Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Yn dilyn ystyriaeth ofalus a thrafodaeth fanwl, mae Cyngor Sir Ddinbych a Mikhail Hotel & Leisure Group wedi cytuno i beidio â bwrw ymlaen â’u partneriaeth arfaethedig ym Marchnad y Frenhines y Rhyl.

Yn dilyn trafodaethau manwl, mae’r ddau barti wedi cytuno na fyddai modd cyflawni cydweledigaeth ar gyfer Marchnad y Frenhines.

Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn rhoi cynllun newydd ar waith i benodi gweithredwr ar gyfer y cyfleuster, a bydd rhagor o wybodaeth ar gael am hyn maes o law.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae prosiect Marchnad y Frenhines yn rhan hollbwysig o’r gwaith datblygu parhaus sy’n mynd rhagddo yn y Rhyl, ac mae’r gwaith strwythurol ar yr adeilad yn tynnu tua’r terfyn.

Bydd Marchnad y Frenhines yn darparu cynnig masnachol unigryw i bobl Sir Ddinbych a thu hwnt ac rydym yn ymrwymo i sicrhau y bydd y prosiect hwn yn darparu’r cynnig a’r canlyniad gorau posibl i bobl y Rhyl.

Bydd gwaith yn parhau i gwblhau’r cyfleuster fel y bwriadwyd, ac edrychwn ymlaen at agor Marchnad y Frenhines ar gyfer busnes yn 2024.

Hoffem ddiolch i Mikhail Hotel & Leisure Group am eu cydweithrediad ar y prosiect hwn a dymunwn yn dda iddynt i’r dyfodol.”

Dywedodd Andrew Mikhail, Cadeirydd Grŵp Mikhail

“Hoffem ddiolch i’r tîm yng Nghyngor Sir Ddinbych am eu cefnogaeth dros y misoedd diwethaf, gan ein bod wedi mwynhau gweithio gyda nhw i ddod o hyd i ateb sydd o fudd i’r ddwy ochr ar gyfer y lleoliad gwych hwn.

Yn y pen draw, roeddem yn teimlo nad oedd Marchnad y Frenhines yn cyd-fynd â’n model gweithredu. Dymunwn bob llwyddiant i dîm y Cyngor ar gyfer dyfodol prosiect Marchnad y Frenhines.”


Cyhoeddwyd ar: 05 Rhagfyr 2023