Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn gwahodd oedolion (16+ oed) i gymryd rhan mewn cyfres unigryw o sesiynau lles creadigol yr hydref hwn, lle bydd Lego ar gael i oedolion.
Mae “Ailadeiladu a Ffynnu” yn rhaglen o sesiynau am ddim am bedair wythnos sy’n cael eu cynnal bob prynhawn Mawrth rhwng 12:30 a 2:30pm, gan ddechrau 16 Medi tan 7 Hydref 2025. Fe gynhelir y sesiynau yn Llyfrgell y Rhyl.
Nod y sesiynau yw rhoi hwb i les, hyder a datblygiad personol drwy bleser syml ond pwerus adeiladu Lego.
Fe arweinir y sesiynau gan Floss Barrett, artist blodau LEGO a fu ar ei thaith ei hun o wella wedi’i ysbrydoli gan y rhaglen. Fe ddechreuodd Floss adeiladu gyda LEGO yn dilyn ymosodiad â chyllell a’i gadawodd gydag anafiadau difrifol i’w dwy law. Yn rhan o’i hadferiad corfforol, fe ddechreuodd ddefnyddio LEGO i ailadeiladu cryfder a symudedd yn ei bysedd, ond yn fuan fe ddarganfu ei fod yn adnodd hollbwysig i ailadeiladu ei lles.
Mae Floss yn wirfoddolwr angerddol sy’n arbenigo ym Mlodau Botanegol LEGO ac mae’n awyddus i gyflwyno pobl eraill i’r tawelwch, creadigrwydd a phleser y gall yr hobi unigryw yma ei ennyn.
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae cefnogi pobl i deimlo’n well, i gredu yn eu hunain ac i archwilio cyfleoedd newydd wrth wraidd popeth yr ydym ni’n ei wneud. Mae Ailadeiladu a Ffynnu yn enghraifft wych o sut y gall creadigrwydd a chysylltiad ysbrydoli pobl i symud ymlaen.”
Caiff y fenter ei chyflwyno gan Barod, Sir Ddinbych yn Gweithio a Floss, ac mae’n cefnogi pobl i wella eu lles, magu hyder, a chymryd camau tuag at gyflogaeth neu hyfforddiant.
Meddai Floss Barrett, gwirfoddolwr gyda Sir Ddinbych yn Gweithio:
“Pan oeddwn i’n teimlo eithriadol o isel, rhoddodd LEGO ofod i mi ddianc. Fe ddaeth yn hafan ddiogel i mi, yn fyd lle gallwn i fod yn fi. Rydw i eisiau i bobl eraill deimlo’r un tawelwch, ffocws a chreadigrwydd. Bu LEGO yn help i mi wella ac rydw i wir yn credu y gall helpu pobl eraill hefyd.”
Fe fydd y sesiynau yn ymlaciol, yn gynhwysol ac ar agor i bob oedolyn, pa unai ydych chi eisiau gwella eich lles, ail-fagu hyder, neu eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Nid oes angen profiad, ac fe fydd Floss a thîm Sir Ddinbych yn Gweithio wrth law i gynnig cefnogaeth i’r rhai sy’n bresennol drwy gydol.
Gallwch fynychu dim ond un sesiwn, neu’r pedwar, ond mae llefydd yn brin, felly mae’n rhaid archebu lle. I gadw eich lle, ewch i'n gwefan.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.
Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.