nofel.

Dydd Mercher 30 Tachwedd 2pm Simon McCleave yn Llyfrgell Prestatyn Ffôn: 01745 854841

Mae Simon McCleave wedi gwerthu dros filiwn o nofelau trosedd Prydeinig. Rhyddhawyd ei lyfr cyntaf, ‘The Snowdonia Killings’, ym mis Ionawr 2020 a chyrhaeddodd rif 1 yn Siart Amazon UK a gwerthu dros 200,000 o gopïau. Mae newydd arwyddo cytundeb gyda’r cewri cyhoeddi Harper Collins i ysgrifennu cyfres drosedd newydd wedi ei leoli ar Ynys Môn.

Dydd Iau 1 Rhagfyr 2pm Martin Edwards yn Llyfrgell y Rhyl Ffôn: 01745 353814

Ynghyd â Kate Ellis, mae Martin Edwards yn aelod o’r Sgwad Llofruddiaethau o awduron trosedd ac mae’n enillydd CWA Diamond Dagger – yr anrhydedd uchaf mewn ysgrifennu trosedd yn y DU. Yn ogystal ag ysgrifennu ffuglen trosedd mae wedi cyhoeddi llyfr yn ddiweddar ar hanes ffuglen trosedd.


Cyhoeddwyd ar: 10 Tachwedd 2022