Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae Cyngor Sir Ddinbych ac AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi rhoi cynlluniau yn eu lle er mwyn sicrhau bod safleoedd cefn gwlad yn parhau i fod yn ddiogel wrth i'r cyfyngiadau teithio gael eu llacio.

Bydd Llywodraeth Cymru yn codi'r canllawiau ar aros yn lleol o ddydd Sadwrn Mawrth 27 ac mae gwaith wedi'i wneud mewn safleoedd dros Sir Ddinbych, gan gynnwys parciau gwledig Moel Famau a Loggerheads, i wneud yn siŵr fod mesurau yn eu lle i gadw ymwelwyr yn ddiogel.

Mae hyn yn cynnwys gwelliannau i’r meysydd parcio ym Moel Famau, gwella’r llwybrau yn Loggerheads a gwaith ger Rhaeadr y Bedol i wella mynediad.

Dywedodd Huw Rees, Rheolwr Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth Cyngor Sir Ddinbych: “Rydym yn gwybod ei fod wedi bod yn gyfnod anodd i drigolion gan nad oedden nhw'n gallu mwynhau ardaloedd cefn gwlad yma yn Sir Ddinbych a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi dilyn y rheolau i wneud ymarfer corff o'u cartref.

“Mae’r Cyngor ac AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi bod yn paratoi ar gyfer y newid yn y cyfyngiadau. Serch hynny, mae’n hollbwysig fod yr ymwelwyr yn chwarae eu rhan wrth ddychwelyd i’n safleoedd cefn gwlad.

“Mae’n bwysig fod ymwelwyr yn gwybod pa gyfyngiadau a chanllawiau sydd yn eu lle cyn teithio ac er mwyn cadw eu hunain a phobl eraill yn ddiogel, dylen nhw osgoi adegau prysur, gwirio o flaen llaw i weld a yw’r cyfleusterau ar agor a, lle bo hynny’n bosibl, ymweld â safleoedd tawelach a mynd am dro mewn llefydd tawelach yn ystod y cyfnod ailagor cynnar hwn. Bydd hyn yn helpu i osgoi cyfnodau prysur a phroblemau parcio.

“Mae’n bwysig hefyd fod ymwelwyr yn parchu ardaloedd cefn gwlad a’u bod yn ymddwyn yn gyfrifol yn ystod eu hymweliad ac mae hyn yn golygu cadw cŵn ar dennyn a pheidio â gadael sbwriel.

“Hoffem sicrhau trigolion y byddwn yn parhau i weithio gyda Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid er mwyn lledaenu’r neges fod cyfyngiadau’n parhau ar deithio dros y ffin.”

Ceir rhestr o deithiau cerdded amgen yn y sir yn https://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/projects/community-miles/?lang=cy

 


Cyhoeddwyd ar: 26 Mawrth 2021